Albert Evans-Jones (Cynan)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ganed Albert Evans Jones, neu Cynan, ar 14 Ebrill 1895, ym Mhwllheli. Graddiodd o Brifysgol Bangor yn 1916, a gwasanaethodd yn Ffrainc gyda'r R.A.M.C. yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fel caplan. Ar ôl y rhyfel, aeth i Goleg y Bala, lle ordeiniwyd ef yn 1920. Fe'i sefydlwyd yn weinidog mewn eglwys Bresbyteraidd ym Mhenmaenmawr. Yno y bu tan 1931, pan ddaeth yn diwtor yn yr adran allanol yng ngholeg Bangor, er iddo barhau i bregethu ar wahoddiad. Daeth i amlygrwydd yng Nghymru o dan y ffugenw, Cynan, am iddo ymaelodi â Gorsedd y Beirdd. Enillodd y goron yn 1921, 1923 a 1931 a'r Gadair yn Eisteddfod Pont-y-pŵl, 1923. Gweithiodd Cynan yn gyson a brwdfrydig ym maes y ddrama Gymraeg, fel dramodydd, actor a chyfarwyddwr. Enillodd gystadleuaeth ddrama yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1931 gyda'i ddrama, Hywel Harris. Derbyniodd gomisiwn gan yr Eisteddfod i ysgrifennu'r ddrama, Absalom fy Mab. Roedd yn awdurdod ar y ddrama yng Nghymru ac yn sylwebu feirniadol ar ei natur a'i chyflwr yn gyson.

Llyfryddiaeth

  • Cynan, Telyn y Nos (Caerdydd, 1921).
  • J. T. Williams (deth.), Cynan gyda atgofion George M. Ll. Davies, Yr Ail Bistyll (Caernarfon, 1922).
  • Cynan, Y Tannau Coll (Caernarfon, 1922).
  • Cynan, Caniadau Cynan (Llundain, 1927).
  • Cynan, Pasiant y Newyddion Da (Caernarfon, 1929).
  • Cynan, J. Williams Hughes, J. Ellis Williams, D. Tecwyn Evans, G. Hartwell Jones, ‘Y Ddrama a’r Pulpud’, Ford Gron, cyfrol 1, rhif 4 (Chwefror 1931), tt. 20 a 22.
  • Cynan, ‘Bwgan y farddoniaeth “anfoesol”’, Ford Gron, cyfrol 1, rhif 10 (Awst 1931), t. 11.
  • Cynan, Hywel Harris: Drama Bedair Act (Wrecsam, 1932).
  • Cynan, ‘Atgofion Cynan am Hedd Wyn’, Ford Gron, cyfrol 2, rhif 7 (Mai 1932), tt. 149, 170.
  • Cynan, ‘Tir Ango’, Ford Gron, cyfrol 4, rhif 10 (Awst, 1934), tt. 237–240.
  • Cynan, Lili’r Grog (Aberystwyth, 1936). [Cyfaddasiad o John Mansfield, ‘Good Friday’.]
  • Cynan, Ffarwel Weledig (Lerpwl, 1946).
  • Cynan, ‘Y Goeden Eirin’, Lleufer, cyfrol 3, rhif 2 (Haf 1947), tt. 64–68.
  • Cynan, Hen Ŵr y Mynydd (Llandybïe, 1949).
  • Cynan, John Huws Drws Nesa (Aberystwyth, 1950). [Cyfaddasiad o’r stori ‘Mr Sampson’ gan Charles Lee]
  • Cynan, Mr. Smart (Aberystwyth, 1950).
  • Cynan, Y Sêr yn eu Graddau (Aberystwyth, 1950). [Drama un act]
  • Cynan, ‘Pan oeddwn i’n fachgen’, Lleufer, cyfrol 6, rhif 4 (Gaeaf 1950), tt. 161–168.
  • Cynan, ‘O Berthynas i’r Eisteddfod’, Lleufer, cyfrol 7, rhif 4 (Gaeaf 1951), tt. 162–168.
  • Cynan, ‘Ail Gafodd-o’, Lleufer, cyfrol 11, rhif 3 (Hydref 1955), tt. 107–118.
  • Cynan, ‘Cydnabod’, Lleufer, cyfrol 12, rhif 3 (Hydref 1956), tt. 107–112.
  • Cynan, Absalom fy Mab (Lerpwl, 1957).
  • Cynan, ‘Stribedu Ffilm’, Lleufer, cyfrol 14, rhif 3 (Hydref 1958), tt. 129–30.
  • Cynan, Cerddi Cynan (Lerpwl, 1959).
  • Thomas Parry, Hanes yr Eisteddfod, a Cynan, Eisteddfod Genedlaethol a’r Orsedd Heddiw, (Lerpwl, D.D). [1960au]
  • Cynan, ‘Dysgu Barddoni’, Lleufer, cyfrol 18, rhif 3 (Hydref 1962), tt. 107–114.
  • Cynan, ‘Englyn clasur Gruffydd ap Siôn Phylip uwch cist ei dad’, Lleufer, cyfrol 20, rhif 2 (Haf 1964) tt. 71–72.
  • Cynan, ‘Atgyfodi Twm Nant’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 1 (Haf 1968), tt. 31–33.
  • Cynan, ‘Tad Beirdd Eryri: Dafydd Tomos (“Dafydd Ddu Eryri”) 1759–1822’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion (1969, Rhan 1)/Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1969, Part 1) (Llundain, 1970), tt. 7–23
  • Cynan, ‘Cynhyrchu Pasiant Cenedlaethol y Cadeirio a’r Coroni’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 3 (Haf 1969), tt. 11–14.
  • Cynan, ‘Y Ddrama yng Nghymru’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (1971), tt. 25–26.
  • Cynan, Cynan: Llyfr lliwio i ddathlu canmlwyddiant geni un o brif feirdd Cymru (Pwllheli, 1995).
  • Cynan (gol. y gyfres), Tegwyn Jones, Adlais o’r hen wrthryfel, (Llanrwst, 1999).
  • Cynan, ‘Fel hyn rwy’n ei gweld hi’, Barddas, rhif 284 (Awst/Medi/Hydref, 2005), tt. 60–61.

Amdano

  • J. T. Jones, ‘Oedd Madam Gruffydd yn caru Hywel Harris?’, Ford Gron, cyfrol 1, rhif 11 (Medi 1931), tt. 5–6.
  • Rhys Puw, ‘Perfformiad cyntaf Hywel Harris’, Ford Gron, cyfrol 2, rhif 7 (Mai 1932), t. 153.
  • Gwyndaf, ‘Cynan a Gorsedd y Beirdd’, Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 2–4.
  • Ernest Roberts, ‘Y Gweinyddwr’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (ca. 1971), t. 5.
  • William Morris, ‘Y Cerddi Eisteddfodol’, Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 7–9.
  • Huw Davies, ‘Yr Hogyn o Bwllheli’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 10–11.
  • Eric Wynne Roberts, ‘Yr actor a’r cynhyrchydd’, Llwyfan (Bangor), Cyf. 5 ([ca. 1971]), tt. 22–23.
  • Richard Jones, ‘Yr Athro’, Llwyfan, cyfrol 5 (ca 1971), tt. 16–18.
  • Alun Llywelyn-Williams, ‘Y Bardd’, Llwyfan, cyfrol 5 (ca 1971), tt. 12–14.
  • Bedwyr Lewis Jones, ‘Y Beirniad’, Llwyfan, cyfrol 5 (ca 1971), tt. 28–29 a 32.
  • Bedwyr Lewis Jones, Cynan: Y llanc o dref Pwllheli (Pwllheli, 1981).
  • (Gol.) Ifor Rees, Bro a Bywyd Syr Cynan Evans-Jones, 1895–1970 (Caerdydd, 1982).
  • J. T. Jones (John Tudur), ‘Cynan a’i waith’, Taliesin, cyfrol 52 (1985), tt. 90–97.
  • Gilbert Ruddock, ‘Yr Ysgol Farddol’, Barddas, rhif 110 (Mehefin, 1986), tt. 11–12.
  • Bedwyr Lewis Jones, ‘P’run oedd capel bach gwyngalchog Cynan?’, Barddas, rhif 120 (Ebrill 1987), tt. 1–2.
  • Dafydd Owen, ‘Tair Cerdd Cynan (OBWV rhifau 290, 291, 292)’, Barn, rhif 236 (Tachwedd 1991), tt. 23–24.
  • Gerwyn Wiliams, ‘Rhamant Realaidd Cynan’, Taliesin, rhif 76 (Mawrth 1992), tt. 105–112.
  • Huw Williams, ‘Cerdd yn y cof: sôn, am gerdd ac athro arbennig’, Lleufer Newydd 3 (1993), t. 24.
  • Wyn Hobson, ‘Un llinell, un prynhawn’, Barddas, rhif 207/208, (Gorffennaf/Awst, 1994), tt. 39–43.
  • (Gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995).
  • Bedwyr Lewis Jones, ‘Y Llanc o Dref Pwllheli’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 55–74.
  • Tilsi, ‘Cynan yr Archdderwydd’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 75–78.
  • Wilbert Lloyd Roberts, ‘Dyn drama a theatr ac actio’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 80–90.
  • Dilwyn Cemais, ‘Cynan: Pendefig Pasiant’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 91–95.
  • W. R. P. George, ‘Ffarwel Weledig’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 96–113.
  • James Nicholas, ‘Cynan y Cofiadur’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 114–120.
  • Huw Tegai, ‘Cynan yr Athro Dosbarth’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 121–124.
  • R. Wallis Evans, ‘Cynan y Sensor, 1931–1968’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 125–134.
  • Bedwyr Lewis Jones, ‘Y Beirniad’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 135–141.
  • R. Bryn Williams, ‘Rhai Atgofion am Cynan’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 142–145.
  • T. Gwynne Jones, ‘Ambell atgof’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 147–151.
  • T. W. Thomas, ‘[Cynan] Y Cyfaill’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 152–56.
  • Richard Jones, ‘Atgofion am Cynan’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 160–163.
  • Robyn Lewis, ‘Cynan: “un o hogia’r dre”’, Barn, rhif 388 (Mai 1995), tt. 26–27.
  • Alan Llwyd, ‘Golygyddol’, Barddas, rhif 251, (Mawrth/Ebrill, 1999), tt. 4–12.
  • Selwyn Iolen (Selwyn Griffith), ‘Colofn yr Archdderwydd’, Yr Enfys (Gwanwyn 2007), t. 25.

Cyfeiriadau



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.