Williams, Llŷr (g.1976)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:55, 13 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o bianyddion disgleiriaf ei genhedlaeth yn rhyngwladol a cherddor athrylithgar. Fe’i ganed ym Mhentrebychan, Wrecsam, ac astudiodd yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, ac yna yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Roedd yn aelod o gynllun Yehudi Menuhin ‘Live Music Now’ ac fe’i dewiswyd hefyd yn un o gerddorion yr Young Concert Artist Trust yn 2002.

Daeth amlygrwydd rhyngwladol iddo’n sydyn yn dilyn datganiad ganddo yng Ngŵyl Caeredin yn Awst 2002. O hynny ymlaen daethpwyd i gyfeirio ato fel athrylith o bianydd ac o gerddor. Yn dilyn hyn daeth yn rhan o gynllun y BBC ‘New Generation Artists’ ac enillodd wobr gan Ymddiriedolaeth Borletti-Butoni. Fe’i hapwyntiwyd yn gyfeilydd swyddogol i gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd (gw. Cystadlaethau Cerddorol). Mae hefyd yn bianydd preswyl yn Galeri, Caernarfon.

Recordiodd sawl cryno-ddisg yn cwmpasu gweithiau cyfansoddwyr megis Beethoven, Chopin, Liszt, Mussorgsky, Debussy a Wagner, ac maent yn cynnwys nifer o drefniannau gan gyfansoddwyr, pianyddion eraill ac ef ei hun. Recordiodd hefyd waith Bartók a Daniel Jones yn arbennig ar gyfer Tŷ Cerdd. Perfformiodd yn helaeth gyda cherddorfeydd ledled y byd ac mae ganddo sawl partneriaeth ym maes cerddoriaeth siambr, gydag Alexander Janiczek ar y feiolin a Thomas Carroll ar y soddgrwth, a gweithiodd hefyd gyda Bryn Terfel.

Yr hyn sy’n cael ei ystyried yn arbennig am ddehongliadau Llŷr Williams yw ei allu anghyffredin i uniaethu â meddylfryd a gweledigaeth y cyfansoddwr heb iddo, fel pianydd, greu unrhyw fath o fur personol rhwng y cyfansoddwr a’r gynulleidfa. Cymaint yw ei ganolbwyntio ar elfen graidd y cyfansoddiad dan sylw fel nad yw’n rhoi fawr o bwys ar yr elfen o sioe sydd mor aml yn rhan annatod o berfformio’n gyhoeddus. Mae hyn yn arbennig o amlwg wrth iddo berfformio gwaith Beethoven a Schubert, ac mae ei gyfresi cyflawn o 32 sonata Beethoven wedi datblygu’n uchafbwynt mewn llawer canolfan a gŵyl gerdd ym Mhrydain a thu hwnt.

Mae ganddo ddawn arwain hefyd a bu’n perfformio sawl concerto i’r piano gan Mozart gan eu harwain o’r offeryn yn null y cyfansoddwr ei hun.

Geraint Lewis

Disgyddiaeth

  • Liszt, Schubert, Beethoven (BBC Music Magazine BBCMM254, 2005)
  • Chopin: Complete Preludes (Quartz QTZ2040, 2006)
  • Liszt: Excerpts from Années de pèlerinage, deuxième année: Italie S161 (Signum SIGCD290, 2012)
  • Llýr Williams: Pictures (Signum SIGCD226, 2010)
  • Wagner Without Words (Signum SIGCD388, 2014)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.