Wynne, Edith (Eos Cymru; 1842-97)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Sarah Wynne yn Nhreffynnon, Sir Fflint, yn 1842, a’r bardd, yr unawdydd a’r eisteddfodwr Llew Llwyfo a ddygodd berswâd ar ei rhieni, medd ef, i ychwanegu Edith at ei henw (gw. Llwyfo 1896, 137). Yn naw oed dechreuodd ganu gyda chymdeithas gorawl y dref, yr Holywell Philharmonic, lle’r oedd ei dwy chwaer Hannah a Kate hefyd yn aelodau. Yn ei harddegau cynnar symudodd i Lerpwl er mwyn cael addysg gerddorol uwch a bu yno am bum mlynedd. Erbyn diwedd yr 1850au roedd yn enwog am ganu alawon gwerin Cymreig mewn cyngherddau ac eisteddfodau ledled Cymru ac yn 1861 ymddangosodd hi a Kate mewn cyngerdd o gerddoriaeth Gymreig yn St George’s Hall, Lerpwl, gyda rhai o gerddorion mwyaf blaenllaw Cymru fel y telynor John Thomas (Pencerdd Gwalia) a’r pianydd Brinley Richards.

Bu’n astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain yn yr 1860au ac yn ddiweddarach yn yr Eidal. Erbyn 1862 roedd hi’n ymddangos ar lwyfannau Llundain mewn cyngherddau a drefnid gan Bencerdd Gwalia, un tro i gyfeiliant 120 o delynau. Ymsefydlodd yn y ddinas a phriodi bargyfreithiwr o Armenia, Avet Agabeg. Ymddangosai mewn theatrau fel Drury Lane a’r Garrick, a mynd ar deithiau cerddorol o gwmpas Lloegr. Cymerodd ran mewn opera am y tro cyntaf yn Lerpwl yn 1867 fel yr arwres yn Maritana (W. V. Wallace), ac yn 1871 ac 1874 bu ar daith yn Unol Daleithiau America gan dderbyn cymeradwyaeth fawr yng Ngŵyl Gerdd Boston, Massachusetts. Haerodd Charles Dickens wrthi na fedrai fyth anghofio ei datganiad o ‘Clychau Aberdyfi’ ar ôl ei chlywed yn ei chanu ugain mlynedd ynghynt, ‘er nad oedd ef, ysywaeth, yn deall gair o’r geiriau peraidd’. Canodd o flaen y Frenhines sawl tro ac yng ngwyliau cerddorol blaenaf y wlad yn y Palas Grisial, Norwich, Brighton a Gŵyl y Tri Chôr (Caerwrangon, Henffordd a Chaerloyw).

Er gwaethaf ensyniadau cenfigennus i’r gwrthwyneb nid anghofiodd Edith Wynne erioed mai Cymraes ydoedd. Bu bob amser yn barod i gynorthwyo unawdwyr o Gymru a oedd yn dechrau ar eu gyrfa - un a elwodd ar ei chefnogaeth oedd Mary Davies (1855–1930) - a bu’n unawdydd oratorio droeon gyda chymdeithasau corawl safonol fel Côr Dowlais (e.e. yn Judas Maccabeus yn 1881). Roedd yn ffefryn yn yr Eisteddfod Genedlaethol o’r 1860au cynnar, er y bu’n rhaid iddi yng Nghaerfyrddin yn 1867 ganu dan ymbarél gan fod to’r babell yn gollwng. Er pan oedd yn ferch ifanc buasai’n feistres ar ‘drin’ cynulleidfa ac fe’i hadwaenid gan ei chyd-genedl fel ‘Eos Cymru’. Roedd ei chwaer Kate (Llinos Gwynedd) yn gantores ddawnus hefyd, er nad enillodd yr un enwogrwydd ag Edith, ac o blith ei thri brawd roedd Llew Wynne yn ysgrifennydd Undeb Corawl Cymry Lerpwl ac yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf yn drefnydd gwyliau cerddorol poblogaidd ar Lannau Merswy.

Ymddangosodd Edith Wynne yn gyhoeddus am y tro olaf yn un o gyngherddau Pencerdd Gwalia yn Llundain yn 1894, a bu farw yn y ddinas honno yn 1897, y gantores gyntaf o Gymru i ddod i sylw’r byd. Yng ngeiriau’r Cerddor, ‘hi oedd y gyntaf o ferched Cymru a lwyddodd i wneud nôd arbennig, a nôd uchel, y tu allan i’w gwlad enedigol’.

Gareth Williams

Llyfryddiaeth

  • Llew Llwyfo, Y Geninen, xv (1896), 137
  • Y Geninen, xv (1897), 273
  • Y Cerddor (Ebrill, 1897), 38



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.