J. Tywi Jones

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Gweinidog (Bedyddwyr), newyddiadurwr a dramodydd. Ganed John Tywi Jones ar Ionawr 7, 1870 yn Henllys Lodge, ger Llanymddyfri. Addysgwyd ef yn lleol ac yna astudiodd yng Ngholeg y Bedyddwyr, Gogledd Cymru, lle y’i ordeiniwyd yn bregethwr. Priododd ddwywaith; ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf, Ellen Davies, yn 1915, priododd L. M. Owen. Pregethodd yn Nhraethcoch, Sir Fôn am wyth a hanner mlynedd, ac yna yng Nghlais, Abertawe am naw ar hugain mlynedd, cyn ei ymddeol yn 1935. Yn aml, wrth i Jones ysgrifennu ei ddramâu, roedd rhai o’i blwyfolion yn ymarfer gydag ef.

Llyfryddiaeth

  • J. Tywi Jones, Dirgelwch Dig neu Gyfrinach y Ffermwyr Mawr (Aberdâr, 1908).
  • J. Tywi Jones, Chwedlau Hamdden (Aberdâr, 1911).
  • J. Tywi Jones, Richard Jones-Davies Esq. (Caerfyrddin, 1911).
  • J. Tywi Jones, Jac Martin, neu Bobl Llandderwydd (Caerfyrddin, 1913).
  • J. Tywi Jones, Dic Sion Dafydd neu Richard Jones-Davies Esq. (Caerfyrddin, 1913). [Ailargraffiad gyda nodiadau gan yr awdur.]
  • J. Tywi Jones, Eluned Gwyn Owen neu Yr Eneth Goll (Caerfyrddin, 1914).
  • J. Tywi Jones, Y Cranc (Aberdâr, 1919).
  • J. Tywi Jones, Erthygl Di-enw, Y Darian (30 Hydref, 1919), t. 1.
  • J. Tywi Jones, Gwr y Cefen (Aberdâr, 1920).
  • J. Tywi Jones, Eisteddfod y Pentre (Wrecsam, 1922).
  • J. Tywi Jones a E. Prosser Rhys, Gwaed Ifanc (Wrecsam, 1923). [Barddoniaeth]

Amdano

  • D. T. Davies, ‘The Welsh Drama: important aspects of production’, The Western Mail (17 Mawrth 1920), t. 10.
  • Cecil Price, ‘Towards a National theatre for Wales’, Anglo-Welsh Review, XII, 29 (1962), 21.
  • Dafydd Wyn Wiliam, ‘Enllib hen nofel’, Casglwr, rhif 41 (1990) t. 9.
  • Tywi yng Nghwm Tawe / Noel Gibbard Cwm Tawe (Cyfres y Cymoedd) (1993), tt. 240–65.
  • Noel Gibbard, ‘Tywi yng Nghwm Tawe, yn (gol.) Hywel Teifi Edwards, Cwm Tawe (Cyfres y Cymoedd) (Llandysul, 1993), tt. 240–265.
  • Noel Gibbard, ‘J. Tywi Jones a'i ohebwyr’, Traethodydd, cyfrol 163 (2008), tt. 180–189.

Cyfeiriadau



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.