Rhyngddiwylliannedd
Mae rhyngddiwylliannedd yn derm sydd yn disgrifio damcaniaeth ar amrywiaeth ddiwylliannol. Bathwyd y term yn wreiddiol yn Québec yn ystod cyfnod o newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol yn y 1960au a’r 1970au a elwir la révolution tranquille. Datblygodd rhyngddiwylliannedd ymhellach yn dilyn ymgais Québec i ddiffinio model theoretig o amrywiaeth mewn gwrthgyferbyniad â model amlddiwylliannol Canada. Heddiw, caiff rhyngddiwylliannedd ei fabwysiadu gan sefydliadau cyhoeddus megis UNESCO, Cyngor Ewrop a’r Cyngor Prydeinig. Pwysleisia rhyngddiwylliannedd ysgogi ‘deialog’ rhwng cymunedau gwahanol er mwyn hybu cyd-ddealltwriaeth, cydlyniant a chynhwysiant cymdeithasol. Honna damcaniaethwyr rhyngddiwylliannol fod rhyngddiwylliannedd yn mynd i’r afael â methiannau honedig amlddiwylliannedd trwy ddod ag unigolion mewn cymdeithas ynghyd yn hytrach na chanolbwyntio ar hawliau grŵp sydd, yn eu tyb nhw, yn magu ymwahaniad mewn cymdeithas.
Mae model rhyngddiwylliannedd Québec yn fersiwn benodol o reoli amrywiaeth ar gyfer diwylliant is-wladwriaethol. Honna prif ddamcaniaethwr rhyngddiwylliannedd yn Québec, Gérard Bouchard, fod rhyngddiwylliannedd Québec yn cynnig trydedd ffordd rhwng cymathiad ac ymwahaniad. Mae pwyslais rhyngddiwylliannedd Québec ar feithrin diwylliant cyffredin sydd yn seiliedig ar y grŵp mwyafrifol Québecois a’r iaith Ffrangeg ond sydd hefyd yn cydnabod hawliau ethnoddiwylliannol grwpiau eraill yno. Ym Mhrydain, mae rhyngddiwylliannedd wedi datblygu ar drywydd gwahanol yn dilyn trafodaethau ar gydlyniant cymunedol yn sgil terfysgoedd yng ngogledd Lloegr yn 2001. Yn wahanol i ryngddiwylliannedd yn Québec, nid yw rhyngddiwylliannedd ym Mhrydain yn ystyried swyddogaeth cenedligrwydd er mwyn hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth – hyrwydda yn hytrach gysyniad o gosmopolitaniaeth, cydraddoldeb hil ac ymdrechion i drechu tlodi. Mewn cyd-destunau eraill, defnyddir rhyngddiwylliannedd ar lefelau meicrogymdeithasol megis mewn addysg iaith neu er mwyn hyrwyddo’r celfyddydau.
Serch y gwahaniaethau honedig rhwng amlddiwylliannedd a rhyngddiwylliannedd, honna Antonsich fod y ddwy ffenomen ar yr un ochr o’r sbectrwm o safbwynt rheoli amrywiaeth. Beirniada Meer et al. allu rhyngddiwylliannedd i ragori ar seiliau damcaniaethol amlddiwylliannedd heb ystyried anghyfartaledd pŵer mewn cymdeithas. Hefyd, prydera Kymlicka fod rhyngddiwylliannedd yn medru denu cefnogaeth senoffobig gan gefnogwyr gwrth-amlddiwylliannol a gwrth-amrywiaeth. Yn hyn o beth, cyflwyna Zapata-Barrero fersiwn gynhwysfawr o ryngddiwylliannedd sydd yn ceisio darganfod tir cyffredin rhwng damcaniaeth gymdeithasol Cantle a damcaniaeth wleidyddol Bouchard ar ryngddiwylliannedd. Ystyria fod cyfuniad o’r damcaniaethau hyn yn effeithiol o'u cyfuno hwy â damcaniaeth ddiwylliannol, hynny yw os ceir dimensiwn o arloesi a chreadigrwydd yn seiliedig ar ddatblygu medrau unigolion.
Gwennan Higham
Llyfryddiaeth
Antonsich, M. (2015), ‘Interculturalism versus multiculturalism; The Cantle-Modood debate’, Ethnicities, 1-10.
Bouchard, G. (2012), Interculturalisme: d’un point de vue québécois (Montréal: Éditions Boréal).
Cantle, T (2012), Interculturalism: The new era of cohesion and diversity (Basingstoke: Palgrave Macmillan).
Cantle, T. (2001), Community Cohesion: A Report of the Independent Review Team (London: Home Office).
Cyngor Prydeinig (2015), Culture at Work: The Value of Intercultual Skills in the Workplace (London: British Council).
Cyngor Ewrop (2008), Living Together as Equals in Dignity: White Paper on Intercultural Dialogue (Strasbourg: Council of Europe).
Kymlicka (2016), ‘Defending diversity in an era of populism: multiculturalism and interculturalism compared’, yn Meer, N., Modood. T. a Zapata-Barrero, R. (goln), Multiculturalism and Interculturalism; Debating the dividing lines (Edinburgh: University of Edinburgh Press), tt. 158-177.
Modood, T. (2015), ‘Interculturalism versus multiculturalism; The Cantle-Modood debate’, Ethnicities, 11-20.
UNESCO (2008), Investing in Cultural Diversity and Intercultural Dialogue World Report of Cultural Diversity (Paris: UNESCO).
Zapata-Barrero, R. (2015), Interculturalism in Cities: Concept, policy and implementation (Cheltenham: Elgar).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.