Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hunangofiant"
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Ategwyd y rhain yn ystod ail hanner y ganrif gan atgofion ‘pobl gyffredin’ mewn oed yn disgrifio bywyd mewn cymunedau Cymraeg a ystyrid erbyn hynny fel rhai a oedd ar ddarfod. Patrymlun y rhain oedd trioleg Elizabeth Williams, ''Brethyn Cartref'' (1951), ''Siaced Fraith'' (1952) a ''Dirwyn Edafedd'' (1953). O blith dwsinau, yn gyforiog o gyferiadau at grefftau ac arferion cymdeithasol a geirfa sy’n prysur fynd yn agof, gellir enwi Hettie Glyn Davies, ''Edrych Yn Ôl, Hen Atgofion am Bentref Gwledig'' (1958); William Jones-Edwards, ''Ar Lethrau Ffair Rhos'' (1963); Ernest Roberts, ''Bargen Bywyd fy Nhaid'' (1963) ac ''Ar Lwybrau’r Gwynt'' (1965); Mary Puw Rowlands, ''Hen Bethau Anghofiedig'' (1964); William Rees Jones, ''Aros Amser'' (1965); Ifan Gruffydd, ''Tân yn y Siambar'' (1966); a Gerallt Jones, ''Hunangofiant Gwas Ffarm'' (1977). | Ategwyd y rhain yn ystod ail hanner y ganrif gan atgofion ‘pobl gyffredin’ mewn oed yn disgrifio bywyd mewn cymunedau Cymraeg a ystyrid erbyn hynny fel rhai a oedd ar ddarfod. Patrymlun y rhain oedd trioleg Elizabeth Williams, ''Brethyn Cartref'' (1951), ''Siaced Fraith'' (1952) a ''Dirwyn Edafedd'' (1953). O blith dwsinau, yn gyforiog o gyferiadau at grefftau ac arferion cymdeithasol a geirfa sy’n prysur fynd yn agof, gellir enwi Hettie Glyn Davies, ''Edrych Yn Ôl, Hen Atgofion am Bentref Gwledig'' (1958); William Jones-Edwards, ''Ar Lethrau Ffair Rhos'' (1963); Ernest Roberts, ''Bargen Bywyd fy Nhaid'' (1963) ac ''Ar Lwybrau’r Gwynt'' (1965); Mary Puw Rowlands, ''Hen Bethau Anghofiedig'' (1964); William Rees Jones, ''Aros Amser'' (1965); Ifan Gruffydd, ''Tân yn y Siambar'' (1966); a Gerallt Jones, ''Hunangofiant Gwas Ffarm'' (1977). | ||
− | Tua’r un cyfnod, dan yr un ymwybyddiaeth bod y diwylliant cynhaliol yn dadfeilio, daeth y cynigion cyntaf gan weinidogion Anghydffurfiol ar gofnodi eu hanes, er enghraifft, Gwilly Davies, ''Wedi Croesi'r Pedwar-ugain''; Nantlais (William Nantlais Williams),''O Gopa Bryn Nebo'' (y ddau yn 1967); a | + | Tua’r un cyfnod, dan yr un ymwybyddiaeth bod y diwylliant cynhaliol yn dadfeilio, daeth y cynigion cyntaf gan weinidogion Anghydffurfiol ar gofnodi eu hanes, er enghraifft, Gwilly Davies, ''Wedi Croesi'r Pedwar-ugain''; Nantlais (William Nantlais Williams), ''O Gopa Bryn Nebo'' (y ddau yn 1967); a W. J. Thomas, ''Y Cryman'' (1975). |
− | Daeth twf y diwydiant darlledu, adoniant a chwaraeon â chategori arall i’r amlwg o ddegawdau clo’r ugeinfed ganrif ymlaen, sef gweithiau poblogaidd (wedi’u hysgrifennu ar y cyd ag eraill yn aml) yn adrodd hanes datblygiad gyrfa ac enwogrwydd. Ymhlith y degau o deitlau ‘seleb’ nodweddiadol gellir rhestru Alun Williams, ''Alun'' (1982); Dai Davies, ''Hanner Cystal â ’Nhad'' (1985); Eifion Pennant Jones, ''Jonsi'' (1998); Gillian Elisa, ''Hyd yn Hyn'' (2007); a Rhys Meirion, ''Stopio'r Byd am Funud Fach'' (2014 | + | Daeth twf y diwydiant darlledu, adoniant a chwaraeon â chategori arall i’r amlwg o ddegawdau clo’r ugeinfed ganrif ymlaen, sef gweithiau poblogaidd (wedi’u hysgrifennu ar y cyd ag eraill yn aml) yn adrodd hanes datblygiad gyrfa ac enwogrwydd. Ymhlith y degau o deitlau ‘seleb’ nodweddiadol gellir rhestru Alun Williams, ''Alun'' (1982); Dai Davies, ''Hanner Cystal â ’Nhad'' (1985); Eifion Pennant Jones, ''Jonsi'' (1998); Gillian Elisa, ''Hyd yn Hyn'' (2007); a Rhys Meirion, ''Stopio'r Byd am Funud Fach'' (2014). |
Erys yr hunangofiant llenyddol yn llenddull cynhyrchiol a chreadigol, fel y tystia ''Bydoedd: Cofiant Cyfnod'' (2010) gan Ned Thomas, sy’n ystyried ei fywyd yn nhermau ei le yn llif ehangach hanes Ewrop, ac ysgrifau hunangofiannol Mihangel Morgan yn ''Pygiana ac Obsesiynau Eraill'' (2013), sy’n synio am fywyd o safbwynt profiadau esthetig. | Erys yr hunangofiant llenyddol yn llenddull cynhyrchiol a chreadigol, fel y tystia ''Bydoedd: Cofiant Cyfnod'' (2010) gan Ned Thomas, sy’n ystyried ei fywyd yn nhermau ei le yn llif ehangach hanes Ewrop, ac ysgrifau hunangofiannol Mihangel Morgan yn ''Pygiana ac Obsesiynau Eraill'' (2013), sy’n synio am fywyd o safbwynt profiadau esthetig. | ||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
Brockmeier, J. a Carbaugh, D. A. (2001), ''Narrative and Identity: Studies in Autobiography, Self and Culture'' (Amsterdam, Philadelphia: John Benjamins). | Brockmeier, J. a Carbaugh, D. A. (2001), ''Narrative and Identity: Studies in Autobiography, Self and Culture'' (Amsterdam, Philadelphia: John Benjamins). | ||
− | Jones, D. G. (1972) | + | Jones, D. G. (1972), ‘Tueddiadau yn Ein Llên Ddiweddar’, ''Y Traethodydd'', 127, 171-86. |
Jones, J. G. (1977), 'Hunangofiant fel Llenyddiaeth', ''Swyddogaeth Beirniadaeth'' (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 182-98. | Jones, J. G. (1977), 'Hunangofiant fel Llenyddiaeth', ''Swyddogaeth Beirniadaeth'' (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 182-98. |
Y diwygiad cyfredol, am 12:58, 1 Awst 2016
Gellir diffinio hunangofiant yn gryno fel stori adfyfyriadol mewn rhyddiaith y mae rhywun go iawn yn ei hadrodd am ei fywyd neu ei bywyd ei hun sy’n rhoi’r pwyslais ar ei fywyd unigol, ac yn neilltuol ar hanes ei bersonoliaeth. Nid yw’r diffiniad positifistaidd hwn, serch hynny, yn cydnabod y cysylltiad anochel rhwng y ffurf ac ystyriaethau diwylliannol ehangach megis ffasiynau llenyddol, amgylchiadau haneysddol, cymdeithasol a gwleidyddol, a’r berthynas rhwng llenyddiaeth a’r cysyniad o natur a chymhellion yr unigolyn.
Bathwyd yr enwau cyfansawdd ‘hunangofiant’ a ‘hunanfywgraffiad’ ill dau yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond ysbeidiol a hwyrfrydig oedd ei esblygiad fel genre yng Nghymru. Ceir rhagymadrodd hunangofiannol gan Edward Williams (Iolo Morganwg, 1747-1826) i gyfrol gyntaf ei Poems, Lyric and Pastoral (1794), a chyhoeddod Twm o'r Nant (Thomas Edwards, 1739-1810) ysgrif gyffesol ar ffurf llythyr at Owain Myfyr, 'At y Cyvaill Myvyr’ yn Y Greal, yn 1805; ond – yn wahanol iawn i’r cofiant, a ddaeth, gellid dadlau, yn brif lenddull rhyddiaith y cyfnod – ni chydiodd fel ffurf estynedig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Eithriad prin yw hunanfywgraffiad ysbrydol y gweinidog Wesleaidd, Bywyd a gweinidogaeth y Parch Hugh Hughes ... Wedi ei ysgrifenu ganddo ei hun (1856), a olygwyd gan ei fab-yng-nghyfraith, Isaac Jenkins. Yn wir, dwy gyfrol yn unig a gyhoeddwyd yn y ganrif â ‘hunangofiant’ yn eu teitlau, a’r ddwy’n nofelau: Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (1885) Daniel Owen, a dychan Beriah Gwynfe Evans, Dafydd Dafis: Sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol (1898).
Ffrwyth yr ugeinfed ganrif oedd yr hunangofiant Cymraeg confensiynol. Gellir adnabod tri chategori, er bod peth gorgyffwrdd rhyngddynt. Drwy hanner canol y ganrif, ar batrwm Clych Atgof (1906) Owen Morgan Edwards, a’i bwyslais ar adrodd hanes bywyd drwy ddrych dylanwadau ffurfiannol plentyndod ac addysg, cafwyd gweithiau gan raddedigion (bron yn ddieithriad) a adwaenid yn bennaf fel llenorion: W. J. Gruffydd, Hen Atgofion (1936); Tegla Davies, Gyda’r Blynyddoedd (1952) a Gyda’r Hwyr (1957); D. J. Williams, Hen Dŷ Ffarm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959); Kate Roberts, Y Lôn Wen (1960); Thomas Richards, Atgofion Cardi (1960) a Rhagor o Atgofion Cardi (1963); R. T. Jenkins, Edrych yn Ôl (1969); Caradog Prichard, Afal Drwg Adda: Hunangofiant Methiant (1974); Cassie Davies, Hwb i’r Galon (1974); ac Alun Llywelyn-Williams, Gwanwyn yn y Ddinas (1975).
Ategwyd y rhain yn ystod ail hanner y ganrif gan atgofion ‘pobl gyffredin’ mewn oed yn disgrifio bywyd mewn cymunedau Cymraeg a ystyrid erbyn hynny fel rhai a oedd ar ddarfod. Patrymlun y rhain oedd trioleg Elizabeth Williams, Brethyn Cartref (1951), Siaced Fraith (1952) a Dirwyn Edafedd (1953). O blith dwsinau, yn gyforiog o gyferiadau at grefftau ac arferion cymdeithasol a geirfa sy’n prysur fynd yn agof, gellir enwi Hettie Glyn Davies, Edrych Yn Ôl, Hen Atgofion am Bentref Gwledig (1958); William Jones-Edwards, Ar Lethrau Ffair Rhos (1963); Ernest Roberts, Bargen Bywyd fy Nhaid (1963) ac Ar Lwybrau’r Gwynt (1965); Mary Puw Rowlands, Hen Bethau Anghofiedig (1964); William Rees Jones, Aros Amser (1965); Ifan Gruffydd, Tân yn y Siambar (1966); a Gerallt Jones, Hunangofiant Gwas Ffarm (1977).
Tua’r un cyfnod, dan yr un ymwybyddiaeth bod y diwylliant cynhaliol yn dadfeilio, daeth y cynigion cyntaf gan weinidogion Anghydffurfiol ar gofnodi eu hanes, er enghraifft, Gwilly Davies, Wedi Croesi'r Pedwar-ugain; Nantlais (William Nantlais Williams), O Gopa Bryn Nebo (y ddau yn 1967); a W. J. Thomas, Y Cryman (1975).
Daeth twf y diwydiant darlledu, adoniant a chwaraeon â chategori arall i’r amlwg o ddegawdau clo’r ugeinfed ganrif ymlaen, sef gweithiau poblogaidd (wedi’u hysgrifennu ar y cyd ag eraill yn aml) yn adrodd hanes datblygiad gyrfa ac enwogrwydd. Ymhlith y degau o deitlau ‘seleb’ nodweddiadol gellir rhestru Alun Williams, Alun (1982); Dai Davies, Hanner Cystal â ’Nhad (1985); Eifion Pennant Jones, Jonsi (1998); Gillian Elisa, Hyd yn Hyn (2007); a Rhys Meirion, Stopio'r Byd am Funud Fach (2014).
Erys yr hunangofiant llenyddol yn llenddull cynhyrchiol a chreadigol, fel y tystia Bydoedd: Cofiant Cyfnod (2010) gan Ned Thomas, sy’n ystyried ei fywyd yn nhermau ei le yn llif ehangach hanes Ewrop, ac ysgrifau hunangofiannol Mihangel Morgan yn Pygiana ac Obsesiynau Eraill (2013), sy’n synio am fywyd o safbwynt profiadau esthetig.
T. Robin Chapman
Llyfryddiaeth
Brockmeier, J. a Carbaugh, D. A. (2001), Narrative and Identity: Studies in Autobiography, Self and Culture (Amsterdam, Philadelphia: John Benjamins).
Jones, D. G. (1972), ‘Tueddiadau yn Ein Llên Ddiweddar’, Y Traethodydd, 127, 171-86.
Jones, J. G. (1977), 'Hunangofiant fel Llenyddiaeth', Swyddogaeth Beirniadaeth (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 182-98.
Lejeune, P. (1975), Le Pacte Autobiographique (Paris: Éditions du Seuil).
Lewis, M. (1995), ‘Hunanbortreadaeth, Hunangofiant a Phroblemau Esthetig’, Efrydiau Athronyddol, 58, 46-57.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.