Williams, Edward (Iolo Morganwg) (1747-1826)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:40, 13 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Edward Williams ym Mhennon, Sir Forgannwg, a bu farw yn Nhrefflemin. Yn ystod ei ymweliadau â Llundain (rhwng 1773 ac 1777 ac eto rhwng 1791 ac 1795) y cododd yr awydd ynddo i ddefnyddio’r enw barddol Iolo Morganwg, sef yr enw a lynodd wrtho byth wedi 1790 (Williams 1956, 1). Priododd â Margaret Roberts yng Ngorffennaf 1781 ac roedd yn saer maen wrth ei alwedigaeth. Er mai fel bardd, llenor a hynafiaethydd y’i hadwaenid yn bennaf, cyfrannodd Iolo at draddodiad cerddorol Cymru hefyd trwy ei waith yn casglu alawon gwerin a’i ddawn farddol yn cyfansoddi dros 3,000 o emynau Undodaidd. (Roedd Iolo yn gyd-sylfaenydd Cymdeithas Dwyfundodiaid Deheubarth Cymru.) Ni chafodd addysg ffurfiol ond dysgodd sut i ganu’r ffliwt o dan gyfarwyddyd ei fam, Ann Matthew, a chredir mai ei dylanwad hi yn bennaf a oedd i gyfrif am ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth.

Yn Llundain y daeth Iolo a gwŷr eraill megis Lewis a Richard Morris o deulu Morrisiaid Môn, Owain Myfyr a Robin Ddu yr Ail o Fôn (a sefydlodd Gymdeithas y Gwyneddigion yn 1770) o dan ddylanwad syniadaeth Edward Lhuyd (1660-1709) a’r mudiad hynafiaethol. Yr elfen gadwraethol, hynafiaethol hon yn fwy na dim a ysbrydolodd John Clare o Loegr, Thomas Moore o Iwerddon, Robert Burns o’r Alban a Iolo Morganwg i gasglu a diogelu diwylliant gwerin eu priod wledydd. O ganlyniad, aethant ati i gofnodi gwahanol agweddau ar lenyddiaeth, barddoniaeth, llên gwerin, amaethyddiaeth, archaeoleg a chanu gwerin. Nid syndod yw natur amrywiol casgliadau llawysgrifol Iolo o ystyried ei fod yn ymddiddori yn yr hyn a’i hamgylchynai’n feunyddiol wrth grwydro a chofnodi’r hyn a welai. Er enghraifft, cofnodwyd yr alawon gwerin ganddo blith draphlith ymysg darluniau o adeiladau, traethodau ar hanesion lleol a llythyron at ei gyfeillion yn Llundain.

Casglodd Iolo 88 alaw werin ym mro Morgannwg rhwng 1795 ac 1806 (Huws 2005, 333), gan groniclo’r alawon, y geiriau a chyd-destun cymdeithasol eu creu. Cyfeiria’r rhan fwyaf o’r alawon gwerin at bobl a sefyllfaoedd cyffredin bob dydd, gyda’r gweddill yn alawon tymhorol (er enghraifft y Fari Lwyd, canu gwasael, dawnsio corelwi, taplas haf a ‘cwnnu bedwen’), yn ganeuon serch a chaneuon gwaith. Iolo a gyfrifir heddiw fel casglwr alawon gwerin cyntaf Cymru (Huws 2005, 333), gan mai ef yn anad neb arall a roddodd y sylw dyladwy cyntaf i ganeuon brodorol. Gosododd ar glawr ran o draddodiad a oedd cyn hynny’n bodoli ar lafar gwlad yn unig. Gwelir yr alawon mewn 17 o lawysgrifau gwahanol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn wahanol i’r ffugiadau o’i eiddo a ddatgelwyd gan ysgolheigion yr 20g., bwriad Iolo wrth gywain yr alawon oedd dal gafael ar drysorau’r gorffennol a’u rhoi ar gof a chadw. Ni ellir honni iddo ffugio’r alawon gwerin gan nad oedd ganddo’r dychymyg na’r crebwyll cerddorol i’w hefelychu. Wrth ddynwared, Iolo y bardd a’r ffugiwr rhamantaidd oedd wrthi, ond cymhelliad cwbl wahanol a’i gyrrodd i gofnodi’r alawon, fel hynafiaethydd.

Gellir honni bod gwaith Iolo yn cynrychioli deffroad ym myd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, er na theimlwyd penllanw’r deffroad hwnnw tan 1844, bron ugain mlynedd wedi marwolaeth Iolo. Dyma pryd y gwelodd y casgliad cyhoeddedig cyntaf o ganeuon llafar gwlad Cymreig olau dydd, sef Ancient National Airs of Gwent and Morganwg gan Maria Jane Williams a gynhwysai alawon a phenillion a godwyd o lawysgrifau Iolo gan ei fab Taliesin. Mae’r modd y defnyddiwyd alawon o gasgliadau Iolo ar gyfer y gyfrol hon yn tystio i werth y deunydd a gasglodd, y modd yr arloesodd yn y maes a’r ffaith mai ei lafur ef a gyfrifir yn feincnod ym myd canu gwerin Cymru’r cyfnod a’i dilynodd.

Leila Salisbury

Llyfryddiaeth

  • G. J. Williams, Iolo Morganwg - Y Gyfrol Gyntaf (Caerdydd, 1956)
  • ———, Caneuon Llafar Gwlad ac Iolo a’i Fath (Pen-y-groes, 1993)
  • ———, ‘Iolo Morganwg and Traditional Music’, yn G. Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg (Caerdydd, 2005), 333–56
  • Geraint Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg (Caerdydd, 2005)
  • Leila Salisbury, ‘Canu’r Dewin o Drefflemin: Golwg ar Alawon Gwerin Iolo Morganwg’ (traethawd MPhil Prifysgol Bangor, 2008)
  • ———, Alawon Gwerin Iolo Morganwg (Tal-y-bont, 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.