Thomas, Walter Vincent (1873-1940)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Arweinydd a chyfansoddwr a aned yn yr Hen Ficerdy, Wrecsam, Sir Ddinbych. Dechreuodd gyfansoddi pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Grove Park yn y dref ac astudiodd o dan Dr Warwick Jordan a Dr Matthew Ennis. Ar ôl gweithio am gyfnod byr ym Manc Parr, Wrecsam, symudodd i Lundain yn yr 1890au i weithio i ddechrau yn y London, County and Westminster Bank; yno yn 1895 ffurfiodd gerddorfa gyda rhai o aelodau’r staff. Yn 1898 perfformiodd am y tro cyntaf yn y Queen’s Hall, Llundain, fel arweinydd a chyfansoddwr ac fe’i penodwyd yn arweinydd i’r byrhoedlog Beecham Grand Opera Company, y Westminster Choral Society a’r London Welsh Stage Society ymhlith eraill. Bu hefyd yn arweinydd allanol ar amryfal achlysuron, gan gynnwys arwain y Liverpool Welsh Choral Union yn eu cynhyrchiad ym mis Rhagfyr 1916 o Messiah Handel. Dywedwyd bod y perfformiad hwnnw’n ddehongliad ‘mawreddog ac aruchel’ a bod Thomas yn amlygu ‘manylder rhyfeddol’.

Pan gynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Wrecsam yn 1933, ef oedd arweinydd a chyfarwyddwr cerdd y ddrama foes ‘Pobun’ [Everyman], ac roedd hefyd yn un o’r beirniaid cerdd yno. Yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1934 arweiniodd Gerddorfa Symffoni Llundain a Chôr yr Eisteddfod mewn cyfansoddiad o’i eiddo ei hun, ‘Marwnad i Fardd o Gymro’. Ef oedd y Cymro cyntaf i feirniadu yng Ngŵyl Gerdd Genedlaethol yr Alban yn Oban a threfnodd yr alaw o Ucheldir yr Alban, ‘MacRimmon’s Lament’ (1938).

Lleisiol a chorawl yw ei gyfansoddiadau ar y cyfan, ac maent yn cynnwys yr operâu Eos and Gwevril (1902), Gwenevere (1905), Enid (1908) a The Masque of the Grail (1908), yn ogystal â baled gorawl The Sword of Glyndwr, cerdd gorawl The Field of Honour a chyfres i gerddorfa, From the Welsh Hills. Yn 1900 cyhoeddodd gyfrol gyntaf casgliad o’r enw Cryes of Olde London. Ysgrifennodd ddau gylch o ganeuon, The Valley of Dreams a Dream Island, a pherfformiwyd y cylch cyntaf yn 1913 yng nghyngherddau’r Queen’s Hall Promenade. Roedd ei gorws i gorau meibion, De Profundis (1939), yn brif ddarn prawf ar gyfer corau meibion yn Eisteddfod Radio Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberpennar (1940). Cyfansoddodd nifer o ran- ganeuon hefyd, gan gynnwys ‘Y Deryn Pur’ (1933), ‘Y Sêr’ (1938), ‘Banwell Hill’ (1939) ac ‘April Days’ (1939), a chyhoeddwyd ei waith gan Cramer, Boosey & Hawkes, Elkin ac yn fwy diweddar, Gwynn. Un o’i gyfansoddiadau mawr olaf oedd Y Bumed Gerdd (1940), gosodiad o Taliesin ar gyfer Côr a Cherddorfa SATB.

Ar 1 Mehefin 1900 priododd Ellen Margaret Cornforth yng Nghapel Wesleaidd Great Queen Street, St Giles, Llundain. Ganed mab a merch iddynt. Bu farw ar 16 Hydref 1940.

David R. Jones

Llyfryddiaeth

  • ‘Mr. Vincent Thomas and the Production of “Pobun”’, The Leader (4 Awst 1933)
  • Ysgrif Goffa, Western Mail (17 Hydref 1940)
  • Ysgrif Goffa, The Leader (25 Hydref 1940)
  • Nansi Pugh, The Liverpool Welsh Choral Union[:] The First Hundred Years (Penbedw, 2007)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.