Williams, W. Albert (1909-46)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Beirniad, organydd a chyfansoddwr a fu farw cyn cyflawni ei wir botensial. Cafodd William Albert Williams ei eni a’i fagu yn Lerpwl, gyda’i rieni yn Gymry o Ynys Môn a oedd wedi ymsefydlu yn y ddinas. Dim ond pedair oed ydoedd pan gollodd ei dad, a oedd yn gapten llong gyda’i fywyd ar y môr, a bu farw ei fam pan oedd yn 16. Bu’n byw wedi hyn gyda’i fodryb yn Lerpwl a thra oedd yn gweithio fel clerc i fwrdeistref Lerpwl bu’n astudio cerddoriaeth o dan gyfarwyddyd W. H. Whitehall gan lwyddo yn arholiadau’r ARCO a’r FRCO.

Bu’n organydd yn eglwysi MC Chatham Street, Douglas Street a St George Street. Yn 1940 priododd Glenys Jones o Bontypridd. Chwalwyd ei gynlluniau i astudio cerddoriaeth ymhellach gyda dyfodiad yr Ail Ryfel Byd. Gwrthododd yr awdurdodau milwrol roi caniatâd iddo symud fel trefnydd cerdd i Sir Aberteifi oherwydd ei ddyletswyddau, a bu farw wedi gwaeledd byr yn Ysbyty Middlesex ar 8 Ionawr 1946.

Roedd yn feirniad cerdd praff iawn. Ysgrifennodd erthyglau gwerthfawr am gerddoriaeth, yn enwedig ar gerddoriaeth Cymru, mewn cyhoeddiadau fel Y Cerddor, Y Faner, Y Cymro, Y Llenor a’r Western Mail.

Fel cyfansoddwr, canolbwyntiodd ar waith lleisiol a chorawl. Cyhoeddodd gyda Chwmni Gwynn a Phrifysgol Cymru, ac er mai corff bychan o waith a adawodd, mae o safon uchel a chlywir peth ohono mewn eisteddfodau hyd heddiw. Enillodd wobrau lu yn yr Eisteddfod Genedlaethol am gyfansoddi. Roedd yn ddethol iawn wrth ddewis geiriau ac yn fawr ei ofal hefyd dros wead yr ysgrifennu i’r piano, sydd bob amser yn idiomatig. Mae hyn yn wir hefyd am ei anthemau ar gyfer corau cymysg. Mae’r darnau byr ar gyfer lleisiau plant, er enghraifft Yr Oen Bach, Cartref a’i osodiad o ‘Y Gwanwyn’ gan J. O. Williams yn effeithiol ac ymarferol, ac mae nifer o’r darnau ar gyfer corau meibion yn dal yn rhan o repertoire nifer o gorau, er enghraifft Fy Mreuddwyd.

Gosododd gerddi gan amryw o feirdd poblogaidd y cyfnod, megis Eifion Wyn yn Y Ffrwd ar gyfer lleisiau merched a J. M. Edwards yn y darnau ar gyfer lleisiau plant. Yn aml ceir trawsgyweiriadau effeithiol, fel yn Cartref, lle symudir yn gelfydd o F fwyaf i A feddalnod fwyaf o fewn ychydig farrau, a hynny’n gwbl naturiol mewn modd sy’n adleisio’r cyfansoddwr lieder Franz Schubert. Diau mai ei waith gorau yw’r gân Cwyn y Gwynt, lle mae’n arddangos yr un gofal dros osod geiriau â cherddorion Seisnig y cyfnod. Mae’r agoriad, lle ceir gwrthgyferbyniad trawiadol rhwng E feddalnod yn y bas a D naturiol yn y cwmpawd uchaf, yn dwyn i gof waith Frank Bridge (1879-1941) neu Thomas Pitfield (1903-99), dyweder, ac mae’r unawd yn parhau’n boblogaidd ac yn tystio i’r dalent a gollwyd mor gynamserol.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

Disgyddiaeth

  • Bryn Terfel: Cyf. 2 (Sain SCD9099, 1990)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.