Williams, Jeremy Huw (g.1969)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:53, 13 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr sy’n hanu o Gaerdydd. Astudiodd yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, lle daliodd Ysgoloriaeth Gorawl, cyn derbyn hyfforddiant lleisiol yn y National Opera Studio. Bu’n astudio hefyd gydag April Cantelo (g.1928). Mae wedi ennill lle amlwg fel un o faritoniaid mwyaf gweithgar ei genhedlaeth ac edmygir ei amlochredd a’i ddeallusrwydd cerddorol.

Gall feistroli gweithiau newydd ar fyr rybudd ac felly mae ganddo repertoire eang tu hwnt. Ers ei ymddangosiad cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru (Guglielmo yn Così fan tutte Mozart) mae wedi perfformio dros 60 o rannau operatig a theithiodd y byd gan berfformio nid yn unig mewn tai opera ond hefyd neuaddau cyngerdd mewn datganiadau gyda’i gyfeilydd Nigel Foster. Yn fwy diweddar bu’n perfformio gyda’r pianydd Tsieineaidd Paula Fan. Recordiodd wyth CD fel unawdydd gyda phiano.

Ymhlith yr operâu modern a berfformiodd, a lle gwelir yn amlwg ei gryfderau theatrig a cherddorol, y mae Curlew River a The Rape of Lucretia (ill dau gan Benjamin Britten), The Knot Garden (Michael Tippett), The Electrification of the Soviet Union (Nigel Osborne), Punch and Judy (Harrison Birtwistle) a llawer o weithiau eraill. Dyfarnwyd iddo Wobr Syr Geraint Evans gan yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru (gw. Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru), arwydd o’i sêl dros hybu gweithiau newydd gan gyfansoddwyr Cymreig, yn enwedig caneuon Alun Hoddinott (enillodd radd doethur yn 2013 gan Brifysgol Caerdydd am waith ymchwil ar Hoddinott).

Mae wedi comisiynu neu roi perfformiad cyntaf o weithiau nid yn unig gan Hoddinott ond hefyd William Mathias, John Tavener, Michael Berkeley, Paul Mealor, Julian Phillips, Richard Causton, Mark Bowden a Huw Watkins. Fe’i hanrhydeddwyd yn 2011 gan Brifysgol Aberdeen gyda doethuriaeth er anrhydedd.

Richard Elfyn Jones

Disgyddiaeth ddethol

  • Caneuon Jeremy/Songs for Jeremy (Sain SCD2266, 2000)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.