Tomkins (Teulu'r)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Teulu o gerddorion o’r 17g. a hanai o Dyddewi, Sir Benfro; cerddorion mwyaf blaenllaw Prydain yn ystod teyrnasiad Iago I a Siarl I.

Thomas Tomkins (yr hynaf) (c.1545-1627)

Ymddengys enw Thomas Tomkins gyntaf yn Llyfrau Gweithredoedd y Cabidwl yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 1565, lle disgrifir ef fel ficer corawl. Bu’n Feistr y Cantorion ac yn Organydd o tua 1573 tan 1586, pan symudodd ef a’i deulu i Gaerloyw. Cymerodd Tomkins urddau eglwysig a dod yn is-ganon yn Eglwys Gadeiriol Caerloyw; o 1610 hyd ei farwolaeth ef oedd Blaenor y Gân. Tadogir arno nifer o weithiau hynafiaethol, gan gynnwys hanes Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Lladin, sydd bellach ar goll. Priododd Tomkins ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Margaret Poher (pr.c. 1572–1586), a ganed iddynt dri o blant; yr ieuengaf ohonynt oedd y cyfansoddwr, Thomas Tomkins (gw. Tomkins, Thomas). Rywbryd cyn 1586 priododd Anne Hergest, o fferm Penarthur gerllaw, a chafodd gyda hi saith plentyn arall; etifeddodd John, Robert a Giles ddoniau cerddorol eu tad, gan wasanaethu fel organyddion yn y Capel Brenhinol; bu Peregrine yn un o weision y brenin.

John Tomkins (1586-1638)

Ystyrid John Tomkins yn un o chwaraewyr offerynnau llawfwrdd gorau ei genhedlaeth, a gwasanaethodd fel organydd yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt o 1606 hyd 1619. Yn ystod ei gyfnod yno cafodd ei anfarwoli gan ei gyfaill, y bardd Phineas Fletcher, fel ‘Thomalin’ yn nifer o’i gerddi. Symudodd John i Lundain i fod yn organydd yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul o 1619 hyd ei farwolaeth. Yn 1625 fe’i gwnaed yn ‘Wrda Arbennig’ (‘Gentleman Extraordinary’) yn y Capel Brenhinol a rhoddwyd iddo aelodaeth lawn ddwy flynedd yn ddiweddarach. Nifer fechan yn unig o’i weithiau corawl a llawfwrdd sydd wedi goroesi, ond yn eu plith y mae’r anthem lawn The King shall rejoice a’r amrywiadau llawfwrdd John come kiss me now.

Giles Tomkins (1587-1668)

Etifeddodd Giles Tomkins hefyd dueddfryd cerddorol y teulu, a daeth yn organydd Coleg y Brenin, Caergrawnt, yn 1624. Symudodd i Gaersallog yn 1629 ac yno bu’n dal swydd organydd tan y Rhyfel Cartref, gan ailafael yn ei ddyletswyddau yno pan ddaeth yr Adferiad. Daeth yn gerddor yr organau tannau yn y llys yn 1630, ac yn ystod 1633 aeth gyda’r Brenin ar ei daith i’r Alban. Ni oroesodd unrhyw gyfansoddiadau o’i eiddo.

Robert Tomkins (c.1628-41)

Mae’n hysbys i Robert Tomkins wasanaethu’r teulu brenhinol fel chwaraewr feiol. Rhestrwyd Giles a Robert yn gerddorion y liwtiau, y feiolau a’r lleisiau yn y Capel Brenhinol yn 1641. Goroesodd drylliau o ddwy anthem lawn a chwe anthem wersi ganddo yn Llyfr Organ Batten (llsgr. Tenbury 791).

Nathaniel Tomkins (1599-1681)

Nathaniel Tomkins oedd unig blentyn Thomas Tomkins yr ieuengaf, ac astudiodd ddiwinyddiaeth yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, gan ddod yn ganon yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon wedi hynny o 1629 hyd ei farwolaeth. Roedd Nathaniel yn organydd medrus, ac ef oedd golygydd y casgliad o waith ei dad, Musica Deo sacra.


David Evans

Llyfryddiaeth

  • Denis Stevens, Thomas Tomkins ([arg. diw.] Efrog Newydd, 1967)
  • David R. A. Evans, ‘The life and works of John Tomkins’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 6/4 (1980), 56–62
  • ———, ‘A short history of the music and musicians of St. David’s Cathedral’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 7/8 (1984–5), 50–66
  • ———, ‘A Cornish Musician in Wales’, Journal of the Institute of Cornish Studies, 15 (1987)
  • ———, ‘John Tomkins and the Batten Organ Book’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 8/7 (1987), 13–22
  • ———, ‘“Cerddor euraid”: lle John Tomkins ym marddoniaeth Saesneg yr ail ganrif ar bymtheg’, Taliesin, 114 (2002)
  • Anthony Boden, Thomas Tomkins: the last Elizabethan (Aldershot, 2005)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.