O'r Ddaear Hen

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Wrth i William Jones (Charles Williams) balu yng ngardd ei dŷ cyngor daw o hyd i ben carreg od yr olwg. Yn ystod y nos caiff ei wraig freuddwydion arswydus gan beri iddiorfodi i William symud y pen o’r tŷ. Yn ei dro aiff a’r pen i archeolgydd ym Mhrifysgol Bangor (Valerie Wynne-Williams) sy’n arbenigwr ar greiriau Celtaidd ac sy’n ceisio palu am olion y Celtiaid mewn man arall. Er mwyn ceisio deall beth yw’r pen aiff a fo adref gyda hi, ond i bethau ddechrau mynd o chwith yn y nos yno hefyd gan ddod â breuddwydion erchyll o greadur hanner dyn hanner anifail i wragedd y tŷ. Un wrth un caiff teulu'r archeolegydd eu arswydo gan arwain at angau ac aberth arall i dduwiau hynafol y Celtiaid.

Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: O’r Ddaear Hen

Blwyddyn: 1981

Hyd y Ffilm: 50 munud

Cyfarwyddwr: Wil Aaron

Sgript gan: Gwyn Thomas

Stori gan: Gwyn Thomas

Cynhyrchydd: Gwilym Owen

Cwmnïau Cynhyrchu: Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

Genre: Arswyd

Cast a Chriw

Prif Gast

  • Valerie Wynne-Williams (Miriam Vaughan)
  • J.O. Roberts (Arthur Vaughan)
  • Bethan Jones (Anna Vaughan)
  • Lindsay Evans (Alan Wyn)
  • Charles Williams (William Jones)
  • Elen Roger Jones (Jane Jones)

Cast Cefnogol

  • Stewart Jones – Dyn yn y dafarn
  • Clive Roberts – Plisman

Rhannau Eraill:

  • Fred Williams
  • Jim Fieldsend
  • Victor Tudor
  • Alwyn Pleming
  • Aelodau o Theatr Fach Llangefni

Ffotograffiaeth

  • Graham Edgar

Sain

  • Gus Lloyd

Golygu

  • Lewis Fawcett

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Cynorthwywr Camera – Kevin Duggan
  • Cynorthwywr Sain – Bob Webber
  • Rheolwr Cynhyrchu – Gwynfryn Roberts
  • Coluro – Mary Hillman
  • Cynorthwydd Cynhrychu – Shân Davies

Manylion Technegol

Fformat Saethu: 16mm

Math o Sain: Mono

Lliw: Lliw

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg

Lleoliadau Saethu: Prifysgol Bangor; Din Llugwy, Mon.

Manylion Atodol

Llyfrau

  • David Berry, Wales and Cinema (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994)



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.