Tŷ ar y Tywod

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cefndir

Ystyrir Tŷ ar y Tywod gan y diweddar Gwenlyn Parry yn garreg filltir bwysig yn natblygiad y Theatr Gymraeg. Hon oedd drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri yn 1968. Fe’i llwyfannwyd am y tro cyntaf yn y flwyddyn honno gan Gwmni Theatr Cymru, ac fe gymharwyd y ddrama â gwaith swreal ac abswrd dramodwyr byd eang fel Harold Pinter ac Eugene Ionesco.

Stori am ddau ddyn yw Tŷ ar y Tywod. Mae un yn byw mewn cwt ar y traeth a’r llall yn berchennog ffair gerllaw. Lleolir y ddrama dair act yng nghwt Gŵr y Tŷ, sydd â rhan ohono wedi suddo i’r tywod. Gerllaw mae’r ffair yn ehangu’n gyflym, ond mae’r cwt yn rhwystro unrhyw ddatblygiadau pellach. Mae Gŵr y Tŷ yn benderfynol o warchod ei gartref doed a ddel er bod hwnnw’n dirywio’n gyflym.

Felly stori drasig ydyw yn trafod cwymp dyn wrth iddo frwydro amgylchiadau sydd yn ei erbyn. Ac yntau’n methu dianc rhag sŵn a bwrlwm y Ffair, yr unig beth sy’n ei gynnal yw ei atgofion, ond mae plant y ffair yn ei wawdio a’i boenydio am fod yn wallgof.

Mae’r perchennog am ymestyn ei ffair ac mae’r caban yn rhwystro ei gynlluniau. Yn groes i’r disgwyl mae pethau’n troi’n chwithig i’r perchennog a’r diwedd yw i’r ffair ddod yn eiddo i’r gŵr a drigai yn y caban. Felly, mae’r rhod bob amser yn troi ac mae’r ddau gymeriad yn cynrychioli’r ddynoliaeth yn eu brwydr am rym a materoliaeth.

Nid yw’r ddrama Tŷ ar y Tywod wedi ei chyfyngu i unrhyw amser neu leoliad penodol ac er bod dros ddeugain mlynedd ers y perfformiad cyntaf mae neges gignoeth y ddrama mor berthnasol heddiw ag y bu erioed.

Llyfryddiaeth
Ross, Nic (2003) Tŷ ar y Tywod – Ffair heb ddiflastod na gwagedd
Theatr Genedlaethol Cymru (2005) Tŷ ar y Tywod

Themâu

“Ceir perthynas amlwg rhwng cwestiynau’r dramâu a’r cwestiynau a gyfyd yn ein bywyd beunyddiol.”
– Dewi Z. Phillips, 1995
Cenedlaetholdeb

Mae’r ddrama swrealaidd hon yn dilyn ffawd unigolyn sy’n byw mewn caban ar y traeth, ble mae yna fygythiad i’w fodolaeth oherwydd yr awydd i ehangu’r ffair gerllaw. Wedi eu plethu mewn i bryderon rhyngwladol o ddatblygiad masnachol rhemp, mae yna bryderon Cymreig, fel dirywiad yr iaith Gymraeg a’r diwylliant y byddai’n cael ei ddinistrio gyda datblygiad y Ffair, sy’n cael ei symboleiddio gan fynegiant cyfoethog a thanllyd Gŵr y Tŷ. Gall y gynulleidfa ganfod ynddi’r frwydr rhwng y dyn busnes mawr a’r gŵr busnes bach, rhwng y gwledydd diwydiannol mawr neu’r pwerau mawr a’r cenhedloedd bychain sy’n ymladd am eu bywyd – dehongliad a fyddai’n agos at galon pob Cymro.

Gwrthdaro

Mae’r ddrama yn canolbwyntio ar y gwrthdaro sy’n deillio pan mae hen ffordd o fyw draddodiadol, er yn prysur ddiflannu, yn cael ei bygwth gan ddatblygiad newydd, modern a bas. Mae’r ddau gymeriad yn cynrychioli’r gwrthwyneb, Gŵr y Tŷ yn cyfleu moeseg a chenedlaetholdeb, gyda Gŵr y Ffair yn cyfleu datblygiadau modern a masnachol. Felly gellir dweud bod y ddrama yn dangos gwrthdaro rhwng galluoedd materol mawr y byd ac ynysoedd bychain o werthoedd uchaf. Yn wir, mae moeseg yn bwysig iawn i Ŵr y Tŷ, ni themtir ef gan yr arian a gynigir iddo gan r y Ffair;

“Dyma nhw iti – degau o lythyrau oddi wrtho fo’n cynnig ffortiwn i mi am y lle...ond wna i ddim symud i’r cythral.”
Unigrwydd

Mae Gŵr y Tŷ yn ddyn unig, yn byw ar ei ben ei hun yn y cwt ar y traeth. Nid oes ganddo deulu na ffrindiau. Nid yw’n medru dianc rhag sŵn byrlymus y ffair a’r unig beth sydd i gadw cwmni iddo yw ei atgofion melys, ond mae plant y ffair yn ei boenydio o hyd ac o hyd. Dechreuwn amau ei fod yn wallgof wrth iddo gludo delw y mae wedi ei ddwyn o’r ffair i’r cwt ar ddechrau’r ddrama, ac yn sôn wrth y ddelw am ei elyn pennaf, Gŵr y Ffair. Er mawr syndod i ni mae’r ddelw yn troi mewn i ferch o gig a gwaed yn ystod y ddrama. Tybiwn efallai mai ei unigrwydd a thristwch y gorffennol sydd wedi arwain at ei wallgofrwydd. Gweler y fonolog isod – atgofion am bosibilrwydd cariad ers talwm;

“Roedd hi’n dawel braf ‘ma ers talwm...a digon o ffrindie...digon yn galw...(Daw yr olwg freuddwydiol yn ôl i’w wyneb)..o oedd, roedd gen i ddigon o ffrindie pryd hynny...(Mae’n gwenu)...ac ambell i ferch...wel amryw ohonyn’ nhw i ddweud y gwir...’Roedd rhywbeth...’Roedd yna rywbeth o ‘nghylch i oedd yn denu merched...’roedden nhw’n heidio o ‘nghwmpas i, dim ond i mi ddangos fy ngwyneb...rwy’n cofio’n iawn...(Mae yn ei fyd breuddwydiol eto yn awr)...Sioned a’i chroen fel marmor gwyn...wedyn, Einir!—un fywiog oedd hi...ac yna Bethan...ie, Bethan a’i gwallt modrwyog euraidd—yn gariadus...yn gariadus iawn.”
Llyfryddiaeth
Phillips, Dewi Z. (1995) Dramâu Gwenlyn Parry : Gwasg Pantycelyn.
Parry, Gwenlyn (2003) Tŷ ar y Tywod : Gwasg Gomer.
BBC. Gwenlyn Parry Ei fywyd a’i waith : Tŷ ar y Tywod.

Arddull

Roedd Gwenlyn Parry yn ddramodydd oedd yn hoff o arbrofi gyda’r llwyfannu ac yn hoff o osod enigmas i’r gynulleidfa. Fe wrthodai egluro ei ddramâu gan adael i’r unigolyn ddehongli'r darn yn ôl eu profiad eu hunain. Yn ei ddramâu, ac nid yw ar y Tywod yn eithriad, defnyddir symbolau mewn modd crefftus a chynnil i gyfleu ac i godi cwestiynau. Byddai’r hyn a oedd i'w weld ar lwyfan yn bwysig gyda bwriad, a phob peth â rheswm ag ystyr tu ôl i’w fodolaeth. Byddai’r set gan amlaf yn gymharol lawn a gellir gweld hyn o’r disgrifiadau a gynigir ar gychwyn y ddrama.

Mae’r ddrama yn amrywio o ran strwythur, yn symud o ddeialog gyflym i fonologau maith. O ganlyniad mae rhediad y ddrama yn newid drwyddi draw, ac felly’n cynnal diddordeb y gynulleidfa. Roedd yn deall i’r dim bwysigrwydd dal sylw trwy greu chwilfrydedd o’r cychwyn cyntaf – y ddol yn troi’n ferch go iawn yn Tŷ ar y Tywod. Mae ‘na gymaint i’w weld [yn llythrennol] yn nramâu Gwenlyn a hynny’n apelio, nid at yr ymennydd ond at y synhwyrau. Gwelwn fod craciau muriau caban Gŵr y Tŷ yn portreadu ansicrwydd ei ddyfodol a’i frwydr yn erbyn y byd materyddol. Yn ogystal mae’r ddelw yn cyfleu gwallgofrwydd a sefyllfa fregus Gŵr y Tŷ, ac i’r gwrthwyneb mae sŵn a bwrlwm y Ffair yn y pellter yn cyfleu diwydiant, datblygiad a trachwant Gŵr y Ffair. Mae’r hyn sy’n cael ei gyfleu drwy’r geiriau, y set a’r cymeriadau yn rhywbeth rydym yn ei deimlo yn hytrach na’i ddeall, y lluniau - y delweddau - sydd yn cario byrdwn y neges.

“Yn nhraddodiad Beckett, dramâu ydyn nhw nid i’r pen ond i’r galon a’r glust a’r llygad.”
– Annes Gruffydd
Y Ddrama Radio

Addaswyd a chyfarwyddwyd y fersiwn radio gan Lyn Jones ac fe’i darlledwyd ar BBC Radio Cymru yn 1999. Wedi trafod arddull y ddrama lwyfan, pa mor bwysig oedd delweddau a symbolau gweledol, tipyn o dasg oedd mynd ati i’w addasu ar gyfer y glust. Gwelir yn y sgript radio bod yna lawer mwy o bwyslais ar y ddeialog ac ar sŵn, boed yn synau cefndirol neu’n rhai mwy amlwg. Yn ogystal, gwelir bod yna lawer o seibiau hir wedi cael eu hepgor, oherwydd ni fyddai'r rhain wedi bod yn effeithiol ar y radio o gymharu ag ar lwyfan.

Llyfryddiaeth
Phillips, Dewi Z. (1995) Dramâu Gwenlyn Parry : Gwasg Pantycelyn.