Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Canu Cocosaidd"
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
Yn William McGonagall (‘The Great McGonagall’) (1830-1902) cafodd yr Alban ei henwog fardd cocos ei hun. Ie, ‘gwŷr o athrylith’ chwedl bardd arall, ond nad oedd ‘mesur eu llathen hwy yr un hyd â llath’. | Yn William McGonagall (‘The Great McGonagall’) (1830-1902) cafodd yr Alban ei henwog fardd cocos ei hun. Ie, ‘gwŷr o athrylith’ chwedl bardd arall, ond nad oedd ‘mesur eu llathen hwy yr un hyd â llath’. | ||
− | ''' | + | '''Dafydd Glyn Jones''' |
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
Jones, D. G. (2014), ''Hen Lyfr Bach y Bardd Cocos'' (Bangor: Dalen Newydd). | Jones, D. G. (2014), ''Hen Lyfr Bach y Bardd Cocos'' (Bangor: Dalen Newydd). | ||
− | Ceiriog, H. ac Ap | + | Ceiriog, H. ac Ap Dafydd, M. (1998), ''Perlau Cocos. Casgliad o Waith Beirdd Cocosaidd'' (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch). |
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] |
Diwygiad 20:06, 6 Mehefin 2016
Canu yn null John Evans (1827?-95), ‘Y Bardd Cocos’ o Borthaethwy, Môn. Trwy estyniad aed i ddefnyddio’r term am unrhyw brydyddiaeth gloff. Cymeriad diniwed oedd y Bardd Cocos gwreiddiol, ag uchelgais farddol fawr ond heb unrhyw amgyffred o fesur nac aceniad, dim ond obsesiwn ag odl, honno’n cael ei harfer yn brennaidd ailadroddus. Testunau ei ganu oedd damweiniau a thrychinebau’r oes, teyrngedau i wŷr enwog, a’i fyfyrdodau ei hun ar fywyd. Weithiau drwy’r cyfan fe drawai’r Bardd ar ambell gwpled cofiadwy:
- Fydd yr awen ddim yn fflash
- Heb fwstash;
neu ambell wirionedd sy’n ein hoelio:
- Mae Prince of Wales wedi priodi
- A miloedd heddiw’n byw mewn tlodi.
Cafwyd ‘beirdd cocosaidd’ eraill, a daeth y ‘gerdd gocosaidd’ yn eitem mewn adloniant. Ond pethau amhur yw cerddi cocos modern, yn tueddu at ergydion ffraeth a diweddglo trawiadol. Carbwleidd-dra diniwed yw hanfod y cocoswaith gwreiddiol, – ac eto nid yn yr iaith, sy’n hollol gywir.
Yn William McGonagall (‘The Great McGonagall’) (1830-1902) cafodd yr Alban ei henwog fardd cocos ei hun. Ie, ‘gwŷr o athrylith’ chwedl bardd arall, ond nad oedd ‘mesur eu llathen hwy yr un hyd â llath’.
Dafydd Glyn Jones
Llyfryddiaeth
Jones, D. G. (2014), Hen Lyfr Bach y Bardd Cocos (Bangor: Dalen Newydd).
Ceiriog, H. ac Ap Dafydd, M. (1998), Perlau Cocos. Casgliad o Waith Beirdd Cocosaidd (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.