Torfoli

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:49, 19 Chwefror 2019 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Crowdsourcing

Mentrau llawr gwlad neu fentrau sy’n cael eu harwain gan berson, lle y mae unigolion yn cael eu hannog i gasglu a rhannu gwybodaeth er mwyn cynhyrchu adroddiadau trylwyr a chynhwysfawr. Bu sefydliadau newyddion yn hir ddibynnol ar gymorth gan y cyhoedd i weithredu fel ffynonellau a rhannu’r baich o gasglu gwybodaeth, yn enwedig pan fo stori bwysig yn torri, neu i gofnodi record amgylcheddol cwmni penodol er enghraifft, neu gadw golwg ar ymgyrch etholiadol gwleidydd.

Jeff Howe oedd y cyntaf i ddefnyddio’r term ‘crowdsourcing’ mewn erthygl yng nghylchgrawn Wired (2006). Roedd ‘crowdsourcing’ yn cyfeirio at y mudiad meddalwedd cod agored (lle y mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu cod rhaglenni i brosiect cydweithredol), Wikipedia (gwyddoniadur ar-lein sy’n cynnwys cofnodion a ysgrifennwyd gan ddefnyddwyr) a gwefannau megis eBay a MySpace.

Mae rhai sefydliadau newyddion yn dibynnu ar ffynonellau torfol er mwyn prosesu setiau mawr o ddata, oherwydd pan ryddheir cofnodion swyddogol helaeth i’r cyhoedd, mae’r gwaith o archwilio’r rhain ar eu pennau eu hunain yn gallu bod yn heriol dros ben i newyddiadurwyr. Trwy gymorth defnyddwyr ei gwefan newyddion, gall miloedd o wirfoddolwyr ddarllen y set o ddata gan nodi manylion a allai o bosibl fod o ddiddordeb newyddiadurol i’r sefydliad.

Llyfryddiaeth

Howe, J. 2006. The rise of crowdsourcing, Wired. 14 Mehefin, tt. 1–4.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.