Tirffurfiau Ffrwdrewlifol

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:59, 13 Awst 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: fluvioglacial landforms)

Y tu hwnt i derfynau llenni iâ (ice sheet) a rhewlifau mae afonydd a nentydd allolchi (outwash), a gyflenwir gan ffrydiau o ddŵr tawdd uwchrewlifol, mewnrewlifol a thanrewlifol, yn gyfrifol am ddyddodi’n gyflym drwch o waddodion ffrwdrewlifol (haenau o raean a thywod yn bennaf) sy’n esgor ar dri grŵp o dirffurfiau allolchi, sef (i) bwâu allolchi (outwash fans) a gwastadeddau allolchi (outwash plains) sy’n nodweddu’n bennaf y rhagdiroedd rhewlifol (glacial forelands) heb gyfyngiadau topograffig; (ii) terasau ffrwdrewlifol (kame terraces) a chnyciau gro (kames) sy’n nodweddu’n bennaf ddyffrynnoedd mwy cyfyngedig; a (iii) esgeiriau (eskers) sy’n nodweddu dyffrynnoedd eang a rhagdiroedd.

Mae bwâu allolchi’n ymgrynhoi o flaen terfyn rhewlif neu len iâ sefydlog ac yn y mannau hynny lle mae ffrydiau o ddŵr tawdd yn ymarllwys o ben blaen y corff iâ. Ond wrth i ddau neu fwy o fwâu gyfuno â’i gilydd esgorir ar wastadeddau allolchi (sandurau) a nodweddir gan systemau cymhleth o afonydd plethog (braided rivers), ynghyd ag olion hen sianeli a barrau. Weithiau, y mae i’r rhan honno o fwa sydd agosaf at derfyn yr iâ, sylfaen sylweddol o iâ llonydd claddedig (buried dead ice) ac os yw hwnnw’n dadmer wedi i lif yr afon a greodd y bwa sychu, trawsnewidir arwyneb cymharol lyfn y bwa yn ddrysfa o gnyciau a phantiau, gan ffurfio topograffi cnwc a phant (kame and kettle topography). Fodd bynnag, yn absenoldeb haen sylweddol o iâ claddedig, dim ond ambell bant iâ llonydd (kettle hole – pant sy’n ymffurfio wrth i gorff o iâ ddadmer a’r gwaddodion oddi amgylch iddo gwympo) a fyddai’n ymddangos ar arwyneb y bwa. At hynny, os pery llif yr afon sy’n cyflenwi gwaddodion y bwa wedi i’r iâ claddedig lwyr ddiflannu, ni fyddai fawr ddim tystiolaeth o ymsuddiant (subsidence) yn ymddangos ar arwyneb y bwa, er y byddai’n amlwg ar ffurf adeileddau gwaddodol (sedimentary structures) oddi mewn i’r gwaddodion allolchi.

Ar loriau dyffrynnoedd, gall gwaddodion allolchi ymgasglu ar ffurf terasau ffrwdrewlifol y naill ochr a’r llall i ran flaen rhewlif enciliol, yn enwedig os yw’r iâ’n gymharol lonydd. Mae maint teras ffrwdrewlifol yn dibynnu’n bennaf ar faint yr afon ddŵr-tawdd ochrol, sy’n cyflenwi’r gwaddodion allolchi, ac ar ongl y llechwedd y mae’r rhewlif yn rhannol orwedd arno. Felly, os yw’r afon ddŵr-tawdd ochrol yn fawr a llechweddau’r dyffryn ar oleddf cymedrol bydd y teras a ddaw i fod, o ganlyniad i’r ddadmer iâ ochrol claddedig, yn esgor ar gadwyn o bantiau iâ llonydd ar hyd wyneb blaen y teras. Yn absenoldeb y fath gadwyn amlwg o bantiau iâ llonydd gall gweddillion arwyneb llain ddyranedig o waddodion allolchi (llain dyffryn [valley train]) gael eu camgymryd am derasau ffrwdrewlifol.

Twmpath neu fryncyn unigol o waddodion haenog ffrwdrewlifol yw cnwc gro (kame). Yn achos nifer ohonynt, mae’n ymddangos fod y gwaddodion wedi ymgasglu ar waelod siafftiau dŵr tawdd (moulins) a chrefasau, ond gall eraill gynrychioli crynoadau o waddodion a ddyddodwyd hwnt ac yma ar welyau afonydd uwchrewlifol ac a gafodd eu graddol ostwng ar wely’r rhewlif o ganlyniad i ddarfodiant yr iâ llonydd.

Yn wahanol i gnyciau gro, y gred yw y caiff y rhan fwyaf o esgeiriau eu dyddodi gan afonydd dŵr tawdd yn llifo drwy dwneli tanrewlifol a bod cyfeiriadaeth y cefnennau dolennog hyn, sy’n cynnwys tywod a graean lled annidoledig (poorly-sorted) ac o bosibl orchudd tenau o dil, yn cyfateb i gyfeiriad llif yr iâ. Eto i gyd, ni ddylid diystyru’r posibilrwydd fod rhai esgeiriau, a all fod ar ffurf cefnennau unigol neu rwydweithiau o gefnennau plethog, yn cynrychioli systemau draenio mewnrewlifol ac uwchrewlifol. Yn wir, mae arsylwadau yng Ngwlad yr Iâ yn awgrymu y gall gwaddodion ffrwdrewlifol sy’n llenwi twneli mewnrewlifol a sianeli uwchrewlifol gael eu gostwng a’u harosod ar wely rhewlif o ganlyniad i enciliad a darfodiant yr iâ. Ar ben hynny, mae awduron eraill o’r farn fod ambell esgair yn datblygu wrth i afon ddŵr-tawdd danrewlifol ddyddodi llwythi o waddodion ffrwdrewlifol o flaen trwyn rhewlif neu len iâ sy’n prysur encilio. Mae’r fath esgeiriau wedi’u cyffelybu i ddeltâu hirgul a ddatblygodd ar ongl sgwâr i derfyn yr iâ.

Llyfryddiaeth

Bennett, M.R. a Glasser, N.F. (ail arg. 2009) Glacial Geology: Ice Sheets and Landforms, Wiley, Chichester, tt. 289–99

Benn, D.I. a Evans, D.J.A. (adarg. 2010) Glaciers and Glaciation, Arnold, Llundain, tt. 450–7 a 487–500

Price, R.J. (1973) Glacial and Fluvioglacial Landforms, Oliver & Boyd, Caeredin, tt. 131–77



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.