Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Études Celtiques"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Mae hanes y cyfnodolyn Ffrengig hwn yn dechrau gyda’i ragflaenydd y ''Revue Celtique'', a sefydlwyd gan Henri Gaidoz ym Mharis yn 1870. ...') |
(→Llyfryddiaeth) |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | Lambert, P., Études Celtiques http://www.archeo.ens.fr/spip.php?rubrique82&lang=fr [Cyrchwyd: 13 Medi 2016] | + | Lambert, P., ''Études Celtiques'' http://www.archeo.ens.fr/spip.php?rubrique82&lang=fr [Cyrchwyd: 13 Medi 2016] |
Diwygiad 22:53, 13 Medi 2016
Mae hanes y cyfnodolyn Ffrengig hwn yn dechrau gyda’i ragflaenydd y Revue Celtique, a sefydlwyd gan Henri Gaidoz ym Mharis yn 1870. Cyhoeddwyd rhyw 50 cyfrol o dan olygyddiaeth Gaidoz, Henri d’Arbois de Jubainville a Joseph Loth erbyn 1934 pan fu farw Loth. Sefydlwyd y cyfnodolyn newydd Études Celtiques gan ysgrifennydd y cyfnodolyn cyntaf, sef Joseph Vendryès, yn dilyn marwolaeth Loth yn 1934. Cyhoeddwyd dau rifyn o tua dau gant tudalen yr un bob blwyddyn. Peidiodd ag ymdddangos yn 1941 yn dilyn marwolaeth yr ysgrifennydd Marie-Louise Sjoestedt-Jonval, ac ail-gychwynnodd yn 1948 gydag Édouard Bachellery yn ysgrifennydd, a Vendryès yn parhau fel cyfarwyddwr. Achlysurol yw’r cyhoeddiadau rhwng 1948 ac 1972. Wedi marwolaeth Vendryès yn Ionawr 1960 cafodd yr ysgrifennydd Bachellery gymorth pwyllgor i barhau (Paul-Marie Duval, Michel Lejene, Jean-Baptiste Colbert de Beaulieu, Jean Gagnepain), bob un yn cynrychioli disgyblaeth arbennig. Daeth archaeoleg ac epigraffeg Galaidd yn gynyddol bwysig. Yn 1978 daeth y cyfnodolyn o dan gyhoeddiadau’r CNRS (Centre Nationale de Recherche Scientifique), a ddaeth yn CNRS Éditions yn 1990. Ehangwyd y pwyllgor a gwnaethpwyd Pierre-Yves Lambert yn ysgrifennydd ieithyddiaeth a Venceslas Kruta yn ysgrifennydd archaeoleg. O hyn allan fe’i cyhoeddwyd yn flynyddol. Daeth Pierre-Yves Lambert yn llywydd yn 2008 gyda Jean-Jacques Charpy yn ysgrifennydd.
Cyhoeddir erthyglau ar archaeoleg y byd Celtaidd, gan flaenoriaethu gwaith cymharol ac o’r tu allan i Ffrainc, pynciau yn ymwneud â Gâl a’r Celtiaid; ieithyddiaeth, yn enwedig ieithyddiaeth gymharol a hanesyddol yn y cyfnod canoloesol neu cynt; a llenyddiaeth, gan flaenoriaethu testunau canoloesol (Gwyddeleg, Cymraeg, Llydaweg). Mae traean o’r erthyglau yn Ffrangeg, a derbynnir rhai hefyd yn Saesneg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg. Mae chwarter y cyfnodolyn yn grynodebau o lyfrau. Ceir ynddo gyfraniadau gan Henri d’Arbois de Jubainville, Joseph Loth, Georges Dottin, Émile Ernault, Joseph Vendryèrs, Whitley Stokes, Kuno Meyer ac eraill. Mae bodolaeth Études Celtiques (fel y Zeitschrift für Celtische Philologie) yn ein hatgoffa o wreiddiau Ewropeaidd Astudiaethau Celtaidd, ac mae eu parhad yn fodd o ddod â sylw rhyngwladol i’r ddisgyblaeth, yn ogystal ag i ddiwylliannau lleiafrifol.
Heather Williams
Llyfryddiaeth
Lambert, P., Études Celtiques http://www.archeo.ens.fr/spip.php?rubrique82&lang=fr [Cyrchwyd: 13 Medi 2016]