Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Triawd y Coleg"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
+
 
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Llinell 6: Llinell 6:
 
Yn 1942 daeth [[Meredydd Evans]], a oedd ar y pryd yn fyfyriwr yng Ngholeg [[Prifysgol]] Gogledd Cymru, i sylw Sam Jones, cynhyrchydd y BBC ym Mangor. Yn sgil hynny cafodd ef a myfyrwyr eraill o Fangor y cyfle i berfformio alawon o bob math ar y radio. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, ynghyd â Robin Williams ac Islwyn Ffowc Elis, yn cynnal nosweithiau llawen o dan yr enw ‘Parti Bangor’.
 
Yn 1942 daeth [[Meredydd Evans]], a oedd ar y pryd yn fyfyriwr yng Ngholeg [[Prifysgol]] Gogledd Cymru, i sylw Sam Jones, cynhyrchydd y BBC ym Mangor. Yn sgil hynny cafodd ef a myfyrwyr eraill o Fangor y cyfle i berfformio alawon o bob math ar y radio. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, ynghyd â Robin Williams ac Islwyn Ffowc Elis, yn cynnal nosweithiau llawen o dan yr enw ‘Parti Bangor’.
  
Roedd Sam Jones wedi bod yn ymwybodol o’r angen am raglenni radio adloniant ysgafn yn Gymraeg ar sail reolaidd ers canol yr 1930au. Roedd ''Y Cymro'' hefyd wedi cyhoeddi colofn olygyddol herfeiddiol i’r un perwyl yn 1945. Y flwyddyn honno clywodd Sam Jones y triawd yn rhoi perfformiad, gyda nifer o fyfyrwyr eraill, mewn noson lawen ym Mangor. Cafodd y rhaglen radio fisol ''Noson Lawen'' ei chomisiynu o ganlyniad, a darlledwyd y rhaglen gyntaf ar 25 Rhagfyr 1945. Trawyd Islwyn Ffowc Elis gan waeledd cyn y perfformiad a chamodd myfyriwr arall, Cledwyn Jones, i’r adwy yn ei le. Ef fu’r trydydd aelod ar ôl hynny, ac o dan yr enw Triawd y Coleg aethant ati i gyfansoddi cerddoriaeth boblogaidd newydd sbon ar gyfer pob rhaglen, gan efelychu arddull ‘crwneriaid’ ''(crooners)'' Americanaidd poblogaidd y cyfnod.
+
Roedd Sam Jones wedi bod yn ymwybodol o’r angen am raglenni radio [[adloniant]] ysgafn yn Gymraeg ar sail reolaidd ers canol yr 1930au. Roedd ''Y Cymro'' hefyd wedi cyhoeddi [[colofn]] olygyddol herfeiddiol i’r un perwyl yn 1945. Y flwyddyn honno clywodd Sam Jones y triawd yn rhoi perfformiad, gyda nifer o fyfyrwyr eraill, mewn noson lawen ym Mangor. Cafodd y rhaglen radio fisol ''Noson Lawen'' ei chomisiynu o ganlyniad, a darlledwyd y rhaglen gyntaf ar 25 Rhagfyr 1945. Trawyd Islwyn Ffowc Elis gan waeledd cyn y perfformiad a chamodd myfyriwr arall, Cledwyn Jones, i’r adwy yn ei le. Ef fu’r trydydd aelod ar ôl hynny, ac o dan yr enw Triawd y Coleg aethant ati i gyfansoddi cerddoriaeth boblogaidd newydd sbon ar gyfer pob rhaglen, gan efelychu [[arddull]] ‘crwneriaid’ ''(crooners)'' Americanaidd poblogaidd y cyfnod.
  
 
Nid oedd arddull canu’r Triawd yn bodloni pawb, a thybiai rhai y byddai dull mor ‘Seisnig’ o ganu’n debyg o gael effaith drychinebus ar ddiwylliant Cymraeg. Cyhoeddwyd mwy nag un golofn feirniadol yn ''Y Cymro'' a gwynai fod arddull y Triawd yn ‘adlewyrchiad eiddil o grwnio fwlgar America’. Yn wir, cawsant gerydd wyneb yn wyneb wrth recordio yn y BBC gan neb llai nag [[W. S. Gwynn Williams]] a [[Grace Williams]].
 
Nid oedd arddull canu’r Triawd yn bodloni pawb, a thybiai rhai y byddai dull mor ‘Seisnig’ o ganu’n debyg o gael effaith drychinebus ar ddiwylliant Cymraeg. Cyhoeddwyd mwy nag un golofn feirniadol yn ''Y Cymro'' a gwynai fod arddull y Triawd yn ‘adlewyrchiad eiddil o grwnio fwlgar America’. Yn wir, cawsant gerydd wyneb yn wyneb wrth recordio yn y BBC gan neb llai nag [[W. S. Gwynn Williams]] a [[Grace Williams]].

Diwygiad 19:21, 29 Ebrill 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Gwnaeth Triawd y Coleg gyfraniad allweddol i ddatblygiad cerddoriaeth boblogaidd yn yr iaith Gymraeg.

Yn 1942 daeth Meredydd Evans, a oedd ar y pryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, i sylw Sam Jones, cynhyrchydd y BBC ym Mangor. Yn sgil hynny cafodd ef a myfyrwyr eraill o Fangor y cyfle i berfformio alawon o bob math ar y radio. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, ynghyd â Robin Williams ac Islwyn Ffowc Elis, yn cynnal nosweithiau llawen o dan yr enw ‘Parti Bangor’.

Roedd Sam Jones wedi bod yn ymwybodol o’r angen am raglenni radio adloniant ysgafn yn Gymraeg ar sail reolaidd ers canol yr 1930au. Roedd Y Cymro hefyd wedi cyhoeddi colofn olygyddol herfeiddiol i’r un perwyl yn 1945. Y flwyddyn honno clywodd Sam Jones y triawd yn rhoi perfformiad, gyda nifer o fyfyrwyr eraill, mewn noson lawen ym Mangor. Cafodd y rhaglen radio fisol Noson Lawen ei chomisiynu o ganlyniad, a darlledwyd y rhaglen gyntaf ar 25 Rhagfyr 1945. Trawyd Islwyn Ffowc Elis gan waeledd cyn y perfformiad a chamodd myfyriwr arall, Cledwyn Jones, i’r adwy yn ei le. Ef fu’r trydydd aelod ar ôl hynny, ac o dan yr enw Triawd y Coleg aethant ati i gyfansoddi cerddoriaeth boblogaidd newydd sbon ar gyfer pob rhaglen, gan efelychu arddull ‘crwneriaid’ (crooners) Americanaidd poblogaidd y cyfnod.

Nid oedd arddull canu’r Triawd yn bodloni pawb, a thybiai rhai y byddai dull mor ‘Seisnig’ o ganu’n debyg o gael effaith drychinebus ar ddiwylliant Cymraeg. Cyhoeddwyd mwy nag un golofn feirniadol yn Y Cymro a gwynai fod arddull y Triawd yn ‘adlewyrchiad eiddil o grwnio fwlgar America’. Yn wir, cawsant gerydd wyneb yn wyneb wrth recordio yn y BBC gan neb llai nag W. S. Gwynn Williams a Grace Williams.

Fodd bynnag, roedd Noson Lawen yn rhaglen hynod o boblogaidd a llwyddiannus. Cofnododd Y Cymro hanes am dafarnwr yn Ne Cymru a anfonodd lythyr ffurfiol at y BBC i gwyno ei fod yn colli busnes yn ystod amserau darlledu’r rhaglen. Yn ôl hanesydd swyddogol y BBC yng Nghymru, John Davies, bu i fwy na hanner y Cymry Cymraeg wrando ar y rhaglen ar un achlysur, sef oddeutu 250,000. Roedd Triawd y Coleg yn hollbwysig yn y llwyddiant hwn. Yn groes i’w rhagflaenwyr cyfansoddai’r tri eu caneuon eu hunain, a chyn iddynt ddod i’r amlwg roeddynt eisoes wedi bod yn arbrofi gyda chyflwyno cerddoriaeth boblogaidd Eingl-Americanaidd yn Gymraeg. Bathwyd y llysenw ‘y Bangor Bing’ ar gyfer Meredydd Evans, ar ôl y canwr Americanaidd poblogaidd Bing Crosby, a daeth caneuon ysgafn megis ‘Triawd y Buarth’ yn eithriadol o boblogaidd yng Nghymru.

Darlledwyd Noson Lawen am y tro olaf yn 1951, ac erbyn hynny roedd aelodau’r Triawd wedi symud ymlaen at amrywiol yrfaoedd gan ddod ag oes y grŵp i ben. Ond yn ddiweddarach cafodd y Triawd ei recordio ar sawl achlysur gan Welsh Teldisc. Rhyddhawyd EP o ganeuon a sengl yn 1963, EP arall yn 1965 a record hir gyda Sain yn 1973. Cafodd casgliad o’r ‘goreuon’ ei ryddhau gan Sain yn 2009. Er bod arddull y Triawd wedi dyddio erbyn ymddangosiad y byd pop Cymraeg yn yr 1960au, roeddynt yn rhagflaenwyr arloesol a agorodd y ffordd ar gyfer artistiaid y degawd hwnnw. Yn sgil eu parodrwydd i greu fersiynau brodorol Cymreig o gerddoriaeth boblogaidd eu hoes, a hynny mewn harmonïau gloyw, mae camp ac etifeddiaeth y Triawd i’w hedmygu.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • Goreuon Triawd y Coleg/Best of Triawd y Coleg (Sain SCD2568, 2009)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.