Treharne, Bryceson (1879-1948)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Brodor o Ferthyr Tudful oedd y cerddor Bryceson Treharne. Cafodd ei addysg gynnar yn lleol cyn mynd i’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain lle bu’n astudio’r piano a chyfansoddi. Bu’n dysgu am gyfnod yn adran gerdd Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth o dan yr Athro David Jenkins cyn ymfudo i weithio yn Awstralia, lle gwnaeth gryn argraff fel pianydd ac fel cyfarwyddwr dramâu. Bu’n athro piano ac yn ddatgeinydd cyhoeddus yn yr Elder Conservatorium yn Adelaide o 1901–1911 ac yno hefyd y sefydlodd yr Adelaide Literary Theatre yn 1908.

Rhwng hynny ac 1911 cyfarwyddodd nifer o ddramâu Yeats a Bernard Shaw, er enghraifft, yn ogystal â chynnal datganiadau piano o repertoire eang a thechnegol anodd megis sonatas hwyr ac Amrywiadau Diabelli gan Beethoven, gweithiau Chopin, Mendelssohn ac eraill gan gynnwys, fel ag yr oedd yn ffasiynol ar y pryd, ganeuon o’i waith ei hun yn gymysg â’r darnau cyfarwydd ar gyfer yr allweddell gyda’r gantores Gulielma (‘Guli’) Hack (1867–1951). Perfformiodd adeg ymweliad Dug a Duges Cernyw ag Adelaide yn 1901 ac roedd yn gerddor uchel ei barch yn ôl y wasg ar y pryd.

Dychwelodd i Ewrop yn 1911 ac wrth deithio’r cyfandir fe’i daliwyd gan yr Almaenwyr a’i garcharu yng ngwersyll enwog Ruhleben gydol y Rhyfel Byd Cyntaf. Yno cyfarfu â cherddorion eraill megis Arthur Benjamin (1893–1960), Edward Clark (1888–1962) ac Edgar Bainton (1880–1956) mewn awyrgylch diwylliannol, os braidd yn anghysurus. Wedi ei ryddhau yn 1918 teithiodd i Unol Daleithiau America ac ar ôl 1924 bu’n dysgu ym Mhrifysgol McGill ym Montreal, Canada, ond dychwelodd i America yn 1928 gan weithio fel golygydd cerddoriaeth i gwmni cyhoeddi yn Boston. Bu’n gyfansoddwr cynhyrchiol a daeth amryw o’i unawdau lleisiol yn gyfarwydd, megis ‘Môr o Gan yw Cymru i gyd’. Perfformiwyd ei magnum opus, The Banshee, gwaith corawl sylweddol ar gyfer soprano, bariton corws a cherddorfa, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1938. Bu farw ym mis Chwefror 1948 yn Long Island, Efrog Newydd.

Cyhoeddwyd nifer o’i weithiau gan rai o’r prif gwmnïau cyhoeddi yng Nghymru (Snell a Gwynn yn bennaf) ac yn America (Cwmni Willis a’r Boston Music Co. lle bu’n gyflogedig fel golygydd), a pherfformiwyd ei weithiau’n gyson gan unawdwyr lleisiol a chorau cymysg, corau merched a chorau meibion. Fel amryw o’i gyfoeswyr, ysgrifennu ar gyfer marchnad barod a wnâi, a chafodd ei waith groeso yn ei ddydd. Fel yn achos nifer o gyfansoddwyr Cymreig y cyfnod, mae llawer o’i ddarnau wedi eu hesgeuluso erbyn hyn. Yn wir, mae taer angen ailasesu’r genhedlaeth hon o gerddorion.

Cyfansoddodd Treharne gerddoriaeth achlysurol ddeniadol a dramatig - darnau megis ‘The Return’, ‘Joy of Heaven’, ‘Holy Lord’, ‘Dies Irae’ (trefniant o emyn-dôn gan Joseph Parry), ‘Hear dem Bells’ i gorau meibion, gweithiau megis ‘O Falmaidd Hafaidd Hwyr’ (‘O Balmy Summer Night’) a ‘Sons of the Sea’ i gorau cymysg a’r Five Shakespeare Songs i lais a phiano. Cawsant ymateb gwresog ar y pryd. Yn ei osodiad o ‘Laughing Song’ William Blake, a gyfansoddwyd ganddo tua 1917, mae ffresni melodig a dealltwriaeth y cerddor o amlochredd y gerdd yn cymharu’n dda gyda’r rhai cannoedd o osodiadau gan eraill, megis Havergal Brian (1876-1972), o waith y bardd. Amgylchfyd y byd cyfansoddi yn amser Treharne a fu’n gyfrifol am ffurfio ei chwaeth mewn darnau sydd, ar eu gorau, ymhlith gweithiau mwyaf swynol y cyfnod.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • Portread byr o Bryceson Treharne yn Y Cerddor (1900), 62–4
  • Y Drych: newyddiadur cenedlaethol Cymry America, 15 Chwefror 1948
  • Erthygl yn Y Genhinen, Hydref 1951



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.