Gwenlyn Parry

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Proffil

Gwenlyn Parry 1932–1991
  • Enw: William Gwenlyn Parry
  • Geni/Marw: Deiniolen, neu Llanbabs fel yr oedd ef a thrigolion yr ardal yn galw’r pentref.
By farw ar Dachwedd 5ed 1991, a’i gladdu ym mynwent Macpela, Pen-y-Groes, Gwynedd.
  • Cefndir teuluol: Chwarelwr yn chwarel Dinorwig oedd ei dad. Roedd bywyd yn galed i deulu a oedd yn brwydro’n barhaus yn erbyn tlodi – medrir gweld olion yr ofn hwnnw, a oedd yn fygythiad parhaol yn ei waith. Roedd ei fam yn gweithio mewn ffatri yn Llanberis. Pan aeth ei dad i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd yn 1939, ei fam oedd yn gyfrifol amdanynt, ac felly hi oedd yn gwisgo’r trwser, gwelir ôl hyn hefyd ar ei waith – mae merched ei ddramâu yn rhai cryfion.
  • Addysg: Ysgol Gwaun Gynfi
Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Brynrefail
Yng Ngholeg Bangor derbyniodd hyfforddiant i fod yn athro. Yno, ymddiddorodd yn y ddrama, nid fel ysgrifennwr, ond fel actor a chynhyrchydd. Dechreuodd ei gyn brifathro, Richard Jones ei hyfforddi i fod yn bregethwr cynorthwyol
  • Gwaith: Ymunodd â’r RAF. Roedd yn anghytuno gyda Rhyfel yn dilyn straeon erchyll ei dad wedi iddo ddychwelyd. Treuliodd ddwy flynedd yn nyrs yn yr adran feddygol.
Athro Mathemateg yn Llundain. Yn ystod y cyfnod yma fe ddaeth yn fwy cyfarwydd gyda’r theatr, a dechreuodd ymhél â Chwmni Drama’r Gymdeithas Gymraeg lle ddaeth i gysylltiad gyda Ryan Davies a Rhydderch Jones.
Bu’n athro Gwyddoniaeth yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.
  • Gwraig a Phlant: Bu’n briod ddwywaith, yn gyntaf gyda Joy o Bontyberem ac wedyn gydag Ann Beynon. Mae ganddo bedwar o blant – dau blentyn o’r ddwy briodas.
  • Digwyddiadau
    • 1961 – Anfonodd ei ddrama gyntaf, Y Ddraenen Fach, i gystadleuaeth pwysig drama fer yr Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor. Daeth yn gyd-fuddugol.
    • Yn y 60au cynnar daeth ei gomisiwn cyntaf i ysgrifennu drama hir gan Elis Gwyn a Wil Sam o Theatr y Gegin, Cricieth, a barodd iddo fynd ati i ysgrifennu Saer Doliau.
    • Yn y cyfamser bu’n actio a chynhyrchu yn Theatr Fach Eryri lle daeth o dan ddylanwad John Gwilym Jones.
    • 1966 – Ymunodd â BBC Cymru yng Nghaerdydd i sefydlu adran sgriptiau. Dyma gyfnod cyfresi Fo a Fe, cychwyn opera sebon Pobol y Cwm a’r ffilm Saesneg, Grand Slam.
    • Rhwng 1967 a 1977 – Enillodd lawer o wobrau gan gynnwys pedair gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
    • 1967 – Gwobr Cyngor y Celfyddydau
    • 1977 – Gwobr yng Ngŵyl Ddrama Ryngwladol Dundalk yn Iwerddon.
  • Dramâu: Y Ddraenen Fach (1961), Poen yn y Bol (1963), Hwyr a Bore (1964), Saer Doliau (1966), Tŷ ar y Tywod (1968), Y Ffin (1973), Y Tŵr (1978), Sal (1980), Panto (1986).
Llyfryddiaeth
BBC, Dramodydd : Dringo’r Tŵr – Bywyd Gwenlyn Parry.

O’ch Chi’n Gwybod...???

“Os oes neges ynddynt [ei ddramâu] – y neges honno fydd yr un a wêl y gwyliwr.”
– Gwenlyn Parry
  • Roedd Tŷ ar y Tywod yn gyfle i Gwenlyn arbrofi mewn dau gyfrwng ar yr un pryd, sef y llwyfan (Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru) a’r stiwdio deledu (BBC Cymru).
  • Cyfeiriodd Aneirin Talfan Davies at Tŷ ar y Tywod fel; “Drama sydd yn garreg filltir bwysig yn hanes Gwenlyn Parry fel dramodydd”.
  • Gadawodd ei ôl ar adloniant llawer iawn mwy poblogaidd hefyd, yn fwyaf arbennig, gyda Fo a Fe yn Y Gymraeg a Grand Slam, ffilm hynod boblogaidd yn Saesneg am daith rygbi i Baris.
  • Doedd Gwenlyn ddim yn meddwl ei bod yn bosib ysgrifennu am fwy na thair awr y dydd.
  • Roedd wastad yn defnyddio pensil i ysgrifennu ac nid oedd byth yn teipio ei waith er iddo gael tynnu ei lun wrth deipiadur a phrosesydd geiriau! Roedd yn cael eraill i deipio - ei ferch Catrin yn aml yn y blynyddoedd olaf.
  • Roedd llawer o drafod a meddwl yn digwydd cyn rhoi pin ar bapur - y syniad yn berwi yn ei ben am flynyddoedd weithiau e.e. syniad sylfaenol Panto a ddechreuodd pan aeth i ymweld â Ryan Davies yn ei ystafell wisgo yn ystod un o bantomeimiau'r Grand yn Abertawe. Roedd blwch ar y wal (uchelseinydd) fel sydd yn y ddrama ei hun.
  • Nid oedd yn hoffi darllen gormod, rhag ofn y byddai’n dwyn syniadau pobl eraill ar ddamwain.
  • Wedi iddo orffen ysgrifennu drama mi fyddai’n byrhau ac yn tocio’r stori a’r ddeialog lawr i’r asgwrn nes oedd bron dim byd ar ôl. Roedd yn feirniad llym ofnadwy o’i waith ei hunan.
  • Drama gyntaf Gwenlyn oedd Y Ddraenen Fach (1961), a enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1961 a chyflwynwyd perfformiad ohoni y flwyddyn olynol gan gwmni Cymry Llundain yng nghystadleuaeth drama un-act Eisteddfod Genedlaethol Llanelli.
  • Pan fyddai Gwenlyn yn mynd i weld drama rhywun arall byddai’n trafod a dadansoddi’r stori a’r ystyr yn ddi-ddiwedd wedi hynny. Beth oedd y neges, beth oedd y dramodydd yn ceisio’i ddweud. Dyna oedd y mwynhad iddo.
Llyfryddiaeth
Phillips, Dewi Z. (1995) Dramâu Gwenlyn Parry : Gwasg Pantycelyn.
Hughes, J. Elwyn (2001) Dramâu Gwenlyn Parry Y Casgliad Cyflawn : Gwasg Gomer.