Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Buchedd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Llyfryddiaeth)
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__
Bywgraffiad neu hanes am fywyd unigolyn yw ystyr ‘buchedd’ ac, fel rheol, edrydd hanes a gwyrthiau sant neu santes. Ffurf lenyddol bwysig yw’r fuchedd (''vita'' yn Lladin a ''buhez'' yn Llydaweg) a dechreuwyd cofnodi’r hanesion am seintiau neu ferthyron yr Eglwys Gristnogol yn yr ieithoedd Groeg, Copteg, Syriac a Lladin yn y 4g. Rhai o’r bucheddau cynharaf a ddylanwadodd ar y ''genre'' yn y gorllewin yw buchedd Roeg Antoni o’r Aifft gan Esgob Athanasius o Alecsandria (c. 360) a buchedd Ladin Martin o Tours gan Sulpicius Severus (''c.'' 396). O’r Hen Roeg y daw’r term ‘hagiograffeg’, sef ‘ysgrifau sanctaidd’ neu ‘ysgrifau am y seintiau’ a cheir corff sylweddol o destunau hagiograffaidd am seintiau Cymru sy’n perthyn i’r cyfnod rhwng yr 11g. a diwedd yr 16g.
+
Bywgraffiad neu hanes am fywyd unigolyn yw ystyr ‘buchedd’ ac, fel rheol, edrydd hanes a gwyrthiau sant neu santes. Ffurf lenyddol bwysig yw’r fuchedd (''vita'' yn Lladin a ''buhez'' yn Llydaweg) a dechreuwyd cofnodi’r hanesion am seintiau neu ferthyron yr Eglwys Gristnogol yn yr ieithoedd Groeg, Copteg, Syriac a Lladin yn y 4g. Rhai o’r bucheddau cynharaf a ddylanwadodd ar y ''genre'' yn y gorllewin yw buchedd Roeg Antoni o’r Aifft gan Esgob Athanasius o Alecsandria (''c.'' 360) a buchedd Ladin Martin o Tours gan Sulpicius Severus (''c.'' 396). O’r Hen Roeg y daw’r term ‘hagiograffeg’, sef ‘ysgrifau sanctaidd’ neu ‘ysgrifau am y seintiau’ a cheir corff sylweddol o destunau hagiograffaidd am seintiau Cymru sy’n perthyn i’r cyfnod rhwng yr 11g. a diwedd yr 16g.
  
Arwr crefyddol oedd y sant a’r hyn a wahaniaethai rhwng sant a Christion da oedd y ffaith bod Duw yn gweithredu trwy gyfrwng y sant ac yn cyflawni gwyrthiau. Credid bod y sant yn cyfryngu rhwng y ddaear a’r nef ac y medrai bledio achos pechaduriaid a chynorthwyo’r Cristnogion a erfynai arno. Yn aml, sonia’r bucheddau am genhedliad anghyffredin y sant, ei blentyndod henffel, ei wyrthiau, anturiaethau diddorol a gwrthdaro â phwerau seciwlar, yn ogystal â’i farwolaeth. Ceisiai’r bucheddydd wneud i’r sant ymddangos mor debyg ag y gallai i Iesu Grist a drych o wyrthiau Iesu yw gwyrthiau’r seintiau, e.e. cyfeirir at y seintiau’n cerdded dros y môr, iacháu cleifion, atgyfodi’r meirwon a chynhyrchu bwyd yn wyrthiol. Ymgais yw’r bucheddau hefyd i bwysleisio grym gwleidyddol y sant lleol a gysylltir â mynwent, eglwys, ardal neu esgobaeth benodol.  
 
Yn yr iaith Ladin y cyfansoddwyd bucheddau saint Cymru’n wreiddiol a cheir casgliadau pwysig ohonynt yn ''Liber Landavensis'' 12g. (sy’n cynnwys bucheddau Dyfrig, Teilo, Euddogwy, Clydog ac Aelfgar), Llsgr LlB Cotton Vespasian Axiv ''c.'' 1200 (sy’n cynnwys bucheddau Dewi, Cadog, Gwynllyw, Tathan, Illtud, Teilo, Dyfrig, Padarn, Clydog, Cybi, Carannog a Brynach), a Llsgr LlB Cotton Tiberius Ei 14g. (sy’n cynnwys, ymhlith eraill, fucheddau Cain, Caradog, Cennydd, Gwenfrewy, Gildas, Dewi, Teilo a Cadog). Mae 32 o fucheddau Cymraeg wedi goroesi a thair cyfres o wyrthiau (Edmwnd, Mihangel a’r Forwyn Fair). Edrydd tua thri chwarter y bucheddau Cymraeg hanesion am seintiau rhyngwladol yr Eglwys megis Mair Fadlen, Martha, Mair o’r Aifft, Margred a Catrin (e.e. yn Llyfr Gwyn Rhydderch ''c.'' 1350) a cheir addasiadau Cymraeg o fucheddau’r apostolion a’r efengylwyr, Marthin, Nicolas, Doret, Andras, Lawrens, Silfestr, Wrswla, Simon a Jwd mewn llawysgrifau o’r 15g. a’r 16g. Er bod y traddodiadau am seintiau brodorol Cymru’n hysbys i feirdd yr Oesoedd Canol, yr unig fucheddau sy’n coffáu’r seintiau brodorol yn y llawysgrifau Cymraeg yw bucheddau Dewi, Beuno, Gwenfrewy, Ieuan Gwas Padrig, Collen, Curig a Llawddog.  
+
Yn yr iaith Ladin y cyfansoddwyd bucheddau saint Cymru’n wreiddiol a cheir casgliadau pwysig ohonynt yn ''Liber Landavensis'' o'r 12g. (sy’n cynnwys bucheddau Dyfrig, Teilo, Euddogwy, Clydog ac Aelfgar), Llsgr LlB Cotton Vespasian Axiv ''c.'' 1200 (sy’n cynnwys bucheddau Dewi, Cadog, Gwynllyw, Tathan, Illtud, Teilo, Dyfrig, Padarn, Clydog, Cybi, Carannog a Brynach), a Llsgr LlB Cotton Tiberius Ei o'r 14g. (sy’n cynnwys, ymhlith eraill, fucheddau Cain, Caradog, Cennydd, Gwenfrewy, Gildas, Dewi, Teilo a Cadog). Mae 32 o fucheddau Cymraeg wedi goroesi a thair cyfres o wyrthiau (Edmwnd, Mihangel a’r Forwyn Fair). Edrydd tua thri chwarter y bucheddau Cymraeg hanesion am seintiau rhyngwladol yr Eglwys megis Mair Fadlen, Martha, Mair o’r Aifft, Margred a Catrin (e.e. yn Llyfr Gwyn Rhydderch ''c.'' 1350) a cheir addasiadau Cymraeg o fucheddau’r apostolion a’r efengylwyr, Marthin, Nicolas, Doret, Andras, Lawrens, Silfestr, Wrswla, Simon a Jwd mewn llawysgrifau o’r 15g. a’r 16g. Er bod y traddodiadau am seintiau brodorol Cymru’n hysbys i feirdd yr Oesoedd Canol, yr unig fucheddau sy’n coffáu’r seintiau brodorol yn y llawysgrifau Cymraeg yw bucheddau Dewi, Beuno, Gwenfrewy, Ieuan Gwas Padrig, Collen, Curig a Llawddog.  
  
'''Jane Cartwright'''
 
'''Jane Cartwright'''
Llinell 20: Llinell 20:
 
Pryce, H. (1994), ‘A New Edition of ''Historia Divae Monacellae''’, ''Montgomeryshire Collections'', 82, 23-40.
 
Pryce, H. (1994), ‘A New Edition of ''Historia Divae Monacellae''’, ''Montgomeryshire Collections'', 82, 23-40.
  
Sharpe, R. a Davies, J. R. (gol. a chyf.) (2007), ‘Rhygyfarch’s ''Life'' of St. David’, yn Evans, J. W., a Wooding J. M., (goln), ''St David of Wales Cult, Church and Nation'' (Woodbridge: The Boydell Press), tt. 107–55.
+
Sharpe, R. a Davies, J. R. (gol. a chyf.) (2007), ‘Rhygyfarch’s ''Life'' of St. David’, yn Evans, J. W., a Wooding J. M., (goln), ''St David of Wales: Cult, Church and Nation'' (Woodbridge: Boydell Press), tt. 107–55.
  
Wade-Evans, A. W. (gol. a chyf.) (1944, golygiad newydd 2013), ''Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae'' (Cardiff: Welsh Academic Press).
 
Wade-Evans, A. W. (gol. a chyf.) (1944, golygiad newydd 2013), ''Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae'' (Cardiff: Welsh Academic Press).

Y diwygiad cyfredol, am 22:26, 11 Awst 2016

Bywgraffiad neu hanes am fywyd unigolyn yw ystyr ‘buchedd’ ac, fel rheol, edrydd hanes a gwyrthiau sant neu santes. Ffurf lenyddol bwysig yw’r fuchedd (vita yn Lladin a buhez yn Llydaweg) a dechreuwyd cofnodi’r hanesion am seintiau neu ferthyron yr Eglwys Gristnogol yn yr ieithoedd Groeg, Copteg, Syriac a Lladin yn y 4g. Rhai o’r bucheddau cynharaf a ddylanwadodd ar y genre yn y gorllewin yw buchedd Roeg Antoni o’r Aifft gan Esgob Athanasius o Alecsandria (c. 360) a buchedd Ladin Martin o Tours gan Sulpicius Severus (c. 396). O’r Hen Roeg y daw’r term ‘hagiograffeg’, sef ‘ysgrifau sanctaidd’ neu ‘ysgrifau am y seintiau’ a cheir corff sylweddol o destunau hagiograffaidd am seintiau Cymru sy’n perthyn i’r cyfnod rhwng yr 11g. a diwedd yr 16g.

Arwr crefyddol oedd y sant a’r hyn a wahaniaethai rhwng sant a Christion da oedd y ffaith bod Duw yn gweithredu trwy gyfrwng y sant ac yn cyflawni gwyrthiau. Credid bod y sant yn cyfryngu rhwng y ddaear a’r nef ac y medrai bledio achos pechaduriaid a chynorthwyo’r Cristnogion a erfynai arno. Yn aml, sonia’r bucheddau am genhedliad anghyffredin y sant, ei blentyndod henffel, ei wyrthiau, anturiaethau diddorol a gwrthdaro â phwerau seciwlar, yn ogystal â’i farwolaeth. Ceisiai’r bucheddydd wneud i’r sant ymddangos mor debyg ag y gallai i Iesu Grist a drych o wyrthiau Iesu yw gwyrthiau’r seintiau, e.e. cyfeirir at y seintiau’n cerdded dros y môr, iacháu cleifion, atgyfodi’r meirwon a chynhyrchu bwyd yn wyrthiol. Ymgais yw’r bucheddau hefyd i bwysleisio grym gwleidyddol y sant lleol a gysylltir â mynwent, eglwys, ardal neu esgobaeth benodol.

Yn yr iaith Ladin y cyfansoddwyd bucheddau saint Cymru’n wreiddiol a cheir casgliadau pwysig ohonynt yn Liber Landavensis o'r 12g. (sy’n cynnwys bucheddau Dyfrig, Teilo, Euddogwy, Clydog ac Aelfgar), Llsgr LlB Cotton Vespasian Axiv c. 1200 (sy’n cynnwys bucheddau Dewi, Cadog, Gwynllyw, Tathan, Illtud, Teilo, Dyfrig, Padarn, Clydog, Cybi, Carannog a Brynach), a Llsgr LlB Cotton Tiberius Ei o'r 14g. (sy’n cynnwys, ymhlith eraill, fucheddau Cain, Caradog, Cennydd, Gwenfrewy, Gildas, Dewi, Teilo a Cadog). Mae 32 o fucheddau Cymraeg wedi goroesi a thair cyfres o wyrthiau (Edmwnd, Mihangel a’r Forwyn Fair). Edrydd tua thri chwarter y bucheddau Cymraeg hanesion am seintiau rhyngwladol yr Eglwys megis Mair Fadlen, Martha, Mair o’r Aifft, Margred a Catrin (e.e. yn Llyfr Gwyn Rhydderch c. 1350) a cheir addasiadau Cymraeg o fucheddau’r apostolion a’r efengylwyr, Marthin, Nicolas, Doret, Andras, Lawrens, Silfestr, Wrswla, Simon a Jwd mewn llawysgrifau o’r 15g. a’r 16g. Er bod y traddodiadau am seintiau brodorol Cymru’n hysbys i feirdd yr Oesoedd Canol, yr unig fucheddau sy’n coffáu’r seintiau brodorol yn y llawysgrifau Cymraeg yw bucheddau Dewi, Beuno, Gwenfrewy, Ieuan Gwas Padrig, Collen, Curig a Llawddog.

Jane Cartwright

Llyfryddiaeth

Cartwright, J. (gol. a chyf.) (2013), Mary Magdalene and her Sister Martha: An Edition and Translation of the Medieval Welsh Lives (Washington D. C.: The Catholic University of America Press).

Evans, D. Simon (gol.) (1965), Buched Dewi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Head, T. (2000), Medieval Hagiography: An Anthology (New York, London: Garland Publishing).

Henken, E. R. (1987), Traditions of the Welsh Saints (Cambridge: D. S. Brewer).

Pryce, H. (1994), ‘A New Edition of Historia Divae Monacellae’, Montgomeryshire Collections, 82, 23-40.

Sharpe, R. a Davies, J. R. (gol. a chyf.) (2007), ‘Rhygyfarch’s Life of St. David’, yn Evans, J. W., a Wooding J. M., (goln), St David of Wales: Cult, Church and Nation (Woodbridge: Boydell Press), tt. 107–55.

Wade-Evans, A. W. (gol. a chyf.) (1944, golygiad newydd 2013), Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae (Cardiff: Welsh Academic Press).

Cwlt y Seintiau yng Nghymru, http://www.seintiaucymru.ac.uk [Cyrchwyd: 1 Awst 2016].

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.