Williams, Meirion (1901-76)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr caneuon, pianydd, cyfeilydd a beirniad cerddorol. Fe’i ganed yn Nyffryn Ardudwy, Meirionnydd, yn fab i bostfeistr a groser ar aelwyd Glanywern. William Robert Williams sydd ar ei dystysgrif geni; newidiodd ei enw pan aeth i’r coleg yn Llundain. Roedd gan ei fam gysylltiadau teuluol Eidalaidd a thybiai llawer fod rhywbeth yn Eidalaidd yn ei bryd a’i wedd yntau. Derbyniodd ei addysg yn ysgol elfennol y Dyffryn ac Ysgol Ramadeg y Bermo, a bu’n gwasanaethu eglwysi’r dyffryn trwy chwarae’r organ ynddynt.

Trobwynt ei yrfa oedd ei benodi, yn 1919, yn gyfeilydd yng Ngŵyl Gerdd Harlech lle cafodd yr Athro Walford Davies, a oedd newydd ei benodi i’r adran gerdd yn Aberystwyth, gyfle i wrando arno. Yn sgil hynny fe’i derbyniwyd yn fyfyriwr yn Aberystwyth; treuliodd ddwy flynedd yno ac yna bu am wyth mlynedd yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain lle derbyniodd wobrau lawer fel pianydd.

Ar ôl ei gyfnod yn yr Academi penderfynodd ymsefydlu yn Llundain fel cerddor ar ei liwt ei hun gan ddod yn ôl i Gymru bob tro y deuai cyfle, yn bennaf fel beirniad mewn eisteddfodau bach a mawr. Cafodd beth gwaith parhaol fel organydd mewn eglwysi yn Llundain a bu’n unawdydd cyngerdd mewn neuaddau megis y Wigmore. Yn yr 1930au bu hefyd yn gynhyrchiol fel cyfansoddwr. Clywyd ‘Gorffwys’, ‘Awelon y Mynydd’ ac ‘Aros Mae’r Mynyddau Mawr’ am y tro cyntaf ar y radio yn 1934 ac fe’u cyhoeddwyd yn fuan wedyn gan J. B. Cramer & Co., Llundain. Fe’u dilynwyd gan ‘Gwynfyd’, ‘Cloch y Llan’, ‘Rhosyn yr Haf’, ‘Ora Pro Nobis’ a ‘Y Blodau ger y Drws’. Bu’n ddegawd prysur a llawn gobeithion i’r cyfansoddwr ac yntau hefyd yn cyfeilio i sawl sefydliad, gan gynnwys Cymdeithas Gorawl Syr Thomas Beecham yn Covent Garden. Priododd â Gwendoline Margaret Roberts yn 1932.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a phrofiadau anodd wedi dod i’w ran, aeth Meirion yn llawer llai cynhyrchiol fel cyfansoddwr. Er iddo fethu’r prawf meddygol a olygai na fyddai’n cael ei alw i ymladd, roedd profiadau eraill wedi peri i’w iechyd ddirywio. Fe’i gorfodwyd i weithio ar y tir yn dyrnu polion mawr i’r ddaear, ac arweiniodd hynny at ddifetha’i ddwylo. Roedd ei yrfa fel pianydd cyngerdd ar ben ond cafwyd cnwd newydd o ganeuon yn y degawdau wedi’r Ail Ryfel Byd. Er bod y caneuon hyn yn ymddangos yn llai aml bellach, roedd dyfnder ac aeddfedrwydd newydd yn perthyn iddynt. Cyfrifir ‘Y Llyn’ (1948), ‘Pan Ddaw’r Nos’ (1950), ‘Cwm Pennant’ (1952) ac ‘O Fab y Dyn’ (1962) ymhlith ei oreuon a chânt eu canu’n aml ar lwyfannau Cymru.

Parhaodd i fyw fel cerddor llawrydd. Roedd ei gysylltiad gyda’r Seiri Rhyddion yn anhepgorol yn ei ymdrech i greu bywoliaeth o gerddoriaeth a byddai’n chwarae’n gyson yn y cyfrinfeydd niferus yn Llundain. Bu farw ar ôl iddo gael ei daro’n wael ar y ffordd i chwarae mewn cyfrinfa.

Roedd Meirion Williams ymhlith y cyfansoddwyr cyntaf yng Nghymru i ysgrifennu caneuon yn arddull y lied Almaenig, gan gynnwys cyfeiliannau heriol a oedd yn rhan annatod o wneuthuriad y caneuon. Aeth eraill ymhellach gan gymharu ei arddull delynegol, donyddol gyda chyfansoddwyr Seisnig o droad yr 20g. megis John Ireland a Roger Quilter (Thomas 1977). Trwy hynny cododd y gân Gymreig i dir uwch.

Sioned Webb

Disgyddiaeth

  • Bryn Terfel – Caneuon Meirion Williams (Sain SCD2013, 1993)

Llyfryddiaeth

  • Mansel Thomas, ‘Meirion Williams (1901–1976): the Welsh Roger Quilter’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 5/5 (1977), 25–26
  • Sioned Webb, ‘Meirion Williams – y gŵr a’i grefft’ (traethawd MA Prifysgol Bangor, 1984)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.