Watkins, Huw (g.1976)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr a aned yng Nghwmbrân ac sydd gyda’r pwysicaf o’i genhedlaeth ym Mhrydain. Mae hefyd yn weithgar fel pianydd amryddawn.

Cafodd wersi cyfansoddi tra oedd yn yr ysgol gan Mervyn Burtch gan fynd ymlaen i Ysgol Chetham’s ym Manceinion ac yna i Goleg y Brenin, Caergrawnt, i astudio gydag Alexander Goehr a Robin Holloway. Bu wedyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain yn gweithio o dan arolygaeth Julian Anderson. Erbyn hyn mae Huw Watkins ei hun yn dysgu’r piano a chyfansoddi yn yr un coleg.

Yn fuan wedi graddio daeth i sylw cyffredinol yn 1999 pan ddewiswyd ef gan y cyfansoddwr Thomas Adès i dderbyn comisiwn gan gwmni cyhoeddi Faber Music fel rhan o gynllun dathliadau’r mileniwm i hyrwyddo cyfansoddwyr ifanc. Y canlyniad oedd y ‘Sonata i’r Soddgrwth ac Wyth Offeryn’ ar gyfer ei frawd Paul Watkins a’r Nash Ensemble. Yn 2012 recordiwyd y gwaith ar gryno-ddisg sydd hefyd yn cynnwys nifer o’i weithiau siambr a lleisiol.

Ers y Sinfonietta, a berfformiwyd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000, ysgrifennodd yn doreithiog ar gyfer cerddorfa, gan gynnwys nifer o concerti: i’r piano (gydag ef ei hun yn unawdydd), i’r feiolin, y fiola a’r ffliwt (Adam Walker) ac, yn fwyaf arbennig hyd yn hyn efallai, i ffidil Alina Ibragimova, gwaith a berfformiwyd yn y Proms yn 2010.

Ym myd opera datblygwyd partneriaeth greadigol rhyngddo a chwmni Music Theatre Wales, gyda’r cyfansoddwr yn gweithio gam wrth gam ar gynyrchiadau. Ymhlith y rhain yr oedd golygfeydd o Under Milk Wood Dylan Thomas, gwaith hanner awr - Crime Fiction - i libreto gan David Harsent, ac yna opera un-act, In the Locked Room, gyda Harsent eto yn addasu stori fer gan Thomas Hardy mewn partneriaeth ag Opera’r Alban. Cynhyrchwyd yr opera hon yn ddiweddarach gan Hamburg State Opera yn 2015. Cyhoeddir gwaith cerddorol Huw Watkins gan Gwmni Schott & Co.

Geraint Lewis



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.