Watkins, Paul (g.1970)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Brodor o Gwmbrân ac un o chwaraewyr soddgrwth mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth a hynny fel unawdydd ac mewn pedwarawdau llinynnol, ensemble a cherddorfa. Mae hefyd yn weithgar fel arweinydd.

Daeth i amlygrwydd fel prif chwaraewr soddgrwth Cerddorfa Symffoni’r BBC yn Llundain, swydd a roddodd gyfle iddo hefyd ddatblygu gyrfa fel unawdydd byd-eang. Aeth ymlaen i ymuno â’r Nash Ensemble ac agorodd hyn repertoire newydd a chyfoethog iddo, yn enwedig ym maes cerddoriaeth gyfoes Brydeinig. Perfformiodd hefyd yn achlysurol gyda Thriawd Piano’r Beaux Arts gan gymryd lle’r chwedlonol Bernard Greenhouse.

Mae’n frawd i’r pianydd a’r cyfansoddwr Huw Watkins a bu partneriaeth gyngerdd a recordio rhwng y ddau. Yn 2013 symudodd i chwarae’r soddgrwth gyda Phedwarawd Llinynnol Emerson sydd wedi’i leoli yn Unol Daleithiau America ond sy’n perfformio’n gyson ledled y byd.

Prin fod unrhyw berfformiwr arall ar y soddgrwth wedi dangos y fath amlochredd yn ei yrfa ac wedi meistroli repertoire mor eang i’r offeryn. Wedi ennill Cystadleuaeth Arwain Leeds cafodd gyfle i arwain cerddorfeydd amrywiol a’i benodi’n brif arweinydd Cerddorfa Siambr Lloegr. Am gyfnod helaeth ar ddechrau ei yrfa bu’n perfformio ar offeryn a wnaethpwyd gan ei dad, John Watkins, sydd bellach yn arbenigwr yn y maes.

Geraint Lewis



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.