Wood, Jeremiah (Jerry Bach Gogerddan) (1778

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Perfformiwr a arbenigai ar y delyn deires. Perthynai i deulu’r sipsiwn Cymreig, fel mab i Valentine Wood ac ŵyr i Abram Wood (gw. Woodiaid, Teulu’r). Fel yr awgryma’i lysenw, roedd yn fychan o gorff - yn llai na phum troedfedd o uchder ac yn gwisgo esgidiau maint pedwar am ei draed. Ond, er gwaethaf ei gorff bychan, bu’n canu’r delyn deires i deulu Pryse, Plas Gogerddan, Aberystwyth, am dros hanner can mlynedd. Wedi ei farwolaeth, daeth John ei fab i’w olynu fel telynor i deulu Pryse, Gogerddan.

Ni wyddys pwy a hyfforddodd Jeremiah Wood, ond awgrymir ei fod wedi’i ddysgu gan Wil Penmorfa (1750-1828), a oedd yn gefnder i’w wraig, Ann Griffiths o Bren-teg. Awgrym arall yw mai ei dad, Valentine Wood, y cyntaf o deulu Wood i ganu’r delyn deires, a’i dysgodd.

O ran ei natur, roedd yn ŵr mwyn a thawel, ac mae’n debyg mai ei wraig a oedd â’r llaw uchaf yn eu perthynas. Roedd ganddynt naw o blant - chwech o ferched a thri o feibion. Er bod Jeremiah, Theophilus a John ill tri yn delynorion, roedd John, yn benodol, yn cael ei gydnabod fel chwaraewr telyn deires heb ei ail, ac ymhlith y gorau yng Nghymru yn ei ddydd. Priododd eu chwaer, Eleanor, â John Roberts (Telynor Cymru), un arall o delynorion amlycaf Cymru yn y cyfnod.

Bu farw ar 27 Gorffennaf 1867 a gosodwyd darlun o delyn deires ar ei garreg fedd yn Eglwys Llangynfelyn ger Clarach.

Gwawr Jones

Llyfryddiaeth

  • J. Glyn Davies, ‘Welsh Sources for Gipsy History’, yn Journal of the Gipsy Lore Society, 3/9 (1930), 78–86
  • Eldra Jarman a A. O. H. Jarman, Y Sipsiwn Cymreig (Caerdydd, 1979 [1991])



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.