Williams, Gareth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Derbyniodd Gareth Williams ei addysg yng Ngholeg Balliol Rhydychen, y London School of Economics, a Phrifysgol Chicago. Bu’n Athro Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn ymuno â Phrifysgol De Cymru yn 2001, lle’r oedd yn Gyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Cymru Fodern a Chyfoes (2004-9) cyn ei wneud yn Athro Emeritws yn 2011. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar hanes a diwylliant Cymru, gan edrych yn arbennig ar swyddogaeth gymdeithasegol cerddoriaeth, megis yn Valleys of Song: Music and Welsh Society 1840-1914 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998/2003) a Do You Hear the People Sing? The Male Voice Choirs of Wales (Gomer, 2015).



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.