Williams, Jennie (1885-1971)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cynnyrch cerddorol Capel y Tabernacl, Aberystwyth, sef un o ganolfannau mwyaf dylanwadol-gerddorol canolbarth Cymru’r 19g., lle bu Ieuan Gwyllt a’r Athro David Jenkins yn bwrw eu prentisiaeth, oedd Jennie Williams (Thomas 2007, 251-79). Derbyniodd ei haddysg uwchradd yn y Camden School for Girls ac wedyn yn y North London Collegiate School, sef yr ysgol fonedd gyntaf i ferched a sefydlwyd yng nghanol y 19g. yn ardal Camden Town y brifddinas. Trwy gydol ei blynyddoedd cynnar yn Llundain, bu gofal Mary Davies (Mair Mynorydd) yn gyfrwng i gyfeirio ei gyrfa gerddorol a’i dwyn dan ddylanwad Capel Charing Cross a chymdeithas Cymry Llundain y dydd. Ar gais Mary Davies hefyd, dechreuodd ganu enghreifftiau cerddorol o alawon gwerin Cymreig yn ystod ei darlithoedd mewn canolfannau fel Lerpwl a Chaerdydd ym mlynyddoedd cynnar Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Hwn oedd man cychwyn ei hymwneud â’r maes.

Rhwng 1903 ac 1906 bu’n fyfyrwraig yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain, yn arbenigo ar y piano a’r llais, ond roedd ei diddordeb fel cantores a chyfeilyddes yn y cyfnod hwnnw yn bennaf yng nghaneuon rhai fel Chaminade a Saint-Saëns - arweinwyr y mudiad cenedlaethol yn Ffrainc. Fe’i penodwyd yn athrawes gerdd yn ei hen ysgol (North London Collegiate School) yn 1906, ond er mwyn ennill ei phlwyf fel pianydd (repetiteur) a hyfforddwraig leisiol gydnabyddedig, ymdrechodd i ddysgu Rwsieg, Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl.

Erbyn diwedd y degawd symudodd i Baris lle derbyniodd wersi gan ddau o unawdwyr opera amlycaf y cyfnod, Jean ac Edouard de Reszke. Ar lannau afon Seine yn ystod gweithgareddau ‘The Celtic Club’ y daeth Jennie a’i chwaer, Mary Williams, a oedd yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Paris (Sorbonne), i berfformio alawon o Gymru, gan gynnwys rhai o drefniannau J. Lloyd Williams. Hyn fu’r ysgogiad iddi fentro cyflwyno casgliad o ganeuon gwerin siroedd Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin (1911) (gw. Amgueddfa Werin Cymru, Llsgr. 1316). Seiliwyd ei chasgliad ar waith maes mewn ardaloedd megis Tal-y-bont, Mynydd Bach a Llanddeiniolen (ger Llanrhystud). Er bod casgliad gwreiddiol Jennie Williams ar gyfer Prifwyl Caerfyrddin ar goll, mae copi bras o’r deugain alaw ynghyd â nodiadau a geiriau wedi goroesi ac ar gadw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Ynddo, ceir alawon fel ‘Merch ei mam’, ‘Y Folantein’ a ‘Trwy’r drysni a’r anialwch’. Er na chyhoeddwyd ei chasgliad, ymddengys rhai ohonynt yng nghylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru (gw. 1919).

Bu’n flaenllaw yng nghynadleddau’r Gyngres Geltaidd yn ystod yr 1930au a’r 1940au, ac fe’i gwahoddwyd yn gyson i draddodi ar faterion a oedd yn gysylltiedig â cherddoriaeth Gymreig. Bu’n hael ei chefnogaeth i Gymdeithas UNESCO a’r International Folk Music Council hefyd, a thrwy gyfrwng ei hymweliadau ag Ewrop cafodd gyfle fel unawdydd ac areithydd i gyfarfod cerddorion a dysgu mwy am draddodiadau estron, yn bennaf er mwyn cymhwyso’r ddealltwriaeth honno a’u cymharu â maes cerddoriaeth Cymru. Er na wadodd Jennie Williams y traddodiad Cymreig erioed (hwn fu man cychwyn ei hastudiaethau a yn sail i bob erthygl o’i heiddo), ymdrechodd i ehangu gorwelion a’r ddealltwriaeth o faes cerddoriaeth frodorol Cymru drwy ddwyn elfennau cymharol i sylw ei darllenwyr ac ystyried cerddoriaeth Gymreig yng ngoleuni traddodiadau byd-eang.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Llsgr. 1316 [‘Welsh Folk Song – Eisteddfod Caerfyrddin - ‘Sian’ (ffugenw) - ail oreu’] Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, II/2 (1919), 84–5
  • Wyn Thomas, ‘Ffarwel i Aberystwyth ...’: Jennie Williams a byd yr alaw werin yng Nghymru’, yn Sally Harper a Wyn Thomas (goln.) Cynheiliaid y Gân - Ysgrifau i anrhydeddu Phyllis Kinney a Meredydd Evans (Caerdydd, 2007), 251–79



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.