Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Clasuriaeth"
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
Roedd nifer o lenorion Cymraeg y 18g., aelodau o gylch Morrisiaid Môn yn bennaf, yn gwbl gynefin ag ‘Awgwstiaeth’ Lloegr ac â dadl yr Hen a’r Newydd. Ymdrwythodd beirdd Cymraeg fel Edward Richard, Evan Evans (‘Ieuan Fardd’) a Goronwy Owen yn y clasuron Groeg a Lladin, a bu’r pwyslais ar ddisgyblaeth a chelfyddyd a dulliau mynegiant addas i natur eu cân yn ganolog ganddynt. Ond er pwysiced dylanwad clasuriaeth arnynt, dymunai Ieuan Fardd a Goronwy Owen weld cyfuno hynny ag adfywio’r traddodiad barddol Cymraeg ac (yn arbennig yn achos Goronwy) â gweledigaeth Gristnogol yn y farddoniaeth. Er cystal yr ‘awenyddau’ a ysbrydolodd ‘Homer gerddber gynt’, | Roedd nifer o lenorion Cymraeg y 18g., aelodau o gylch Morrisiaid Môn yn bennaf, yn gwbl gynefin ag ‘Awgwstiaeth’ Lloegr ac â dadl yr Hen a’r Newydd. Ymdrwythodd beirdd Cymraeg fel Edward Richard, Evan Evans (‘Ieuan Fardd’) a Goronwy Owen yn y clasuron Groeg a Lladin, a bu’r pwyslais ar ddisgyblaeth a chelfyddyd a dulliau mynegiant addas i natur eu cân yn ganolog ganddynt. Ond er pwysiced dylanwad clasuriaeth arnynt, dymunai Ieuan Fardd a Goronwy Owen weld cyfuno hynny ag adfywio’r traddodiad barddol Cymraeg ac (yn arbennig yn achos Goronwy) â gweledigaeth Gristnogol yn y farddoniaeth. Er cystal yr ‘awenyddau’ a ysbrydolodd ‘Homer gerddber gynt’, | ||
− | |||
:Un awen a adwen i, | :Un awen a adwen i, |
Diwygiad 00:06, 14 Medi 2016
Rhwng tua 1848 a 1860 yr ymddengys y gair ‘clasur’ a ffurfiau cytras fel ‘clasurol’, ‘clasurwr’, ‘clasuriaeth’, a ‘clasuraidd’ gyntaf yn y Gymraeg. Tu cefn i’r bathiadau mae’r enw ‘clas’, ac yn arbennig yr ansoddair Saesneg ‘classic’, ill dau yn fenthyciadau o’r Lladin classis a classicus. Defnyddid classis, yn un o’i ystyron, am ddosbarth o ddinasyddion Rhufeinig a ddyrchefid gan eu cyfoeth yn uwch na’r rhelyw, a nodweddir yr ansoddair classicus hefyd gan arlliw o’r un carfannu cymdeithasol. Ond ceir yng ngwaith Aulus Gellius (2g.) enghraifft o ddefnyddio’r gair classicus yn drosiadol, lle gwrthgyferbynnir math o awdur (scriptor) a elwir yn classicus ag un a ddisgrifir fel proletarius, ‘cyffredin’. Mae dyfarniad ynghylch gwerth llenor a’i waith sy’n ymhlyg yma yn un o’r haenau gorgyffyrddol mwyaf awgrymog yn y defnydd o ‘clasur’, ‘clasurol’, etc.
Yn gyffredinol defnyddir ‘clasur’ (ll. ‘clasuron’) a ‘clasurol’ am waith neu weithiau a ddaliodd brawf amser ac yr ystyrir eu bod o ansawdd safonol mewn llên neu un o’r celfyddydau eraill megis y celfyddydau cain a cherddoriaeth. Enghraifft o ddefnydd cyffredinol felly, yn y maes llenyddol, yw teitl cyfres ‘Clasuron yr Academi’: cymharer, yn Saesneg, gyfresi helaeth ac adnabyddus megis ‘Oxford World’s Classics’ a ‘Penguin Classics’. Yn yr un modd, gellir synio am gyfnod pryd y gosodwyd stamp arbennig ar gwrs llenyddiaeth pobl neu genedl fel ‘cyfnod clasurol’, fel y gwna Thomas Parry wrth drafod traddodiad barddol Cymru yn amser yr Uchelwyr yn ei Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900.
Er bod yn fynych i ‘clasur’ (a’r geiriau cytras) yr arwyddocâd semantig ehangach sydd newydd ei grybwyll, caiff yr ystyr ei angori yn fwy neilltuol yn llên a chelfyddyd hen fyd Groeg a Rhufain. Yn yr 16g., gan rai o ddyneiddwyr y Dadeni Dysg, y dechreuwyd galw awduron Groeg a Lladin, o Homer i Awstin Sant, yn classici. Yn Saesneg ceir cyfeirio, mor gynnar â 1546, at lenorion Groeg a Rhufain fel ‘classicall and auncient wryters’, a chyn diwedd yr 16g. at y ddwy hen iaith fel y ‘classicke tongues’. Yn nechrau’r 19g., dechreuwyd defnyddio ‘Classics’ yn air cryno i ddynodi’r ieithoedd Groeg a Lladin a’u llên, a ‘classicist’ am un a’u hastudiai. Dilynwyd hynny’n fuan gan y bathiadau Cymraeg, a’u cymhwyso hwythau hefyd (e.e. yn ysgrifeniadau Lewis Edwards) ar gyfer efrydiau’r hen fyd.
Nid yn yr 16g., wrth reswm, y caed ymwybod yn llên Ewrop am y tro cyntaf â’r traddodiad a oedd ynghlwm wrth y clasuron Groeg a Lladin. Yng Nghymru gwyddai Dafydd ap Gwilym am Fyrsil (‘Fferyll’) ac Ofydd, a cheir cyfeirio at rai o arwyr chwedlonol yr hen fyd yn Trioedd Ynys Prydain ac yng ngweithiau rhai o feirdd yr Oesoedd Canol. Yn y cyfnod modern cynnar, fodd bynnag, yn sgil ymgydnabod o’r newydd â gweithiau Lladin, ac yna Groeg, a fuasai’n ddieithr am ganrifoedd, ac o ganlyniad hefyd i ddatblygiad crefft argraffu, gwelwyd twf enfawr yng ngafael y clasuron Groeg a Lladin (yn eu holl weddau) ar ddiwylliant Ewrop. Esgorodd hynny – yn arbennig rhwng yr 16g. a’r 18g. – ar dueddiadau llenyddol, ac ar agweddau ar feirniadaeth lenyddol, y daethpwyd i’w hadnabod yn ddiweddarach wrth y term ‘clasuriaeth’ (S. ‘classicism’). Yn fwy penodol, yn arbennig gyda golwg ar rai o awduron Saesneg yr 17g. a’r 18g., defnyddir weithiau y term ‘neo-glasuriaeth’ (S. ‘neo-classicism’) i ddisgrifio eu safbwynt beirniadol.
Hanfod y glasuriaeth hon oedd amgyffred yn llên y Groegiaid a’r Rhufeiniaid, yn arbennig yng ngweithiau’r beirdd a’r dramodwyr, arddulliau a moddau yr ystyrid y dylai llenyddiaethau brodorol Ewrop lynu wrthynt a’u hefelychu oherwydd eu rhagoroldeb. Bu Barddoneg yr athronydd Groeg Aristoteles (4g. CC) ac Ars Poetica (‘Celfyddyd Farddol’) y bardd Lladin Horas (1g. CC) yn greiddiol eu dylanwad ar y modd y ceisiwyd sylweddoli llawer o’r dyheadau clasuraidd. Er i rai o sylwadau Aristoteles gael eu camddehongli (e.e. yr hyn a olygai wrth undod dramatig), bu ei ymdriniaeth â natur trasiedi a’i ddirnadaeth mai gweddau ar efelychu (mimesis) yw pob celfyddyd yn bellgyrhaeddol ei heffeithiau, yn arbennig ar gynnwys a thechneg gweithiau dramodwyr mawr Ffrainc megis Corneille a Racine. Pwysigrwydd gwedduster (‘decorum’) ym mhob dim – yn y berthynas rhwng ffurf a chynnwys, yn y defnydd o iaith, yn nifrifoldeb moesol yr awdur – oedd un o’r gwersi a drosglwyddwyd gan Horas: ac yntau’n un o feirdd penigamp y cyfnod Awgwstaidd cyntaf, bu’n ddylanwad mawr ar syniadaeth feirniadol llenorion yr ‘Oes Awgwstaidd’ (fel y’i gelwir weithiau) yn Lloegr, dynion fel John Dryden ac Alexander Pope.
Nid oedd safle canonaidd llenyddiaeth yr hen fyd na’r rheolau a seiliwyd ar hynny yn gymeradwy gan bawb. Cyn diwedd yr 17g., yn Ffrainc, taniwyd y Querelle des Anciens et des Modernes rhwng lladmeryddion clasuriaeth, yn arbennig Nicolas Boileau, a Charles Perrault ac eraill o hyrwyddwyr agweddau newydd. Adlewyrchir y cweryl yn Saesneg yn narn dychanol Jonathan Swift, The Battle of the Books (1704). Lleddfid beth ar ofnau’r moderniaid gan gynnwys traethawd Groeg ‘Longinus’ (1g.?), Am Arddunedd (neu Arucheledd), gyda’r lle a roddir ynddo i ran personoliaeth ac emosiynau’r llenor unigol yn ogystal â chonfensiwn a rheol wrth gynhyrchu gwaith ‘aruchel’. Ond dyfnhau a wnaeth anfodlonrwydd llawer â’r hyn a welid yn gaethiwed clasuriaeth, a chrisialwyd hynny yn yr adwaith ‘rhamantaidd’.
Roedd nifer o lenorion Cymraeg y 18g., aelodau o gylch Morrisiaid Môn yn bennaf, yn gwbl gynefin ag ‘Awgwstiaeth’ Lloegr ac â dadl yr Hen a’r Newydd. Ymdrwythodd beirdd Cymraeg fel Edward Richard, Evan Evans (‘Ieuan Fardd’) a Goronwy Owen yn y clasuron Groeg a Lladin, a bu’r pwyslais ar ddisgyblaeth a chelfyddyd a dulliau mynegiant addas i natur eu cân yn ganolog ganddynt. Ond er pwysiced dylanwad clasuriaeth arnynt, dymunai Ieuan Fardd a Goronwy Owen weld cyfuno hynny ag adfywio’r traddodiad barddol Cymraeg ac (yn arbennig yn achos Goronwy) â gweledigaeth Gristnogol yn y farddoniaeth. Er cystal yr ‘awenyddau’ a ysbrydolodd ‘Homer gerddber gynt’,
- Un awen a adwen i,
- Da oedd, a phorth Duw iddi,
- Nis deiryd, beunes dirion,
- Naw merch clêr Homer i hon.
- (Goronwy Owen, ‘Bonedd a Chyneddfau’r Awen’)
Efallai, fel yr awgryma Saunders Lewis, fod Goronwy (dan ddylanwad y dramodydd a’r beirniad John Dennis) mor ddyledus am rai o’i safbwyntiau i Platon ag ydyw i’w ddisgybl Aristoteles.
Gwrthgyferbyniad gorgyfleus yn aml, yn codi cymaint o gwestiynau ag y mae’n eu hateb, yw hwnnw rhwng clasuriaeth a rhamantiaeth. Yng Nghymru ni bu neb yn fwy manwl a chlasuraidd ei ysgolheictod na John Morris-Jones, a fynnai fod yr hanfodion beirniadol a bwysleisid yn Barddoneg Aristoteles parthed llenyddiaeth Roeg yn berthnasol hefyd ar gyfer dadansoddi barddoniaeth Gymraeg; ond yr un Morris-Jones oedd y telynegwr hydeiml a roddodd, gydag eraill, lais i’r profiad rhamantaidd yng Nghymru ar ddiwedd y 19g. a dechrau’r 20g. Yn ystod yr 20g. gwrthbwyswyd, yng ngwaith llenyddol ac ysgrifennu beirniadol awduron fel T. S. Eliot a Saunders Lewis, lawer o dueddiadau gwrthglasurol y ganrif flaenorol. Nod amgen clasur i Eliot oedd aeddfedrwydd meddwl a moes, iaith ac arddull (nodwedd a ganfyddai ar ei gorau yn Aeneid Fyrsil), tra pwysleisiai Lewis gyfandod crefft ddisgybledig ac unoliaeth gymdeithasol a syniadol (o fath y gwybu Cymru amdano, cyn eto brofi dylanwadau’r Dadeni Dysg, yng ngwaith beirdd ‘y ganrif fawr’, 1435-1535) fel un o hanfodion gwareiddiol y delfryd clasurol. O ran bod yn agored i lên y Groegiaid a’r Rhufeiniaid a’u byd, y mae hynny’n dra amlwg yng ngwaith beirdd fel Ted Hughes a Tony Harrison, Seamus Heaney a Michael Longley – a hefyd, nid yn lleiaf yn eu plith, Euros Bowen yn ei gyfieithiadau i’r Gymraeg o drasiedïau Sophocles ac mewn llu o gerddi gwreiddiol.
Ceri Davies
Llyfryddiaeth
Davies, C. (1995), Welsh Literature and the Classical Tradition (Cardiff: University of Wales Press).
Eliot, T. S. (1944), What is a Classic? (London: Faber and Faber).
Evans, D. E. (1952), Y Clasuron yng Nghymru, Darlith flynyddol Gwasanaeth Cartref Cymru (Llundain: Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig).
Griffiths, J. G. (2001) (cyf.), Aristoteles: Barddoneg, ail argraffiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Highet, G. (1949), The Classical Tradition. Greek and Roman Influences on Western Literature (New York and London: Oxford University Press).
Johnson, J. W. (1967), The Formation of English Neo-classical Thought (Princeton, New Jersey: Princeton University Press).
Jones, D. G. (1953) (gol.), Blodeugerdd o’r Ddeunawfed Ganrif. Detholiad o Farddoniaeth Glasurol y Ganrif, 5ed argraffiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Kermode, F. (1975), The Classic (London: Faber and Faber).
Lewis, A. (1992), ‘“Hen Gyrff o Dir Groeg a’r Eidal”: Ieuan Fardd a’i Gymdeithion’, yn Mathias, W. A., a James, E. W. (goln), Dysg a Dawn. Cyfrol Goffa Aneirin Lewis (Caerdydd: Cylch Llyfryddol Caerdydd), tt. 186-201.
Lewis, S. (1924), A School of Welsh Augustans (Wrexham: Hughes and Son).
Lewis, S. (1927), Williams Pantycelyn (Llundain: Foyle).
Lewis, S. (1932), Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg: y Gyfrol Gyntaf hyd at 1535 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Lewis, S. (1973), Meistri’r Canrifoedd, gol. R. G. Gruffydd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod, sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).
Russell, D. A., a Winterbottom, M. (1972) (goln), Ancient Literary Criticism: the Principal Texts in New Translations (Oxford: Clarendon Press).
Secretan, D. (1973), Classicism (London: Methuen).
Simon, I. (1971) (gol.), Neo-classical Criticism (London: Edward Arnold).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.