Harper, Sally (g.1962)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y cerddoregydd Sally Harper ger Dudley yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Wedi graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Birmingham, cwblhaodd ei doethuriaeth ar gerddoriaeth a litwrgi Seisnig yr Oesoedd Canol yng ngholegau Magdalen a Brasenose, Prifysgol Rhydychen, yn 1989. Fe gyhoeddwyd y thesis yn ddiweddarach fel rhan o gyfres Gwasg Garland o draethodau hir rhagorol.

Wedi treulio cyfnod byr ym maes gweinyddu academaidd ym Mhrifysgol Warwick, dechreuodd ddarlithio ym Mhrifysgol Bangor yn 1991 gan ddod yn gyfarwyddwr Canolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru yn 1999. Sefydlwyd y Ganolfan gyda’r bwriad o gyflawni pedwar prif amcan: cydlynu a datblygu ysgolheictod ym maes cerddoriaeth Cymru; hyrwyddo cynadleddau a chyhoeddiadau rheolaidd; darparu adnoddau ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg; a hybu cydweithrediad gydag ysgolheigion ar lefel ryngwladol, gan gynnwys rhai mewn gwledydd Celtaidd eraill. Bu Harper yn cyd-olygu’r cyfnodolyn dwyieithog Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History a gychwynnwyd yn sgil sefydlu’r Ganolfan, gan gyfrannu erthyglau pwysig ar gerddoriaeth gynnar yng Nghymru, gan gynnwys llawysgrif Robert ap Huw (Harper 1999).

Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn rhannu’n dri chategori: cerddoriaeth yng Nghymru, gyda phwyslais arbennig ar gerddoriaeth a diwylliant yng Nghymru’r Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar; litwrgi a sefydliadau crefyddol yr Oesoedd Canol; a cherddoriaeth ar gyfer y litwrgi gyfoes. Cyhoeddodd gyfrol gynhwysfawr ar gerddoriaeth yng Nghymru cyn 1650, o dan y teitl Music in Welsh Culture before 1650: A Study of the Principal Sources (Harper 2007). Gyda Wyn Thomas, cyd-olygodd gasgliad o ysgrifau i anrhydeddu Phyllis Kinney a Meredydd Evans, Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru: Cynheiliaid y Gân (Harper a Thomas 2007). Y mae hefyd wedi cyhoeddi sawl erthygl ar Robert ap Huw (Harper 1999), Cerdd Dant (Harper 2001), cerddoriaeth Elisabethaidd yng Nghymru (Harper 2002, 2004 a 2005), Edmwnd Prys (Harper 2003) a Phillip Powell (Harper yn Harper a Thomas 2007). Yn 2009 daeth yn rhan o’r tîm ymchwil craidd ar gyfer prosiect The Experience of Worship in Late Medieval Cathedral and Parish Church a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ar y cyd â’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) er mwyn ail-greu ac annog dealltwriaeth o brofiadau addoli yn ystod yr Oesoedd Canol.

Flwyddyn yn ddiweddarach, gan gydweithio gydag Eglwys Gadeiriol Bangor, Archif y Brifysgol a Choleg Celfyddydau’r Brifysgol, daeth yn gyd-gyfarwyddwr ar Broject Llyfr Esgobol Bangor – prosiect a ddychwelodd lawysgrif o’r 14g. yn ôl i Fangor fel rhan o broses gadwraethol. Yn sgil y prosiect hwn, digideiddiwyd yr Esgoblyfr er mwyn hwyluso ei hygyrchedd i ddarllenwyr yr 21g. Mae Sally Harper hefyd wedi arwain a chyfrannu at brosiectau ymchwil eraill wedi’u hariannu gan AHRC, sef y gwe-broject dafyddapgwilym.net ynghyd â phrosiect cysylltiedig ar berfformio barddoniaeth werinol ganoloesol yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban.

Tristian Evans



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.