Williams, D. E. Parry (1900-96)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Addysgwr, cyfansoddwr, darlledwr ac ysgolhaig. Ganed David Ewart Parry Williams yng Nglyn-nedd ar adeg pan oedd addysg a chyfleoedd cerddorol yn brin a dirwasgiad troad y ganrif yn gwmwl dros y gymuned gyfan. Canu cynulleidfaol Capel y Bedyddwyr (Bethania) a menter ei ewythr yn prynu casgliad o offerynnau llinynnol a barodd iddo ymddiddori mewn cerddoriaeth. Fel chwaraewr cello, bu’n aelod o bedwarawd a ddaeth, yn y man, i gyfeilio i berfformiadau o’r Messiah (Handel), a hynny’n groes i draddodiad Ymneilltuol y dydd. Ymunodd â’r Llynges Frenhinol yn 17 oed ac ar sail ei brofiad gwyddonol dilynodd gwrs gradd mewn cemeg yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd, gan nad oedd cerddoriaeth bryd hynny yn bwnc digon derbyniol ar gyfer gyrfa broffesiynol.

Yn 23 oed, fodd bynnag, wrth i’r dynfa i fyd cyfansoddi a pherfformio gryfhau, enillodd ysgoloriaeth i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd (dyfarnwyd ysgoloriaeth gyffelyb i Grace Williams yr un pryd). Treuliodd yr wyth mlynedd nesaf yn arbenigo yn y maes gan feithrin profiad, er enghraifft trwy gyfrwng gwersi arwain gyda Syr Adrian Boult (1889-1983) ac ennill doethuriaeth, cyn derbyn swydd athro cerdd yn Ysgol yr Eglwys Gadeiriol, Llandaf, ac Ysgol Lewis, Pengam. Sylwai Parry Williams, fodd bynnag, ar yr adfywiad cerddorol a oedd ar droed yn Lloegr yr adeg honno, a chyfraniad allweddol unigolion fel Elgar, Delius a Vaughan Williams. Ymddiddorai hefyd yng nghrefft y cyfansoddwyr Ewropeaidd gan gynnwys Debussy, Strauss a’r Schoenberg ifanc, a gresynai fod datblygiadau addysg gerddorol yng Nghymru mor araf a digyfeiriad.

Ei ddymuniad oedd adfer y sefyllfa er budd ei gyd-genedl. Cyhoeddwyd ei gyfrol Elfennau Cerddoriaeth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938) fel cam i’r cyfeiriad hwnnw. Er mai gwrthbwynt yr 16g. oedd un o ddiddordebau pennaf Parry Williams, pwysleisiai bwysigrwydd meithrin dealltwriaeth gadarn o gynghanedd gerddorol ac adleisir hynny yn ei gyfrol, y cyhoeddwyd fersiwn Saesneg ohoni yn 1953.

Fel cyfansoddwr, mae ei iaith greadigol yn gwbl donyddol a soniarus. Ni ddewisodd ymgorffori alawon traddodiadol Cymreig yn ei weithiau offerynnol, gan fodloni’n hytrach ar lunio trefniannau syml ond hynod effeithiol o ganeuon brodorol Cymru ar gyfer llais a chyfeiliant piano. Yn dilyn ei benodi’n gyfarwyddwr cerdd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1943, gan olynu’r cyfansoddwr E. T. Davies (Dowlais), mynnodd ddenu darlithwyr ifanc ( William Mathias, Robert Smith, Reginald Smith Brindle, Bernard Rands a John Hywel) a fyddai’n dyrchafu’r adran i statws rhyngwladol ac a fyddai’n cynnig yr addysg gerddorol orau a mwyaf blaengar i gyw gerddorion y cyfnod.

Bu’n aelod o bwyllgor sefydlu Cyngor Celfyddydau Cymru (1945-49) ac yn gadeirydd cyntaf Pwyllgor Cerdd y Cyngor rhwng 1955 ac 1962. Treuliodd gyfnod fel aelod o fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru a sicrhau bod cerddoriaeth a chyfansoddiadau’r to newydd o gerddorion Cymreig yn hawlio’u lle. Fel un a ymddiddorodd gymaint mewn addysgu cerddoriaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, bu ei gyfraniad i Bwyllgor Termau Cerddoriaeth yn anfesuradwy (cyhoeddwyd y geiriadur yn 1984) a’i gyfraniad at ysgolheictod hefyd yn bwysig. Cefnogai Eisteddfod Llangollen oherwydd amrywiaeth y gerddoriaeth a ddeuai i sylw’r Cymry ond uwchlaw popeth ymhyfrydai yn natblygiad adran gerdd Coleg y Gogledd ym Mangor (Prifysgol Bangor erbyn heddiw) y bu’n gymaint rhan ohoni am gyfran sylweddol o’i oes.

Wyn Thomas

Cyfansoddiadau

  • Ar Gynywair (1954), ar gyfer soprano a phiano

Llyfryddiaeth

  • D. E. Parry Williams, Alawon Cenedlaethol Cymru Cyf. 2 (Caerdydd, 1922)
  • ———, Elfennau Cerddoriaeth (Caerdydd, 1938)
  • ———, A Music Course for Students (Rhydychen, 1953)
  • Enid Parry, ‘Yr Athro Emeritws D. E. Parry-Williams yn 90 oed’, Y Traethodydd (Ebrill, 1991), 65–7
  • John Hywel, ‘D. E. Parry Williams (1900–1996): Teyrnged’, Cerddoriaeth Cymru, 9/9 (Haf, 1997), 15–20
  • D. E. Parry Williams, Cân y werin/Songs of the people [casgliad o 24 alaw werin Gymreig gyda’r hen benillion] (Penygroes, 2003)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.