Wyn, Casi

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:33, 21 Ebrill 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores a chyfansoddwraig. Ganed ym Mangor. Gan ddod o deulu cerddorol (roedd ei brawd, Griff Lynch, yn aelod o’r grŵp Yr Ods), astudiodd Casi Wyn ym Mhrifysgol Queen Mary, Llundain, rhwng 2012 a 2015. Yn ystod ei blwyddyn olaf bu’n gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC ar gyfer perfformiad yn y BBC Proms yn Abertawe, i drefniannau cerddorfaol gan y cyfansoddwr ffilm Owain Llwyd.

Gan gyfrif artistiaid megis y canwr hip hop Stormzy a’r gantores bop Lana Del Rey fel dylanwadau, mae ei chaneuon synth-pop atmosfferig wedi cael eu cymharu gyda Gonzalez ac M83, a’i llais etheraidd gyda chantoresau mor amrywiol â Jessie Ware neu Georgia Ruth Williams. Yn 2016, rhyddhaodd y sengl ddwbl ‘Lion’ a ‘Golden Age Thinking’ i adolygiadau ffafriol. Roedd fideo dyfeisgar gan y cyfarwyddwr a’r ffotograffydd Maisie Cousins yn cyd-fynd â ‘Lion’, gyda’r gân yn defnyddio geiriau gan Shakespeare i archwilio diymadferthedd emosiynol. Disgrifiwyd ei llais fel un ‘hypnotig’ â’i chaneuon breuddwydiol yn gyfuniad o elfennau o synth pop amgen/arbrofol ac arddull werin fodern. Rhyddhaodd y sengl ‘Beast’ yn 2017.



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.