Woodiaid, Teulu’r (Y Sipsiwn Cymreig)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Pobl wrthodedig, yn byw ar ymylon cymdeithas fu’r sipsiwn ar hyd y canrifoedd ac ym mhob gwlad a chyfandir. Erbyn heddiw, er gwaethaf y modd y cawsant eu gormesu a’u herlid, ceir oddeutu deng miliwn ohonynt ar wasgar ledled y byd, a’r un nodwedd amlwg sy’n eu clymu ynghyd yw’r lle pwysig sydd ac a fu i gerddoriaeth a dawns ym mywyd y Romani. Hyn, yn ddi-os, a gadwodd eu diwylliant yn fyw wrth i’w gallu fel perfformwyr a diddanwyr hawlio sylw ac edmygedd bonedd a gwreng yn ddiwahân.

Yma yng Nghymru, mae cyfenwau fel Lock, Boswell, Lee, Ingram a Hogan yn lled gyfarwydd. Dyma ddisgynyddion y teuluoedd Romani gwreiddiol a fu’n crwydro’r wlad. Wrth grybwyll cerddoriaeth a dawns, rhaid cyfeirio’n benodol at deulu amlochrog ac amryddawn Abram Wood (c.1699-1799). Y teulu hwn, yn anad neb arall, fu cynheiliaid y traddodiadau cerddorol Cymreig - y delyn deires, y ffidil, ceinciau ac alawon gwerin y genedl, a’u diddordeb ysol hwy yn arferion y Cymry a sicrhaodd barhad iddynt ac a fu’n gyfrwng i feithrin perthynas rhwng y teulu a’r gymdeithas o’u hamgylch.

Er bod Ellis Wynne yn ei argraffiad cyntaf o Gweledigaethau y Bardd Cwsg (1704) yn cyfeirio’n ddigon sarhaus at fodolaeth y sipsiwn yng Nghymru, a hynny rai blynyddoedd cyn dyfodiad Abram Wood, gwelir bod teulu Abram a’i ddisgynyddion wedi cyfrannu’n sylweddol i fwrlwm y bywyd cymdeithasol yn eu dydd. Dywedir bod Abram yn canu’r ffidil, ac o ganlyniad cafodd ei dderbyn yn wresog i’r twmpath dawns a’r noson lawen. Ganed iddo dri mab ac un ferch, Valentine (neu John) Wood (1742-1818), William, Solomon a Damaris, a chyfrannent hwy, ynghyd â’u teuluoedd, yn hael i gyfoeth y traddodiad Cymraeg. Roedd bri mawr ar ganu’r delyn deires yng Nghymru yr adeg honno, a thyfodd canolfannau fel Llanrwst a Dolgellau yn atynfa i nifer o sipsiwn, offerynwyr a gwneuthurwyr offerynnau fel ei gilydd.

Archelaus Wood (mab William ac ŵyr i Abram) a ddaeth i enwogrwydd fel datgeinydd telyn cyntaf y teulu, ac fe’i dilynwyd gan ei gefnder Harri Wood (Harry Ddu), Llanidloes, a fu’n gyfaill agos i’r bardd Ceiriog a Nicholas Bennett, Glanyrafon (golygydd Alawon fy Ngwlad, a gyhoeddwyd yn 1896) ac yn gyswllt â’r sipsiwn wrth iddo gywain ceinciau traddodiadol ynghyd. Chwaer i Archelaus a Harri oedd Sarah Wood, a ddaeth yn wraig i John Roberts Lewis (Pentrefoelas) a mam i John Roberts (Telynor Cymru), un o delynorion amlycaf ei ddydd a chyfarwyddwr ensemble siambr cynharaf y genedl, y Cambrian Minstrels.

Daeth John Wood Jones yn adnabyddus fel pencampwr ar y delyn deires ac o ganlyniad cafodd swydd fel telynor teuluol i Sackville Gwynne, Glanbrân, cyn symud i Blasty Llanofer, y Fenni, a gwasanaethu Augusta Hall (Gwenynen Gwent), un o gefnogwyr pennaf yr offeryn yn y 19g. Telynor Plas Gogerddan, ger Aberystwyth, oedd Jeremiah Wood (Jeri Bach) a gwasanaethodd yno fel cyfeilydd a diddanwr am gyfnod o hanner canrif cyn i’w fab, John Wood, ei olynu yn y swydd. Roedd ymgais John Roberts (Telynor Cymru) i ddwyn safonau proffesiynol i blith cerddorion y sipsiwn yn ddylanwad allweddol ar eu hapêl a’u poblogrwydd ymysg Cymry’r cyfnod. Pan gafwyd ymweliadau brenhinol yn ardal y Bala, gwahoddwyd y Cambrian Minstrels i gynrychioli’r traddodiad cerddorol Cymreig, a thrwy gydol misoedd yr haf cynhaliai’r ensemble gylchdaith o amgylch prif ganolfannau ymwelwyr y cyfnod, gan gynnwys Aberystwyth, Bermo, Porthmadog, Llandudno, y Rhyl a Chilgwri.

Cyfuniad o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig ac addasiadau offerynnol o glasuron operatig y cyfnod a berfformid ganddynt. Ond cafodd rhai o ddisgynyddion Abram Wood lwyddiant eisteddfodol yn ogystal. Er enghraifft, dyfarnwyd y wobr gyntaf i Mary-Anne Wood (gwraig Edward Wood), Corwen, am berfformiad yn Eisteddfod Llangollen, 1858, ac enillodd John Roberts (nai John Roberts, Telynor Cymru) delyn deires yn wobr yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni. Trwy gyfrwng perfformiadau cyhoeddus fel y rhain y sicrhaodd y sipsiwn gefnogaeth ac ymlyniad y Cymry. Yn sgil eu cyfraniad, diogelwyd y delyn deires ar gyfer perfformwyr y dyfodol a sicrhawyd bod rhai alawon (er enghraifft ‘The Wrexham Hornpipe’) yn cael eu mabwysiadu’n rhan o’r traddodiad llafar yng Nghymru. Roedd Eldra Jarman yn un o ddisgynyddion teulu John Roberts (Telynor Cymru), ac ymelwodd rhai o delynorion Cymreig yr 20g. a’r 21g. o gyfoeth eu crefft.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • R. W. Jones (Erfyl Fychan), ‘Teulu Abram Wood’, Yr Eurgrawn, 161 (Gaeaf, 1911), 182–6
  • J. Glyn Davies, ‘Welsh Sources for Gipsy History’, yn Journal of the Gipsy Lore Society, 3/9 (1930), 78–86
  • ———, ‘Edward Wood a’r Dadgeiniaid’, Lleufer, VIII/2 (Haf, 1952), 57–65
  • Eldra Jarman ac A. O. H. Jarman, Y Sipsiwn Cymreig (Caerdydd, 1979 [1991])
  • E. Ernest Roberts, John Roberts Telynor Cymru (Dinbych, 1981)
  • Robin Huw Bowen, ‘Teulu Abram Wood’, Dawns (1987), 29–42
  • Robin Gwyndaf, ‘Y Sipsiwn yn Uwchaled’, Llafar Gwlad, 18 (Gaeaf, 1988), 8–10
  • ‘Y Sipsiwn’, Llafar Gwlad (rhifyn arbennig), 18 (Gaeaf, 1987–88)
  • Wyn Thomas, ‘John Roberts, Telynor Cymru, 1816– 1894’, Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History, 1 (1996), 164–171



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.