Tri Tenor, Y

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:34, 27 Ebrill 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ffurfiwyd Y Tri Tenor (neu Tri Tenor Cymru) gan y cantorion Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins yn Nhachwedd 2009 ar gyfer cyngerdd Celtfest yn Arena Ryngwladol Caerdydd. Gan ddilyn llwybr Pavarotti, Carreras a Domingo, daeth y tri at ei gilydd ar achlysur gêm rygbi bwysig rhwng Cymru a Seland Newydd. Yn Rhagfyr 2014 ymunodd Aled Wyn Davies â’r triawd yn sgil ymadawiad Rhys-Jenkins.

Perfformiodd y triawd yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn 2011 gan lansio eu halbwm cyntaf, Tri Tenor Cymru ar label Sain yn ystod yr ŵyl. Er bod gwreiddiau’r tri yn ddwfn mewn opera, clywir detholiad eang o ganeuon ar eu halbwm, yn gyfuniad o ddarnau clasurol a phoblogaidd gan Rossini (Barbwr Sefil), Rodgers a Hammerstein (‘You’ll Never Walk Alone’), ynghyd â llu o ganeuon cysegredig a thraddodiadol Cymreig. Cenir trefniant Saesneg o ‘Ar Hyd y Nos’ ar ddechrau’r albwm, a cheir trefniant o ‘Dafydd y Garreg Wen’ gan Catrin Finch yn ogystal.

Parhaent i ganu cyn gemau rygbi rhyngwladol. Yn Chwefror 2012 rhyddhawyd y sengl ddigidol Medli Rygbi, yn gyfuniad o ‘Bread of Heaven’, ‘Delilah’ a ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Yn 2013 rhyddhawyd eu hail albwm Tarantella sy’n cynnwys trefniant arbennig o ddeuawd ‘Y Pysgotwyr Perl’ gan Bizet. Gwnaent ymddangosiadau ledled Cymru a thu hwnt. Ym Mawrth 2012 buont yn canu yn nathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Los Angeles cyn hedfan i berfformio yn Seattle. Derbyniodd y triawd wahoddiad i berfformio yn ystod Cynhadledd Cymry Gogledd America yn Nhoronto, Canada, yn 2013.

Wedi i Aled Wyn Davies ymuno â’r triawd yn 2014 ysgrifennwyd ‘Y Goleuni’ fel teyrnged gan eu cyfeilydd, Caradog Williams, i weithwyr y diwydiant glo yn ne Cymru; ymddangosodd y trac ar albwm unawdol Aled Wyn Davies, Erwau’r Daith yn 2015.

Tristian Evans

Disgyddiaeth

  • Tri Tenor Cymru (Sain SCD2643, 2011)
  • Medli Rygbi [sengl] (Sain ll012, 2012)
  • Tarantella (Sain SCD2685, 2013)

Aled Wyn Davies:

  • Erwau’r Daith (Sain SCD2734, 2015)

Llyfryddiaeth

  • Rhys Meirion, Stopio’r Byd am Funud Fach (Talybont, 2014)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.