Williams, W. S. Gwynn (Gwynn o'r Llan; 1896-1978)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Roedd William Sidney Gwynn Williams yn gyfansoddwr, yn gyhoeddwr, yn ymchwilydd ac yn hyrwyddwr cerddoriaeth draddodiadol. Fe’i ganed ym Mhlas Hafod, Llangollen, Sir Ddinbych. Astudiodd gyfansoddi gyda’i dad, William Pencerdd Williams (1856-1924) a daeth yn aelod cysylltiol o’r Coleg Tonic Sol-Ffa, Llundain (1913); bu’n gefnogol i’r drefn honno gydol ei fywyd. Cyfansoddodd dros naw deg o ganeuon, gan gynnwys ‘My Little Welsh Home’ (1921), ‘ Hwiangerdd Sul y Blodau’ (1922), ‘Telyn Fud’ (1924) a ‘Tosturi Duw’ (1943).

Bu newid mawr yn ei arddull sentimental gynnar wedi iddo ddarllen sylwadau Syr W. Henry Hadow yn Adroddiad Terfynol (1918) y Comisiwn Brenhinol ar Addysg Brifysgol yng Nghymru, a argymhellodd mai cerddoriaeth werin ddylai fod yn sail i arddull gyfansoddi Gymreig genedlaethol. Wedi hynny bu’n annog defnyddio arddulliau gwerin moddol Cymreig traddodiadol mewn cerddoriaeth gelfyddydol Gymreig, gan hyrwyddo’r syniadau hynny fel golygydd Y Cerddor Newydd (1922-9), mewn erthyglau papur newydd a darllediadau radio (gan ddechrau yng Nghaerdydd ar 23 Hydref 1925), gan gynnwys darllediadau misol i Gymru o Ddulyn o fis Ionawr 1927 (pan berfformiodd ran o lawysgrif Robert ap Huw) hyd fis Mehefin 1928. Ef oedd arweinydd y darllediad byw cyntaf o Gymanfa Ganu (Rhosllannerchrugog, 22 Mehefin 1927).

Ymhlith ei gyhoeddiadau cynnar y mae Penillion in English (1926), Old Welsh Folk Songs... (1927) a Songs of the Welsh (1935); cafodd ei Traditional Welsh Music and Dance (1933) glod gan y beirniaid. Ymunodd â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru a bu’n weithgar ar ei rhan fel ysgrifennydd (1933-57), golygydd (1946-75), cadeirydd (1957-75) a chyfarwyddwr cerdd (1977-8). Yn 1930, 1934 ac 1941 recordiodd Decca ‘Gwynn Williams and His Welsh Singers’ yn perfformio trefniannau o alawon gwerin Cymru. Roedd yn un o aelodau cychwynnol Theatr Genedlaethol Cymru (1933) a threfnodd gerddoriaeth ar gyfer Y Gainc Olaf, cynhyrchiad cyntaf y Theatr.

Ym mlynyddoedd cynnar yr 1920au bu’n ymchwilio i ddawnsfeydd gwerin Cymru, gan gydweithio â Lois Blake (1890-1974) i gyhoeddi ‘The Llangadfan Dances’ (1936), ac ym mis Gorffennaf 1949 sefydlodd, gyda Blake ac eraill, Gymdeithas Ddawns Werin Cymru. Bu’n gwasanaethu’r gymdeithas honno fel cadeirydd (1949-71), is-lywydd (1971-5) a llywydd (1975-8). Bu hefyd yn drysorydd y Cyngor Cerddoriaeth Werin Rhyngwladol, ac yn gyfarwyddwr Gŵyl Alawon Gwerin a Dawns Werin gyntaf Cymru, Bae Colwyn, 1961. Yn 1969, gyda Roy Bohana, sefydlodd Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru.

Fel trefnydd cerdd Gorsedd Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1923-78), ef a gyfansoddodd ‘Gweddi’r Orsedd’ (1924), a chydweithredodd â Cynan (1895-1970) i drefnu’r ddawns flodau. Wedi cyfnod yn bennaeth adran gerdd Hughes a’i Fab (1932-7) sefydlodd Gwmni Cyhoeddi Gwynn yn 1937 i gyhoeddi cerddoriaeth cyfansoddwyr Cymreig cyfoes, gan ychwanegu cyfieithiadau i’r Gymraeg o’r clasuron yn ddiweddarach.

Gyda Joseph Scott Archer, George H. Northing a Harold Tudor roedd yn un o sefydlwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, ac ef oedd ei chyfarwyddwr cerdd cyntaf (1947-77). Yn sgil ei llwyddiant daeth Y Delyn (1947), ei gylchgrawn cerddoriaeth chwarterol newydd, i ben ar ôl y trydydd rhifyn.

Cafodd anrhydeddau lawer, yn eu plith OBE (1953), Cavaliere al Merito della Repubblica Italiana (1961), ac MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth (1959). Yn 1937 priododd y gontralto o Abergele, Elizabeth Eleanor Davies (1907-2001).

David R. Jones

Llyfryddiaeth

  • David R. Jones, ‘Advocate of Change and Tradition: W.S. Gwynn Williams (1896–1978): His Contribution to Music in Wales to 1950’ (traethawd PhD Prifysgol Cymru Bangor, 2007)
  • ———, ‘Nationalism, Folk Song and Welsh Art Music: One Man’s Vision’ Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History, 7 (2007), 161–91



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.