Tafodiaith

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Amrywiad oddi mewn i un iaith yw tafodiaith. Gan amlaf mewn Cymraeg llafar, defnyddir ‘iaith’ i gyfeirio at dafodiaith benodol, e.e. ‘iaith Cwm Tawe’ ac ‘iaith y Cofi Dre’’. Gan hynny, dadleua Beth Thomas a Peter Wynn Thomas mai ‘gair yr academydd, at ei gilydd, yw "tafodiaith"’.

Er bod tuedd ar lafar i ddefnyddio ‘tafodiaith’ ac ‘acen’ fel pe baent yn gyfystyron, gwahaniaetha’r ieithydd rhwng ystyron y termau hyn: cyfeirio at ynganiad siaradwyr y mae ‘acen’ (h.y. eu nodweddion ffonolegol a/neu seinegol), tra bo ‘tafodiaith’ ar y llaw arall yn cwmpasu elfennau geirfaol a gramadegol yn ogystal â nodweddion ffonolegol siaradwyr. Enghraifft o amrywio mewn ‘tafodiaith’ (yn hytrach nag ‘acen’) fyddai’r gwahaniaeth cystrawennol rhwng ‘Dw-i’m yn dod’ a ‘Smo-fi’n dod’. Gellir dod i’r casgliad fod ‘acen’ yn un elfen greiddiol o ‘dafodiaith’ siaradwr, ond nad yw pob elfen o ‘dafodiaith’ unigolyn yn rhan o’i ‘acen’.

Cyfyd cymhlethodau pellach pan ystyrir y berthynas rhwng ‘iaith’ a ‘thafodiaith’. Un o’r meini prawf amlycaf ar gyfer profi bod siaradwyr tafodieithoedd gwahanol yn siarad yr un iaith yw eu gallu i ddeall ei gilydd (mutual intelligibility, ys gelwir y ffenomen hon yn y Saesneg). O safbwynt yr ieithoedd Brythonig, er enghraifft, gellir dadlau’n argyhoeddiadol nad oes modd ystyried yr un amrywiad ar y Gernyweg na’r Llydaweg yn ‘dafodiaith Gymraeg’ fel y cyfryw, hyd yn oed os llwydda’r Cymro i ddeall rhai geiriau ac ymadroddion unigol.

Fodd bynnag, ymddengys mai syrthio a wna’r maen prawf hwn pan ystyrir nifer o achosion o ieithoedd eraill, nid yn unig ar gyfandir Ewrop, ond ar gyfandiroedd eraill hefyd. Cyfeiria Chambers a Trudgill, er enghraifft, at sefyllfa’r ieithoedd Sgandinafaidd, gan nodi mai fel ‘ieithoedd’ annibynnol ar ei gilydd yr ystyrir Norwyeg, Swedeg a Daneg (yn hytrach na ‘Sgandinafeg’, dyweder), er bod modd i siaradwyr y tair iaith hyn ddeall ei gilydd ac, yn wir, gyfathrebu â’i gilydd. Yn groes i’r sefyllfa hon, pwysleisir hefyd fod ambell dafodiaith Almaeneg yn annelladwy i siaradwyr amrywiadau eraill ar yr iaith honno.

Ar ba sail, felly, y gall siaradwyr sydd o ddwy ardal gyffiniol, ac sy’n dra thebyg i’w gilydd o safbwynt eu tafodieithoedd, honni eu bod yn siarad ieithoedd gwahanol? Er mwyn ateb y cwestiwn hwn, y mae tafodieithegwyr yn gyffredinol yn gosod cryn bwys ar gysyniad yr iaith safonol, ‘set o elfennau a chystrawennau cywir sy’n dderbyniol i’r gymuned ieithyddol gyfan mewn cyd-destunau ffurfiol’ yn ôl Gramadeg y Gymraeg. Er gwaethaf tebygrwydd ieithyddol ar ddwy ochr y ffin rhwng Sweden a Norwy, dyweder, disgwylid i’r Swediaid droi at nodweddion Swedeg safonol wrth ffurfioli, tra byddai disgwyl i’r Norwyaid ar y llaw arall ddefnyddio Norwyeg safonol yn yr un cyd-destunau ffurfiol. Ar sail sefyllfaoedd o’r math hwn, daw nifer o ieithyddion i’r casgliad (paradocsaidd) nad yw ‘iaith’ o angenrheidrwydd yn gysyniad ‘ieithyddol’. Mewn gwirionedd, y mae a wnelo’r arfer o labelu casgliad o dafodieithoedd yn ‘iaith’ benodol lawn cymaint, os nad mwy, â ffactorau gwleidyddol, diwylliannol, hanesyddol a daearyddol – yn enwedig rôl sefydliadau cenedlaethol wrth godeiddio ffurfiau safonol drwy gyfrwng gramadegau ac orgraffau. Nid syndod efallai mai un o’r dywediadau mwyaf cyffredin ym maes tafodieitheg yw’r canlynol: yr hyn ydyw ‘iaith’ yw ‘tafodiaith’ gyda byddin a llynges.

Arwain hyn yn naturiol at gwestiwn sylfaenol arall, sef pa amrywiadau ar y Gymraeg (neu unrhyw ieithoedd eraill, o ran hynny) y gellir eu hystyried yn dafodieithoedd? Y consensws cyffredinol ymhlith tafodieithegwyr a (sosio)ieithyddion bellach yw bod amrywiad pob siaradwr ar iaith yn dafodiaith o ryw fath. Yn yr un modd, gellir ystyried bod siaradwyr sydd â mwy nag un amrywiad yn ddwydafodieithog, neu hyd yn oed yn amldafodieithog. Gan mai amrywiadau ar iaith yw’r iaith safonol a’r iaith lenyddol hefyd, fe’u hystyrir hwythau’n ‘dafodieithoedd’ gan dafodieithegwyr cyfoes. Yn ôl Ceinwen Thomas, yr ‘unig wahaniaeth o bwys [rhwng yr iaith safonol a’r iaith lenyddol] a thafodieithoedd eraill ydyw eu bod hwy yn freiniol ym marn y gymuned piau’r iaith; hynny yw, mai atynt hwy yr edrychir am safonau derbynioldeb gan aelodau’r gymuned’. O safbwynt ieithyddol pur, felly, ni ellir honni bod amrywiadau y rhoddir bri arnynt yn y gymdeithas – yr iaith lenyddol draddodiadol, dyweder – yn rhagori ar unrhyw amrywiadau ansafonol eraill.

Dylid pwysleisio hefyd fod modd i ddiffiniad ieithyddion cyfoes o ‘dafodiaith’ fod yn wahanol i ystyron poblogaidd o’r term ar lawr gwlad. Y mae’n arferol clywed rhai siaradwyr Cymraeg, er enghraifft, yn cyferbynnu tafodiaith ag amrywiad niwtral, di-ardal ar y Gymraeg, e.e. yr iaith safonol. Y mae’r syniad fod tafodieithoedd ‘purach’ i’w cael ymhlith gwerin bobl hŷn a fu’n byw mewn ardaloedd gwledig drwy gydol eu hoes hefyd yn gyffredin yng Nghymru. Mewn gwirionedd, dyma’r syniad a arddelid gan nifer o dafodieithegwyr traddodiadol wrth iddynt seilio eu disgrifiadau ar iaith cyfranogwyr a elwir yn NORMs (non-mobile, older, rural males). Beirniedir y tafodieithegwyr traddodiadol bellach gan (sosio)ieithyddion a thafodieithegwyr cymdeithasol am iddynt ragdybio bod amrywiadau ‘pur’ y NORMs hyn yn gynrychiadol o dafodieithoedd cymunedau cyfain. Yn yr un modd, ymwrthyd ieithyddion cyfoes â’r syniad o ‘burdeb’ tafodieithol; dadleua Chambers a Trudgill, er enghraifft, ‘that there is probably no such thing as a ‘pure’ dialect, since most varieties of language appear to be variable and to show signs of influence from other varieties’. Gellir crybwyll yn y cyswllt hwn mai un o ganfyddiadau astudiaeth ddiweddar o amrywiadau tafodieithol Cymraeg yng nghanolbarth Cymru yw nad yw grwpiau o siaradwyr sy’n dra thebyg o safbwynt eu nodweddion cymdeithasol a diwylliannol (ac sy’n ymdebygu i raddau helaeth i’r NORMs traddodiadol) yn agos at fod yn unffurf yn ieithyddol.

Daw hynny â ni at ystyriaeth arall, sef maint yr unffurfiaeth ieithyddol sy’n angenrheidiol rhwng idiolectau (h.y. amrywiadau unigolion) cyn y gellir eu cyfrif yn rhan o’r un dafodiaith. Mewn gwirionedd, nid oes ateb pendant i’r cymhlethdod hwn, ac yn sgil yr amwysedd hwn, gall ‘tafodiaith’ gyfeirio at amrywiadau rhanbarthau eang (e.e. ‘Cymraeg y Gogledd’), at amrywiadau cymunedau mwy lleol (e.e. ‘tafodiaith y Rhos’), heb anghofio am amrywiadau carfanau penodol o siaradwyr yn y gymdeithas (e.e. ‘Rhydfelyneg’, sef tafodiaith newydd un ysgol uwchradd benodol). Dylid pwysleisio yma fod gwedd gymdeithasol yn ogystal â gwedd ddaearyddol i bob un dafodiaith, ac nad yw ystyried ffactorau daearyddol yn unig yn llwyddo i adlewyrchu union natur yr amrywiadau a ganfyddir mewn unrhyw iaith. Ymddengys, felly, mai’r hyn sy’n aml yn greiddiol i’r term ‘tafodiaith’, gan yr ieithydd a’r lleygwr fel ei gilydd, yw elfen gref o unffurfiaeth (neu o leiaf ragdybiaeth o unffurfiaeth). Er hynny, fel y noda Petyt, gall maint a chwmpas ‘tafodiaith’ a briodolir i diriogaeth neu i garfan benodol gael eu cyflyru gan yr union nodweddion ieithyddol a ystyrir, yn ogystal â’r rhai a anwybyddir. Gan hynny, dadleua Petyt fod tafodiaith, i raddau, yn haniaeth; ‘[...] an abstraction, based on some set of features chosen in a way which is essentially arbitrary’.

Yn yr un modd, testun dadleuol arall yw bodolaeth ffiniau tafodieithol sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng tafodieithoedd a’i gilydd. Wrth ymdrin â’r ystyriaeth hon, daw Durrell i’r casgliad fod dau brif safbwynt i’w canfod ymhlith tafodieithegwyr: y mae un garfan o ysgolheigion yn rhagdybio bodolaeth tafodieithoedd arwahanol, gan geisio amlygu eu ffiniau, tra bo carfan arall yn gwadu bodolaeth ffiniau o’r fath gan ddadlau mai trawsnewid ieithyddol graddol a geir wrth symud o un ardal i’r llall. Gellir dadlau mai pen draw’r amheuaeth hon ynghylch ffiniau penodol yw’r safbwynt nad yw tafodieithoedd fel y cyfryw yn bodoli o gwbl, ac i’r canfyddiad hwnnw y daeth dau ieithydd o Ffrancwyr yn chwarter olaf y 19g., sef Paul Meyer yn 1875 a Gaston Paris yn 1888. Fodd bynnag, pwysleisia Durrell fod llawer o dafodieithegwyr bellach yn ystyried safbwynt Meyer a Paris yn rhy eithafol, ‘[...] and remain convinced that there are geographical groups which exhibit such a significant degree of uniformity in their linguistic behaviour as to justify the attempt to identify them’. Yn y cyswllt hwn, dadleuir ar sail cymhariaeth o batrymau amrywio grwpiau penodol yn ardaloedd Harlech a Thywyn mai’r un tueddiadau ieithyddol sylfaenol a welir rhwng unigolion o’r un ardal ac o’r un cefndir cymdeithasol. Awgrymir gan hynny fod cyfres o dueddiadau ieithyddol tebyg (nad yw’n gyfystyr ag unffurfiaeth ieithyddol) yn creu ‘undod’ rhwng siaradwyr, ac y gellir dod i’r casgliad fod yr arfer o gysylltu tafodiaith ag ardal benodol neu garfan neilltuol o’r gymuned yn seiliedig ar fwy na haniaeth neu fympwy ymchwilydd.

Iwan Wyn Rees

Llyfryddiaeth

Chambers, J. K. a Trudgill, P. (1998), Dialectology (Cambridge: Cambridge University Press).

Durrell, M. (1990), ‘Language as Geography’, yn Collinge, N. E. (gol.), An Encyclopedia of Language (London: Routledge), tt. 917–955.

Francis, W. N. (1983), Dialectology: An Introduction (London: Longman).

Jochnowitz, G. (1973), Dialect Boundaries and the Question of Franco-Provençal (The Hague: Mouton).

Petyt, K. M. (1980), The Study of Dialect: An Introduction to Dialectology (London: André Deutsch).

Rees, I. W. (2013), 'Astudiaeth o Amrywiadau Ffonolegol mewn Dwy Ardal yng Nghanolbarth Cymru'(Traethawd PhD: Prifysgol Aberystwyth). Hefyd ar gael ar http://cadair.aber.ac.uk/dspace/bitstream/handle/2160/13424/Rees_I_W.pdf?sequence=2&isAllowed=y [Cyrchwyd: 27 Medi 2016].

Rees, I. W. (2015), ‘Phonological Variation in Mid-Wales’, Studia Celtica, 49(1), 149–74.

Thomas, B. a Thomas, P. W. (1989), Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg...: Cyflwyno’r Tafodieithoedd (Caerdydd: Gwasg Taf).

Thomas, C. H. (1974–9), ‘Y Tafodieithegydd a "Chymraeg Cyfoes"', Llên Cymru, 13, 113–52.

Thomas, P. W. (1996), Gramadeg y Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.