Warws

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 07:00, 14 Mehefin 2021 gan DaiThomas (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Adeilad sydd wedi ei gynllunio, adeiladu neu wedi’i drosi’n bwrpasol ar gyfer swmpstorio [bulk storage] naill ai deunyddiau crai neu nwyddau gorffenedig/rhannol orffenedig. Diben y fath adeilad felly yw storio’r rhain hyd nes eu cludo ymlaen neu eu rhannu’n sypiau [batches] llai ac yna’u dosbarthu’n gyffredinol.

Dylid gwahaniaethu rhwng y warws a ddiffinnir uchod a warws talu a chludo [cash and carry/wholesale]. Hefyd, warws disgownt, warws adwerthu pur a warws ecseis. Mae’r rhain yn cael eu hystyried a’u trin yn gwbl wahanol gan awdurdodau Cynllunio Gwlad a Thref ac wedi’u categoreiddio mewn rhestr dosbarth defnydd tra gwahanol.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

https://legal-dictionary.thefreedictionary.com/warehouse

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygio) (Cymru) 2016 ar https://www.legislation.gov.uk/wsi/2016/28/body/made/welsh?view=plain

“The Glossary of Property Terms”, Estates Gazette, argraffiad 1993, tudalen 194



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.