Thomas, Wyn (g.1958)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Yn enedigol o Aberystwyth, graddiodd y cerddoregydd a’r ethnogerddoregydd Wyn Thomas mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a chwblhaodd astudiaethau ôl-radd yno ym maes ethnogerddoreg yn 1983. Yn dilyn cyfnod fel cynorthwy-ydd ymchwil ym Mhrifysgol Cymru, fe’i penodwyd yn ddarlithydd ym Mangor yn 1981.

Mae’n uwch ddarlithydd yn yr ysgol gerddoriaeth, ac fe’i gwnaed yn Gymrawd Dysgu o’r Brifysgol. Treuliodd gyfnod sabothol fel dirprwy is-ganghellor y Brifysgol gyda Chyfrifoldeb Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned. Yn sgil ei rôl yn yr ysgol gerddoriaeth, mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddarpariaeth addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes cerddoriaeth. Yn ogystal mae wedi gwneud llawer i atgyfnerthu cysylltiadau rhwng sefydliadau busnes a’r byd academaidd; ers yr 1990au cynnar bu ganddo ran allweddol mewn ffurfio partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth gan hwyluso cynlluniau ymchwil gyda sefydliadau megis cwmni recordio Sain, Sinffonieta Llundain a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl.

Wedi ei benodiad yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth, sefydlodd Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru yn y Brifysgol yn gynnar yn yr 1980au; daeth yr Archif yn ganolfan hollbwysig i hybu gweithgaredd ymchwil ym maes cerddoriaeth draddodiadol Cymru. O dan adain yr Archif, cyhoeddwyd argraffiad ffacsimili o lawysgrif unigryw’r telynor Robert ap Huw, Musica (Gwasg Scolar, 1987). Ffurfiodd gysylltiadau cadarn gyda sefydliadau cenedlaethol allanol megis Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Werin Cymru a Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn ogystal â phartneriaethau gyda chanolfannau ymchwil cyffelyb mewn gwledydd eraill. O dan gyfarwyddyd Wyn Thomas, mae’r Archif, sy’n rhan ganolog o Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol, yn parhau i fod yn storfa werthfawr o recordiadau llafar a cherddorol, ynghyd â chasgliadau o draethodau, llyfrau a llawysgrifau yn ymwneud â cherddoriaeth draddodiadol Cymru.

Rhennir prif ddiddordebau ymchwil Wyn Thomas i bedwar maes: cerddoriaeth draddodiadol Cymru; cerddoriaeth yng Nghymru; ethnogerddoreg ac organoleg; a gwragedd ym myd cerddoriaeth Cymru. Mae wedi cyhoeddi’n eang yn y meysydd hyn. Gyda Sally Harper, bu’n cyd-olygu’r cyfnodolyn dwyieithog Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History (Gwasg Prifysgol Cymru). Cyd-olygodd gyfres o ysgrifau i anrhydeddu Phyllis Kinney a Meredydd Evans, Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru: Cynheiliaid y Gân (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007). Mae wedi cywain gwybodaeth ar gyfer sawl cyfrol lyfryddiaethol ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru, ac wedi golygu cyfieithiadau Cymraeg o lyfrau addysgiadol pwysig megis Crynhoad o Hanes Cerddoriaeth Fodern gan Paul Griffiths (1985) a Hanes Cerddoriaeth y Gorllewin gan D. J. Grout (Gwasg Prifysgol Cymru, 1997). Ysgrifennodd yn helaeth ar wragedd ym myd cerddoriaeth Cymru, gyda phwyslais ar y casglwyr alawon Annie Ellis (Cwrt Mawr), Jennie Williams, Mary Davies a Grace Gwyneddon Davies (Meistres Graianfryn). Yn fwy diweddar, cyd-olygodd y gyfrol bresennol, Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, gyda Pwyll ap Siôn ar gyfer gwasg Y Lolfa.

Tristian Evans



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.