Perfformio

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Term cynhwysol sy’n cynnwys pob agwedd ar fywyd sy’n ymwneud â chwarae rôl mewn cyd-destun penodol. Gall gyfeirio at berfformiad artistig (e.e. theatrig neu gerddorol) lle yr eir ati i ddangos dawn unigolyn neu dîm o bobl gerbron cynulleidfa at bwrpas diddanwch. Ar lefel ehangach, gall hefyd gyfeirio at y modd yr ydym yn ‘perfformio’ ein hunaniaeth wrth fyw ein bywydau o ddydd i ddydd – yn y modd yr ydym yn ymwneud â phobl ac yn cyfathrebu, boed yn ein bywyd personol neu yn ein gwaith. Dewiswn amlygu agweddau penodol ar ein hunaniaeth mewn gwahanol gyd-destunau a gall hyn gael ei arwyddo gan ffactorau megis ein dillad, ein bwyd, ein ffordd o siarad, ein defodau.

Un o’r theorïwyr cynharaf ym maes perfformio oedd J. L. Austin. Mewn cyfres o ddarlithoedd yn Harvard yn 1955 a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel cyfrol, How to do things with words (1962), dadleuodd fod i eiriau rôl berfformiadol e.e. bod addewidion yn eiriau perfformiadol eu natur sy’n gwneud i rywbeth ddigwydd. Datblygwyd y cysyniad ymhellach gan theorïwyr megis Jacques Derrida a Judith Butler a honna fod ‘perfformio’ yn greiddiol i’n deallwriaeth o’r modd yr ydym yn creu ‘realiti’ cymdeithasol. Yn yr ystyr hwn, mae agweddau ar hunaniaeth unigolyn megis ethnigrwydd a rhywedd yn berfformiadol eu natur ac felly yn cael eu datblygu yn ein hymwneud cymdeithasol yn hytrach na’u bod yn rhan hanfodaidd ohonom.

Rhiannon Marks

Llyfryddiaeth

Austin, J. L. (1962), How to Do Things with Words (Cambridge: Harvard University Press).

Butler, J. (1997), Excitable Speech: A Politics of the Performative (New York: Routledge).

Schechner, R. (1988), Performance Theory (New York: Routledge).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.