Diwydiant diwylliant

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Datblygwyd y cysyniad o ‘ddiwydiant diwylliant’ gan yr athronwyr Almaenig Theodor Adorno a Max Horkheimer mewn nifer o destunau o’r 1940au ymlaen. Mae’r term yn cyfeirio at gynhyrchwyr nwyddau diwylliannol (cwmnïau ffilm, teledu, cerddoriaeth, ac yn y blaen) yn ogystal â’r cyfryngau sydd yn eu darlledu (gorsafoedd radio a theledu, y wasg boblogaidd). Dylid ystyried y sefydliadau hyn yn eu cyfanrwydd fel un diwydiant diwylliant, yn ôl Adorno a Horkheimer. Yn null beirniadaeth gymdeithasol Ysgol Frankfurt (roedd Adorno a Horkheimer yn aelodau blaenllaw ohoni), maent yn defnyddio’r cysyniad er mwyn dadansoddi a beirniadu diwylliant torfol modern. Dadleuir bod gan y diwydiant diwylliant ddylanwad llethol a niweidiol ar gymdeithas fodern, a’i fod yn cwtogi ar y posibilrwydd o ryddhau cymdeithas.

Prif nodwedd y diwydiant diwylliant yw’r ffenomen o drin cynnyrch diwylliannol fel nwyddau. O dan amodau cyfalafiaeth ddiweddar, rhaid ystyried ffilmiau, nofelau, cerddoriaeth ac yn y blaen fel nwyddau diwylliannol, yn hytrach na chelfweithiau. Does dim byd newydd yn y ffaith bod celfweithiau, o dan gyfalafiaeth, yn dwyn cymeriad economaidd yn ogystal ag estheteg. Gwŷr busnes oedd Michaelangelo a Shakespeare, wedi’r cyfan; yn ogystal â chreu celf, roedd ganddynt olwg ar wneud elw. Ond gyrrir y broses i’w anterth o fewn y diwydiant diwylliant. Mae ‘gwerth cyfnewid’ y nwydd diwylliannol bellach wedi llyncu ei ‘werth defnydd’ (hynny yw, ei swyddogaeth esthetig) yn gyfan gwbl.

Yn sgil y datblygiad hwn, ceir newid yn natur diwylliant. Gwaredir y gwahaniaethau rhwng diwylliant ‘uwch’ a diwylliant ‘is’, rhwng celf ddeallusol ac adloniant, rhwng diwylliant a hysbysebu. Ar y naill law, mae’r diwydiant diwylliant yn cynhyrchu llu o nwyddau safonedig, unfath (megis caneuon pop, neu ffilmiau poblogaidd). Ar y llaw arall, mae’n cynnig unigrywiaeth ffug. Enghraifft fyddai’r isddiwylliannau sydd yn bodoli ymysg pobl ifainc yn eu harddegau, pob un gyda’i gerddoriaeth a gwisg barod. Gall y diwydiant diwylliant gymathu unrhyw beth sydd yn ei wrthsefyll. Ystyriwch grysau t gyda’r morthwyl a’r cryman arnynt. Eu pwrpas, yn y pen draw, yw gwneud elw wrth hwyluso tra-arglwyddiaeth barhaol cyfalaf. Mae’r amcanion hyn yn cyflyru pob agwedd o ddiwylliant. Swyddogaeth adloniant o dan yr amodau hyn yw galluogi’r gweithwyr blinedig i adfywio’u hunain min nos er mwyn dychwelyd i’w gwaith trannoeth, yn hytrach na phrofi gweledigaethau diwylliannol beirniadol neu heriol. Nid yw’r nwyddau diwylliannol yn ddim mwy na delweddau difyrrus ar furiau ein celloedd. Swyddogaeth ideolegol y diwydiant diwylliant yw magu poblogaeth oddefol a chydymffurfiol. Trechir y neilltuol a’r unigryw gan nerth y crynswth.

O ganlyniad i oruchafiaeth y diwydiant diwylliant, diffoddir sbardun democrataidd diwylliant ‘is’ a gallu beirniadol diwylliant ‘uwch’ ill dau. Mae Adorno yn dadlau bod gan ‘gelf annibynnol’ – yn yr 20g., celf fodernaidd haniaethol megis cerddoriaeth ddigywair Arnold Schönberg – y potensial i chwarae rôl feirniadol. Gallai’r math hwn o gelf herio cyfundrefn cyfalaf, naill ai trwy amlygu natur ddrylliedig realiti cymdeithasol neu trwy gynnig gweledigaeth dra gwahanol o’r byd. Effaith y diwydiant diwylliant yw ymyleiddio a mygu celf annibynnol. Does dim dianc rhag y diwydiant diwylliant; mae hyd yn oed beirniadaeth yn rhan ohono.

Dafydd Huw Rees

Llyfryddiaeth

Adorno, T., Horkheimer, M. (1944), Dialektik der Aufklarung (Efrog Newydd: Social Studies Association Inc.).

Adorno, T. (1967), Ohne Leitbild (Frankfurt am Main: Suhrkamp Verlag).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.