Williams, Griffith John

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Griffith John Williams (1892-1963) yn un o brif ysgolheigion y Gymraeg, yn genedlaetholwr, yn fardd ac yn gymwynaswr yr iaith. Fe’i ganed ym mhentref Cellan, ger Llanbedr Pont Steffan, yn 1892, a bu farw yn ei gartref yng Ngwaelod-y-garth, ger Caerdydd, yn 1963, a’i gladdu yng Nghellan. Brawd iau iddo oedd y gwyddonydd a’r dramodydd, D. Matthew Williams.

Fel nifer o ysgolheigion mawr eraill daeth i ymddiddori yn y Gymraeg wedi colli cyfnod o’r ysgol oherwydd salwch, peth a roddodd gyfle iddo ddarllen yn helaeth ac ymdrwytho yn niwylliant y Gymraeg. Yn Ysgol Ganol Tregaron daeth hefyd dan ddylanwad yr athro athrylithgar hwnnw, S. M. Powell. Graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn Aberystwyth yn 1914 ac wedi dwy flynedd yn athro ysgol, dychwelodd i Goleg Aberystwyth i astudio ar gyfer gradd MA. Yna, bu’n dal efrydiaeth a’i galluogodd i ddechrau ar yr hyn a ddeuai’n astudiaeth oes iddo, sef traddodiad llenyddol Morgannwg. Fe’i penodwyd yn 1921 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac yno yr arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1957. Fe’i dyrchafwyd yn Athro ac yn bennaeth adran yn 1946, yn dilyn ymddeoliad W. J. Gruffydd.

Er ei fod yn hyddysg mewn materion ieithyddol, hanes llenyddiaeth ac ysgolheictod y Gymraeg oedd prif destunau ei ymchwil, ac mae rhai o’i brif gyhoeddiadau yn rhychwantu meysydd megis dysg y beirdd, testunau’r Dadeni, a thraddodiad ysgolheigaidd a llawysgrifol y Gymraeg.

Pan drosglwyddwyd llawysgrifau niferus Iolo Morganwg i’r Llyfrgell Genedlaethol yn 1916, G. J. Williams oedd y cyntaf i’w hastudio’n wyddonol ofalus. Profodd yn ei gyfrol gyntaf, Iolo Morganwg a Chywyddau’r Ychwanegiad (1926), mai Iolo oedd cyfansoddwr nifer o’r cywyddau a dadogwyd ar Ddafydd ap Gwilym, a bod y gŵr o Forganwg yn ffugiwr (ac felly hefyd yn fardd) o athrylith. Cadarnhaodd y gyfrol farn amheuwyr eraill megis John Morris-Jones mai Iolo a greodd Orsedd Beirdd Ynys Prydain, a bod raid gwrthod yr honiadau am hynafiaeth llawer o ddefodau a gysylltid erbyn hynny (ac a gysylltir o hyd) â’r Eisteddfod Genedlaethol.

Dechreuodd G. J. Williams ei drwytho ei hun yng nghynnwys y llawysgrifau Cymraeg wrth fynd ar drywydd ffugiadau cywrain Iolo, a daeth yn feistr dihafal ar y maes. Gwelir ehangder a dyfnder ei adnabyddiaeth o’r traddodiad llawysgrifol ac o hanes ein llên yn ei gyfrolau Gramadegau’r Penceirddiaid (1934) ar y cyd ag E. J. Jones, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (1948), ac Iolo Morganwg. Y Gyfrol Gyntaf (1956). Cynhwyswyd detholiad o’i erthyglau, ynghyd â rhestr o’i gyhoeddiadau, yn Agweddau ar Hanes Dysg Gymraeg (1969).

Yn ŵr ifanc fe’i hystyrid yn fardd o addewid, a daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri yn 1920. Ei gerddi mwyaf adnabyddus yw ‘Gwladus Ddu’ ac ‘Yr Henwyr’. Er na pharhaodd i farddoni, daliodd yn gefnogwr brwd i’r Eisteddfod Genedlaethol a beirniadodd lawer ar ei chystadlaethau.

Bu i G. J. Williams, ynghyd â’i wraig Elisabeth, ran bwysig yn sefydlu Plaid Cymru. Ar eu haelwyd hwy ym Mhenarth yn 1924 yng nghwmni Saunders Lewis ac Ambrose Bebb y sefydlwyd y Mudiad Cymreig a unodd yn y man â grwpiau o genedlaetholwyr yng ngogledd Cymru i ffurfio Plaid Genedlaethol Cymru y flwyddyn ganlynol. Wedi i Saunders Lewis golli ei swydd yng Ngholeg Abertawe yn 1936 oherwydd llosgi’r Ysgol Fomio, tan G. J. Williams y penodwyd ef yn ddarlithydd Cymraeg drachefn yn 1952.

Yr oedd G. J. Williams yn un a geisiai hybu’r Gymraeg a’i thraddodiadau yn gyson, a gwelai’r angen am gefnogaeth sefydliadol i’w hybu. Ef oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn Llên Cymru, llywydd cyntaf yr Academi Gymreig (a sefydlodd Wobr Goffa Griffith John Williams yn deyrnged iddo), a bu ef a’i wraig yn hael a chefnogol i nifer o fudiadau a weithiai dros les y Gymraeg. Er ei ysgolheictod disglair ac er iddo wasanaethu Prifysgol Cymru yn ffyddlon am ddegawdau, ni welodd y brifysgol honno’n dda roi gradd er anrhydedd iddo, ond sefydlwyd cyfres o ddarlithoedd coffa yn dwyn ei enw yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Traddodwyd y gyntaf ohonynt gan Saunders Lewis ym mis Tachwedd 1966.

Dewi Evans

Llyfryddiaeth

[James, E. W.] (2013), ‘Golygyddol: Cofio Griffith John Williams (1892–1963)’, Llên Cymru, 36, 1–4.

Jones, M. (1984), ‘Griffith John Williams’, yn Evans, D. J. G. (gol.), Deri o’n daear ni: rhai o gewri bro Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch (Llandysul: Gwasg Gomer), tt. 172–80.

Lewis A. (gol.) (1969, 1985), Agweddau ar hanes dysg Gymraeg: detholiad o ddarlithiau G. J. Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Lewis, A. (1992), ‘Griffith John Williams’ a ‘Griffith John Williams a’i Lyfrgell’ yn Mathias, W. A. a James, E. W. (goln), Dysg a dawn: cyfrol goffa Aneirin Lewis (Caerdydd: Cylch Llyfryddol Caerdydd), tt. 30–7; 67–81.

Lewis, C. W. (1994), Griffith John Williams (1892–1963): y dyn a’i waith (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol).

Lewis, S. (1981) ‘Griffith John Williams’ yn Gwynn ap Gwilym (gol.), Meistri a’u crefft (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 44–8.

Parry, T. (1996), ‘Griffith John Williams’ yn Amryw Bethau (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 147–50.

Roberts, E., Cofio yr Athro Griffith John Williams a’i wraig, Elizabeth [sic] http://www.hanesplaidcymru.org/english-cofio-yr-athro-griffith-john-williams-ai-wraig-elizabeth/ [Cyrchwyd: 15 Tachwedd 2016].


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.