Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Marwnad"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Cerdd neu gân (''nâd'') wedi ei chyfansoddi yn sgil marwolaeth. Roedd y gerdd farwnad yn un o brif genres beirdd proffesiynol yr Oesoedd...')
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__
Cerdd neu gân (''nâd'') wedi ei chyfansoddi yn sgil marwolaeth. Roedd y gerdd farwnad yn un o brif genres beirdd proffesiynol yr Oesoedd Canol.  
+
Cerdd neu gân (''nâd'') wedi ei chyfansoddi yn sgil marwolaeth. Roedd y gerdd farwnad yn un o brif ''genres'' beirdd proffesiynol yr Oesoedd Canol.  
  
Cerdd i’w datgan yn gyhoeddus oedd y farwnad, ac mae’n aml yn cynnwys galar a thristwch yn sgil colli noddwr pwysig, moliant i’w fywyd (gan ein hatgoffa o’r hen ddihareb o Lyfr Coch Hergest, A fynno ei foli bid farw), yn ogystal ag elfen fwy cadarnhaol wrth i’r bardd rag-weld croeso i’r noddwr hwnnw yn y nefoedd a dyfodol diogel i’r gymdeithas y mae’n ei gadael ar ei ôl yn nwylo ei ddisgynyddion.  
+
Cerdd i’w datgan yn gyhoeddus oedd y farwnad, ac mae’n aml yn cynnwys galar a thristwch yn sgil colli noddwr pwysig, moliant i’w fywyd (gan ein hatgoffa o’r hen ddihareb o Lyfr Coch Hergest, ''A fynno ei foli bid farw''), yn ogystal ag elfen fwy cadarnhaol wrth i’r bardd rag-weld croeso i’r noddwr hwnnw yn y nefoedd a dyfodol diogel i’r gymdeithas y mae’n ei gadael ar ei ôl yn nwylo ei ddisgynyddion.  
  
Gallwn dybio bod nifer fawr o’r marwnadau sydd wedi goroesi yn y llawysgrifau wedi eu cyfansoddi gan feirdd proffesiynol a oedd yn ateb comisiwn, gan y teulu. Byddai’r cerddi hynny’n cael eu datgan ar achlysuron penodol, fel adeg dathlu offeren goffa, fis neu weithiau flwyddyn, ar ôl y farwolaeth. Ar ddechrau mis Mai 1240, er enghraifft, canodd Dafydd Benfras farwnad i Lywelyn Fawr a fu farw ym mis Ebrill y flwyddyn honno.
 
Yn ogystal â’r cerddi marwnad ffurfiol, ceir hefyd ganu mwy personol, yn enwedig lle roedd perthynas fwy sefydlog rhwng y bardd a’r noddwr. Hefyd mae marwnadau’r beirdd i’w gilydd yn aml wedi eu canu yn sgil colli cyd-fardd a oedd hefyd yn gyfaill agos neu’n athro dylanwadol. Dirdynnol, a syfrdanol ar brydiau, yw’r cerddi marwnad gan feirdd yn sgil colli eu plant eu hunain. Er enghraifft, canodd y bardd-uchelwr, Ieuan Gethin, o Faglan ym Morgannwg, ddwy gerdd ddwys iawn yn sgil colli merch a mab ifanc, Siôn, i’r pla du. Ynddynt mae’n mynegi teimladau oesol megis rhwystredigaeth gyda Duw a’r saint am beidio ag ymateb i’w weddi a chlywir ei ddicter cignoeth wrth iddo gwyno: Ar Dduw er a weddïais, / Ni chawn Siôn mwy no chan Sais.  
+
Yn ogystal â’r cerddi marwnad ffurfiol, ceir hefyd ganu mwy personol, yn enwedig lle roedd perthynas fwy sefydlog rhwng y bardd a’r noddwr. Hefyd mae marwnadau’r beirdd i’w gilydd yn aml wedi eu canu yn sgil colli cyd-fardd a oedd hefyd yn gyfaill agos neu’n athro dylanwadol. Dirdynnol, a syfrdanol ar brydiau, yw’r cerddi marwnad gan feirdd yn sgil colli eu plant eu hunain. Er enghraifft, canodd y bardd-uchelwr, Ieuan Gethin, o Faglan ym Morgannwg, ddwy gerdd ddwys iawn yn sgil colli merch a mab ifanc, Siôn, i’r pla du. Ynddynt mae’n mynegi teimladau oesol megis rhwystredigaeth gyda Duw a’r saint am beidio ag ymateb i’w weddi a chlywir ei ddicter cignoeth wrth iddo gwyno: ''Ar Dduw er a weddïais, / Ni chawn Siôn mwy no chan Sais''.  
  
Dosbarth arbennig o ganu marwnad yw’r cywyddau a ganwyd i wrthrychau a oedd, hyd y gellir barnu, yn dal i fod ar dir y byw. Gelwir y rhain yn aml yn ffug-farwnadau, ac mae nifer fawr ohonynt yn gerddi gan feirdd i’w gilydd – er enghraifft, canodd Dafydd ap Gwilym ffug-farwnadau i Ruffudd Gryg, Madog Benfras a Gruffudd ab Adda (ac mae cywyddau yn ymateb wedi goroesi gan y ddau gyntaf). Ceir elfen gref o hiwmor yn aml yn y cerddi hyn: fel yn y cywydd doniol a ganodd Llywelyn a Gutun pan haerodd fod Guto’r Glyn wedi boddi mewn ychydig o ddŵr ar draeth Malltraeth ym Môn:
 
Llinell 17: Llinell 17:
  
::Mae ’n y nef am na nofiai!
 
::Mae ’n y nef am na nofiai!
 
Canodd Guto, yntau, gywydd yn ymateb, gan brofi, felly, nad oedd wedi marw!
 
Llinell 35: Llinell 34:
 
Gruffydd, W. J. (1911), ‘Marwnadau i ddynion byw’, ''Y Beirniad'', i, 34–8.
 
Gwefan Dafydd ap Gwilym (2007), http://www.dafyddapgwilym.net, cerdd 20 (‘Marwnad Madog Benfras), cerdd 21 (‘Marwnad Gruffudd ap Adda’), cerdd 22 (‘Marwnad Gruffudd Gryg) [Cyrchwyd: 1 Awst 2016].
+
''Gwefan Dafydd ap Gwilym'' (2007), http://www.dafyddapgwilym.net, cerdd 20 (‘Marwnad Madog Benfras), cerdd 21 (‘Marwnad Gruffudd ap Adda’), cerdd 22 (‘Marwnad Gruffudd Gryg) [Cyrchwyd: 1 Awst 2016].
  
''Gwefan Guto’r Glyn'' (2012), http://gutorglyn.net, cerdd 65a (‘Dychan gan Lywelyn ap Gutun i Guto’r Gyn pan haerwyd ei foddi’), cerdd 65 (‘Ateb i ddychan Llywelyn ap Gutun’) [Cyrchwyd: 1 Awst 2016].
 
Y diwygiad cyfredol, am 14:08, 17 Awst 2016

Cerdd neu gân (nâd) wedi ei chyfansoddi yn sgil marwolaeth. Roedd y gerdd farwnad yn un o brif genres beirdd proffesiynol yr Oesoedd Canol.

Cerdd i’w datgan yn gyhoeddus oedd y farwnad, ac mae’n aml yn cynnwys galar a thristwch yn sgil colli noddwr pwysig, moliant i’w fywyd (gan ein hatgoffa o’r hen ddihareb o Lyfr Coch Hergest, A fynno ei foli bid farw), yn ogystal ag elfen fwy cadarnhaol wrth i’r bardd rag-weld croeso i’r noddwr hwnnw yn y nefoedd a dyfodol diogel i’r gymdeithas y mae’n ei gadael ar ei ôl yn nwylo ei ddisgynyddion.

Gallwn dybio bod nifer fawr o’r marwnadau sydd wedi goroesi yn y llawysgrifau wedi eu cyfansoddi gan feirdd proffesiynol a oedd yn ateb comisiwn, gan y teulu. Byddai’r cerddi hynny’n cael eu datgan ar achlysuron penodol, fel adeg dathlu offeren goffa, fis neu weithiau flwyddyn, ar ôl y farwolaeth. Ar ddechrau mis Mai 1240, er enghraifft, canodd Dafydd Benfras farwnad i Lywelyn Fawr a fu farw ym mis Ebrill y flwyddyn honno.

Yn ogystal â’r cerddi marwnad ffurfiol, ceir hefyd ganu mwy personol, yn enwedig lle roedd perthynas fwy sefydlog rhwng y bardd a’r noddwr. Hefyd mae marwnadau’r beirdd i’w gilydd yn aml wedi eu canu yn sgil colli cyd-fardd a oedd hefyd yn gyfaill agos neu’n athro dylanwadol. Dirdynnol, a syfrdanol ar brydiau, yw’r cerddi marwnad gan feirdd yn sgil colli eu plant eu hunain. Er enghraifft, canodd y bardd-uchelwr, Ieuan Gethin, o Faglan ym Morgannwg, ddwy gerdd ddwys iawn yn sgil colli merch a mab ifanc, Siôn, i’r pla du. Ynddynt mae’n mynegi teimladau oesol megis rhwystredigaeth gyda Duw a’r saint am beidio ag ymateb i’w weddi a chlywir ei ddicter cignoeth wrth iddo gwyno: Ar Dduw er a weddïais, / Ni chawn Siôn mwy no chan Sais.

Dosbarth arbennig o ganu marwnad yw’r cywyddau a ganwyd i wrthrychau a oedd, hyd y gellir barnu, yn dal i fod ar dir y byw. Gelwir y rhain yn aml yn ffug-farwnadau, ac mae nifer fawr ohonynt yn gerddi gan feirdd i’w gilydd – er enghraifft, canodd Dafydd ap Gwilym ffug-farwnadau i Ruffudd Gryg, Madog Benfras a Gruffudd ab Adda (ac mae cywyddau yn ymateb wedi goroesi gan y ddau gyntaf). Ceir elfen gref o hiwmor yn aml yn y cerddi hyn: fel yn y cywydd doniol a ganodd Llywelyn a Gutun pan haerodd fod Guto’r Glyn wedi boddi mewn ychydig o ddŵr ar draeth Malltraeth ym Môn:

Tristach yw Cymry trostyn’,
Tre a gwlad, am Uto’r Glyn:
I’w foddi ’r aeth, draeth heb drai,
Mae ’n y nef am na nofiai!

Canodd Guto, yntau, gywydd yn ymateb, gan brofi, felly, nad oedd wedi marw!

Ann Parry Owen

Llyfryddiaeth

Costigan, N.G., Gruffydd, R.G., Jones, N.A., et al. (goln) (1995), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o Feirdd Hanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), cerdd 27 (‘Marwnad Llywelyn ab Iorwerth’).

Edwards, H. M. (1999), ‘Murnio marwnadau: golwg ar y ffug-farwnad yng nghyfnod y Cywyddwyr’, Dwned, 5, 47–70.

Edwards, H. M. (2000), ‘Dwyn marwnadau adref’, Llên Cymru, 23, 21–38.

GPC Ar Lein (2016), http://gpc.cymru, ‘marwnad’ [Cyrchwyd: 1 Awst 2016].

Gruffydd, W. J. (1911), ‘Marwnadau i ddynion byw’, Y Beirniad, i, 34–8.

Gwefan Dafydd ap Gwilym (2007), http://www.dafyddapgwilym.net, cerdd 20 (‘Marwnad Madog Benfras), cerdd 21 (‘Marwnad Gruffudd ap Adda’), cerdd 22 (‘Marwnad Gruffudd Gryg) [Cyrchwyd: 1 Awst 2016].

Gwefan Guto’r Glyn (2012), http://gutorglyn.net, cerdd 65a (‘Dychan gan Lywelyn ap Gutun i Guto’r Gyn pan haerwyd ei foddi’), cerdd 65 (‘Ateb i ddychan Llywelyn ap Gutun’) [Cyrchwyd: 1 Awst 2016].

Johnson, D. (1993), Galar y Beirdd (Caerdydd: Tafol).

Jones, N. A. (2003), ‘Marwnadau Beirdd y Tywysogion: Arolwg’, yn Daniel. I., Haycock, M., Johnston, D., et al. (goln), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 176–99.

Lewis, B. J. a Morys, T. (2007), Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg (Aberystwyth: Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd), cerdd 4 (‘Marwnad Dafydd ap Gwilym’).

Lewis, B. J. a Salisbury, E. (2010), Gwaith Gruffudd Gryg (Aberystwyth: Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd), cerdd 4 (‘Marwnad Dafydd ap Gwilym’).

Matonis, A. T. E. (1983–4), ‘The marwnadau of the Cywyddwyr. Variations on a theme’, Studia Celtica, 18/19, 158–70.

Parry Owen, A. (2013), Gwaith Ieuan Gethin (Aberystwyth: Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd), cerdd 8 (‘Marwnad Siôn ab Ieuan Gethin’, dyfynnir llinellau 41–2), cerdd 9 (‘Marwnad ei ferch).

Thomas, D. E., ‘Agweddau ar y Cywydd Marwnad’, traethawd PhD, Prifysgol Cymru, Bangor, 1987.

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.