Williams, Georgia Ruth (g.1988)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores, cyfansoddwraig a thelynores a fu’n flaenllaw yn natblygiad yr arddull werin fodern newydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cafodd ei magu yn Aberystwyth cyn astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Tra yno dechreuodd recordio ei chaneuon ei hun ac yn sgil hyn cafodd y cynnig i berfformio yng Ngŵyl Glastonbury yn 2008.

Fe dderbyniodd ei EP gyntaf In Luna (Gwymon, 2011) sylw cadarnhaol gan gyflwynwyr radio megis Huw Stephens, Bethan Elfyn a Steve Lamacq. Roedd yr EP yn gosod pwyslais ar ddoniau lleisiol ac offerynnol Georgia Ruth gyda’r arddull yn delynegol Geltaidd. Bu’n perfformio’n gyson yn 2012, gan gynnwys ymddangosiad yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd. Dilynwyd hyn gyda’i halbwm cyntaf Week of Pines (2013) a recordiwyd gyda chyfraniadau gan aelodau’r grŵp Cowbois Rhos Botwnnog. Yn yr un flwyddyn ymddangosodd yng Ngŵyl WOMEX ac yng Ngŵyl Rhif 6.

Roedd ei hail albwm, Fossil Scale (Navigator Records, 2016) yn fwy dyfeisgar ac arbrofol, gyda nifer o’r caneuon yn osgoi ffurfiau a phatrymau gwerin confensiynol gyda llawer llai o bwyslais ar y delyn Geltaidd. Yn garreg filltir nodedig yn ei gyrfa hyd yma, dengys Fossil Scale ddawn ac addewid greadigol arbennig Georgia Ruth. Bu hefyd ynghlwm â phrosiect Gazhalaw gyda’r gantores Gwyneth Glyn.

Pwyll ap Siôn



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.