Trothwy

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:01, 13 Awst 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: threshold)

Trothwy o sefydlogrwydd tirffurf sydd yn cael ei oresgyn un ai drwy newid cynhenid (neu intrinsic) o’r tirffurf ei hunan, neu gan newid mewn newidyn allanol (extrinsic) (Schumm, 1979). Mae trothwy yn stad critigol lle mae system yn newid o un cyflwr o weithredu i gyflwr arall o ganlyniad i newid mewn un o’r rheolaethau. Mae enghreifftiau o drothwyon mewn geomorffoleg yn niferus tu hwnt. Er enghraifft, mae trothwy yn cael ei groesi wrth i ronyn o dywod neu raean gael ei dynnu i mewn i lif afon (llusgludo). Mae’r gronyn yn cael ei atal rhag symud gan bwysau’r gronyn o dan y dŵr a gan ffrithiant rhwng y gronyn a gronynnau eraill. Os yw’r straen sydd yn cael ei osod ar y gronyn gan y llif yn is na’r grymoedd yma sydd yn atal symudiad, ni fydd y gronyn yn cael ei dynnu i mewn i’r llif. Wrth i’r llif gynyddu, ac wrth i’r straen ar y gronyn gynyddu o ganlyniad, cyrhaeddir pwynt lle bydd y straen y mae’r llif yn ei osod ar y gronyn yn gyfartal â’r grymoedd sydd yn cadw’r gronyn rhag symud. Os yw’r straen a osodir ar y gronyn yn cynyddu ymhellach, bydd y gronyn yn cael ei lusgludo. Y pwynt hwn pryd y mae’r straen ar y gronyn yn gyfartal â’r grymoedd sydd yn atal y gronyn rhag symud yw’r trothwy. Yn yr achos yma, mae llif yr afon yn newid yn enghraifft o drothwy allanol.

Wrth i drothwy gael ei groesi, mae yna newid sydyn yn y system. Un enghraifft o hyn yw pryd mae deunydd rhydd ar lethr yn ansefydlogi ac yn dechrau symud i lawr y llethr fel tirlithriad. Mae’r creigiau yn cael eu hindreulio, a’r deunydd yn casglu ar lethr dros gyfnod hir o rhwng degawd a chanrifoedd. Mae tirlithriad yn digwydd mewn mater o funudau, ac mae trothwyon yn elfennau pwysig sydd yn penderfynu amseriad y digwyddiadau yma. Mae proses o’r fath yn medru digwydd wrth i newid ddigwydd i un o’r newidynnau rheolaethol allanol (e.e. o ganlyniad i ddaeargrynfeydd). Gall newidiadau hefyd ddigwydd i’r newidynnau mewnol. Er enghraifft, gall tirlithriad ddigwydd o ganlyniad i ddyodiad bychan sydd ddim yn eithriadol o wahanol i’r patrwm hinsoddol arferol, a bydd ansefydlogrwydd wedi crynhoi dros gyfnod o flynyddoedd a bydd y system wedi ‘paratoi’ ar gyfer newid. Un enghraifft arall o drothwy mewnol yw pan fo ystumllyn yn cael ei ffurfio wrth i afon erydu drwy wddf ystum heb unrhyw newid yn y newidynnau rheolaethol allanol, ond trwy brosesau mewnol y sianel yn unig. Mae trafodaeth debyg yn bodoli ar fodolaeth trothwyon rhwng afonydd syth, afonydd ystumiol ac afonydd plethog. Mae rhai yn dadlau bod trothwyon yn bodoli rhwng y tri math o afon ac wedi eu seilio ar y nifer o sianeli, dolennedd a graddiant, ymysg ffactorau eraill. Mae eraill yn dadlau bod y mathau yma o sianeli yn bodoli ar gontinwwm heb drothwyon rhyngddynt.

Mae’r cysyniad o drothwyon yn gysylltiedig gyda’r cysyniad o gydbwysedd. Wrth i drothwy gael ei groesi, mae’n bosib y bydd system yn symud o un stad o gydbwysedd i un ai’r un stad o gydbwysedd, i stad newydd o gydbwysedd, neu i stad o anghydbwysedd.

Llyfryddiaeth

  • Charlton, R (2009) Fundamentals of fluvial geomorphology, Routledge, Abingdon, 223 tt.
  • Knighton, D. (1998) Fluvial forms and processes: a new perspective, Arnold, Llundain, 376 tt.
  • Schumm, S. A. (1979). Geomorphic thresholds: the concept and its applications. Transactions of the Institute of British Geographers, tt. 485–515
  • Sugden, D. (2000) Geomorphological threshold, Yn Thomas, D.G. a Goudie, A. (Gol) The Dictionary of Physical Geography, Blackwell, Rhydychen, t. 487.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.