Gair cyfansawdd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Gair sydd yn cynnwys o leiaf dwy forffem rydd yw gair cyfansawdd neu gyfansoddair, e.e. ‘prifathro’, lle mae’r morffemau unigol, ‘prif’ ac ‘athro’ yn gallu sefyll fel geiriau unigol ar eu pennau eu hunain. Ceir dosbarthiad manwl o'r gwahanol fathau o eiriau cyfansawdd yn Gramadeg y Gymraeg.

Mae geiriau cyfansawdd yn elfen gyffredin yn ein hiaith, ond ceir defnydd creadigol penodol ohonynt mewn llenyddiaeth, yn enwedig mewn barddoniaeth, ac yn gyffredin iawn mewn barddoniaeth gaeth. Mae creu geiriau cyfansawdd yn ychwanegu at eirfa'r bardd cynganeddol. Mae'r gallu i gynhyrchu geiriau cyfansawdd sy'n gyson â theithi'r iaith ac yn cyfrannu'n arwyddocaol at arddull y darn yn arf llenyddol gwerthfawr. Roedd Dafydd ap Gwilym yn bencampwr yn hyn o beth; dwy enghraifft benodol yw ei ddisgrifiad o’r wylan fel ‘esgudfalch edn bysgodfwyd’, neu’r cyfeiriad at y ferch ‘rhagorbryd rhy gyweirbropr’. Prawf bod y ddyfais yn dal yn ei grym yw'r enghreifftiau a gaed yn awdl fuddugol Aneirin Karadog yn Eisteddfod Genedlaethol 2016, e.e. 'hengord' a 'newyngan'.

Gall fod yn rhan o arfogaeth y llenor rhyddiaith hefyd; disgrifir brecwast ‘marmaledlon’ yn nofel Mihangel Morgan, Dan Gadarn Goncrit. Dyma enghraifft o'r defnydd dychanol ac ysgafn a wneir weithiau o eiriau cyfansawdd.

Robert Rhys

Llyfryddiaeth

. Johnston, D. et al (2010), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru) (Gweler hefyd www.dafyddapgwilym.net).

Karadog, A. (2016), 'Ffiniau' yn W. Gwyn Lewis, gol., Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau (Llandysul: Llys yr Eisteddfod Genedlaethol).

Thomas, P. W. (1996), Gramadeg y Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.