Trwynau Coch, Y

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp pync a ddaeth i sylw’r cyhoedd ar ddiwedd yr 1970au gan ennyn llid y Sefydliad yn ogystal â chanmoliaeth rhan ohono. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979 cafodd y bechgyn o Gwm Tawe eu hymlid gan y swyddogion am feiddio chwarae ar y Maes ar adeg seremoni’r cadeirio. Doedd dim teilyngdod yn y gystadleuaeth a byrdwn protest y bechgyn oedd y dylid adlewyrchu diwylliant cerddoriaeth roc a phop yr ifanc ar lwyfan y pafiliwn yn hytrach na’i neilltuo i’r cyrion.

Yn y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 1981 datganodd yr AS Plaid Cymru a’r beirniad llenyddol Dafydd Elis Thomas mai caneuon y Trwynau oedd y farddoniaeth Gymraeg fwyaf perthnasol ar y pryd gan gyfeirio’n benodol at ‘Y Niggers Cymraeg’, cân a oedd yn cymharu sefyllfa’r Cymry Cymraeg ag eiddo pobl groenddu Unol Daleithiau America. Rhoddwyd statws o’r newydd i ddiwylliant yr ifanc fel cyfrwng mynegiant perthnasol o gyflwr y genedl.

Ffurfiwyd y grŵp yn Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera yn 1977 a’r aelodau sefydlog yn ystod cyfnod eu hanterth oedd Huw Eirug (gitâr), y ddau frawd Rhys ac Alun Harries (y naill yn brif leisydd tra bod y llall yn chwarae’r gitâr fas), Rhodri Williams (gitâr) ac Aled Roberts (drymiau). Bu’r canwr Huw Chiswell hefyd yn aelod, gan chwarae’r allweddellau.

Achoswyd cynnwrf pan ryddhawyd eu EP gyntaf Merched Dan Bymtheg (Sgwar, 1978), gyda’r llinell bryfoclyd ‘tethe bach hyfryd’ yn y gân eponymaidd yn arwain at waharddiad gan Radio Sain Abertawe. Ni ellid caniatáu deunydd ‘anweddus a di-chwaeth’ ar donfeddi’r awyr, meddai Wyn Thomas, pennaeth rhaglenni Cymraeg yr orsaf, ac nid oedd safon gerddorol y grŵp yn cyfiawnhau chwarae eu deunydd yn ôl Aled Glynne Davies, cyflwynydd y sioe Mynd am Sbin.

Nid oedd anelu am ragoriaeth gerddorol yn uchelgais gan y grŵp. Roeddynt yn adlewyrchu’r hyn a ddigwyddai yn y byd pync yn Lloegr ond heb ei efelychu’n slafaidd. Roedd caneuon megis ‘Mynd i’r Capel mewn Levis’, ‘Byw ar Arian fy Rhieni’ a ‘Wastod ar y Tu Fas’ yn feirniadaeth gymdeithasol o safonau’r dosbarth canol Cymraeg gan blant y dosbarth hwnnw.

Hyrwyddwyd gyrfa’r grŵp gan Eurof Williams, cynhyrchydd gyda’r BBC o’r Allt-wen. Trefnwyd teithiau ar draws Cymru gan chwarae mewn ysgolion yn y prynhawniau ac mewn neuaddau gyda’r nos. Rhyddhawyd recordiau ar labeli Sgwar a Coch: tair record fer yn 1978 ac yna Un Sip Arall (Coch, 1979) ar feinyl coch, y record hir Rhedeg Rhag y Torpidos (Sain, 1980) a’r sengl Pan Fo Cyrff yn Cwrdd (Sain, 1981) cyn i’r band chwalu yn 1982. Dilyn gyrfaoedd proffesiynol fu hynt yr aelodau maes o law. Bu Ian Jones, un o’r aelodau cynnar, yn brif weithredwr S4C. Yn ddiweddarach rhyddhawyd Y Trwynau Coch - Y Casgliad (Sain, 1997).

O’u cymharu â deunydd pync Saesneg y Sex Pistols a deunydd Cymraeg herfeiddiol y Llygod Ffyrnig a’r Doctor Hywel Ffiaidd, roedd caneuon y Trwynau yn ymddangos yn ddiniwed a thafod-yn-y-boch. Ond roedd caneuon megis ‘Un Sip Arall o Pepsi Cola’, ‘Motobeics o Japan’ a ‘Lipstics a Britvics a Sane Silc Du’ yn farddoniaeth bop ar ei gorau. Byddai Tudur Jones yn ymuno â’r Trwynau ar eu teithiau ac yn cyhoeddi erthyglau yn Y Faner yn nhraddodiad y newyddiadurwyr roc dadansoddol, ac wrth dafoli eu cyfraniad roedd o’r farn fod ‘addasu cyfryngau estron i’r profiad a’r cyd-destun Cymraeg yn rhywbeth i’w groesawu’. Y Trwynau a enillodd Wobr Prif Grŵp Roc Sgrech 1980.

Hefin Wyn

Disgyddiaeth

  • Merched Dan 15 [EP] (Sgwar RSROC002, 1978)
  • Wastod Ar Y Tu Fas [EP] (Sgwar RSROC003, 1978)
  • Un Sip Arall ... [Feinyl, 12”] (Coch RCTC1, 1979)
  • ‘Methu Dawnsio’ [Sengl] (Coch RCTC3, 1980)
  • Rhedeg Rhag Y Torpidos [LP] (Sain 1186M, 1980)
  • Pan Fo Cyrff yn Cwrdd [EP] (Sain 92S, 1981)

Casgliad:

  • Y Casgliad (Crai CD046, 1994)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.