Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Drych Tywysogion"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Math o ysgrif gwleidyddol yw drych tywysogion (Lladin, ''speculum principum'') o’r cyfnod clasurol, yr Oesoedd Canol a’r Dadeni a gyni...') |
(→Llyfryddiaeth) |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
Moseley, C. (2014), ‘Johannes Wallensis OFM (Siôn o Gymru): Golwg ar arwyddocâd diwinyddiaeth Urdd San Ffransis o Assisi ddoe, heddiw ac yfory’, ''Diwinyddiaeth'', LXV, 3-29. | Moseley, C. (2014), ‘Johannes Wallensis OFM (Siôn o Gymru): Golwg ar arwyddocâd diwinyddiaeth Urdd San Ffransis o Assisi ddoe, heddiw ac yfory’, ''Diwinyddiaeth'', LXV, 3-29. | ||
− | O’Donovan, O. | + | O’Donovan, O. ac O’Donovan, J. L. (goln.) (1999), ''From Irenaeus to Grotius: A Sourcebook in Christian Political Thought'' (Grand Rapids, Michigan: Wm. B. Eerdmans). |
Smith, R. M. (1927), ‘The Speculum Principum in Early Irish Literature’, ''Speculum'', 2, 411-445. | Smith, R. M. (1927), ‘The Speculum Principum in Early Irish Literature’, ''Speculum'', 2, 411-445. |
Diwygiad 23:23, 3 Hydref 2016
Math o ysgrif gwleidyddol yw drych tywysogion (Lladin, speculum principum) o’r cyfnod clasurol, yr Oesoedd Canol a’r Dadeni a gynigiai gyngor uniongyrchol i dywysogion a brenhinoedd ar wahanol agweddau o lywodraeth ac ymddygiad.
‘Addysg Cyrus’ (Cyropaedia) gan yr hanesydd a’r athronydd Groeg clasurol, Xenophon, yw’r enghraifft gynharaf o’r ffurf llenyddol hwn. Disgrifir Cyrus ymerawdwr Persia fel y llywodraethwr delfrydol. Credai awduron clasurol yr ysgrifennwyd y llyfr mewn ymateb i Weriniaeth Platon, a gymeradwyai lywodraeth gan athronwyr. Yr areithiwr Isocrates oedd yr awdur clasurol arall a oedd yn sylfaenol i ddatblygiad y genre. Prif ddiben ei yrfa oedd cefnogi achos uno Groeg fel gwlad, a gwnaeth hynny drwy gynghori arweinwyr Athen a Sparta, fel y gwelir yn ei gampwaith y Panegyricon a’i farwnad i Evagoras, brenin Salamis yng Nghyprus. Troi at arwyr chwedl Caerdroea yng ngherddi Homer fel tywysogion delfrydol a wnaeth Philodemus, athronydd Epicwreaidd o Syria o’r 1g. CC a aeth i fyw yn Rhufain. Gellir dadlau fod paralel rhwng defnydd Philodemus o Homer, a’i hoffter o’i gymhariaeth rhwng y duwiau a meidrolion, a’r defnydd o Homer yn y traethawd ‘Ar yr Aruchel’.
Yn Ymerodraeth Byzantium tueddid ysgrifennu casgliadau o ddywediadau ac enghreifftiau fel cyngor i ymerawdwyr benodol, e.e. gwaith Agapetos. Yn y gorllewin yn yr Oesoedd Canol y datblygodd ffurf y drych tywysogion fwyaf. Cysylltir swydd yr ymerawdwr gyda chynhaliaeth cymdeithas foesol ym mhumed llyfr Dinas Duw gan Sant Awstin o Hippo o’r 5g.. Yn y 7g. darparodd Isidor o Sevilla ddiffiniad etymolegol Lladin o rym brenhinol: rex a rectum agere (‘deillia’r gair “brenin” o “weithredu’n gyfiawn”’). Ysgrifenodd nifer o ddiwinyddion Gwyddelig draethodau ar gyfer brenhinoedd gorllewin Ewrop yn y gwledydd ble buon nhw’n cenhadu. Yn y 9g. gwahaniaethodd Jonas o Orléans yn ei De Institutione Regia rhwng y llywodraethwr cyfiawn a’r teyrn gormesol o ran eu hymrwymiad i oblygiadau moesol cymdeithas Gristnogol.
Wedi dirywiad ar ddiwedd y mileniwm cyntaf adfywiwyd y ffurf gan Policraticus Siôn o Gaersallog yn y 12g.. Cymharai strwythurau cymdeithas i gorff, ac ef oedd y cyntaf yn yr Oesoedd Canol i drawfod hawl y bobl i wrthsefyll a lladd teyrn gormesol. Gwnaeth hyn drwy gyfuno cysyniadau clasurol gyda rhai Cristnogol. Gwelir dull tebyg yng ngwaith Gerallt Gymro, Liber de Principis instructione (Llyfr ar addysg tywysog). Mae’n bosib fod ysgrif y diwinydd Ffransisaidd Cymreig Johannes Wallensis (Siôn o Gymru), Breviloquium de Virtutibus Antiquorum Principum et Philosophorum (Traethawd Byr ar Rinweddau’r Hen Dywysogion ac Athronwyr), yn ddrych tywysogion ar gyfer Llywelyn Ein Llyw Olaf, gan yr ysgrifennwyd adeg Cytundeb Trefaldwyn a’i fod yn adlewyrchu rhai elfennau o Gyfraith Hywel. Canolbwyntia ar y rhinweddau moesol angenrheidiol ar gyfer llywodraethu.
Daeth drychau tywysogion yn fwy haniaethol drwy ddylanwad cyfieithiadau Lladin o weithiau Aristoteles yn ystod y 13g.. Digwyddodd peth o’r adfywiad hwn yn llys Louis IX brenin Ffrainc, yng ngweithiau Gilbert o Tournai a Vincent o Beauvais. Daeth tro ar fyd eto gyda dau waith o’r un teitl gan Tomos o Acwin a Giles o Rufain, De regimine principum. Nawr roedd y Gyfraith Naturiol a’r gyfraith ffiwdal, yr hawl i wrthsefyll gormes, a chyfrifoldeb y teyrn i weithio dros y budd gyffredin, yn themâu blaenllaw. Gallai drych tywysogion hefyd gynnwys elfennau o draethawd ar egwyddorion gwleidyddol, e.e. yn amddiffyn math arbennig o frenhiniaeth fel y De Regno a briodolir i Tomos o Acwin.
Yn nes ymlaen dechreuwyd ysgrifennu drychau tywysogion ym mamieithoedd Ewrop. ‘The Meroure of Wysedome’, a ysgrifennwyd yn 1490 gan John o Iwerddon i Iago IV, brenin yr Alban, yw’r gwaith athronyddol cynharaf mewn Sgoteg. Yn ystod y Dadeni cyhoeddwyd yr Institutio principis Christiani (Addysg Tywysog Cristnogol) gan Erasmus yn 1516 fel cyngor i Siarl frenin Sbaen (wedyn yr ymerawdwr Siarl V). Pwysodd Erasmus yn drwm ar swyddogaeth rhethreg glasurol i drwytho tywysog yn yr arferion gorau ar gyfer ei deyrnasiad. Yn parhau’r agwedd ddyneiddiol o droi at ffurfiau llenyddol clasurol, Deialog Socrataidd oedd ffurf ysgrif George Buchanan, De iure regni apud Scotos (Ar gyfraith brenin yr Albanwyr) a gyflwynwyd i Iago VI yn 1579. Ar yr un pryd gwelwyd dirywiad yn ystod y Dadeni wrth i gyfrol Niccolo Macchiavelli Il Principe (Y Tywysog) gael ei chyhoeddi, gan iddi symud oddi wrth ddelfrydau moesol llywodraethu ac osgoi dynodi’r amcanion moesegol a gwleidyddol gorau heblaw rheoli ffawd.
Carys Moseley
Llyfryddiaeth
Broadie, A. (2011), The Tradition of Scottish Philosophy: A New Perspective on the Enlightenment (Edinburgh: Birlinn).
Gigante, M. (2002), Philodemus in Italy: The Books from Herculaneum (Ann Arbor, MI: University of Michigan Press).
Moseley, C. (2014), ‘Johannes Wallensis OFM (Siôn o Gymru): Golwg ar arwyddocâd diwinyddiaeth Urdd San Ffransis o Assisi ddoe, heddiw ac yfory’, Diwinyddiaeth, LXV, 3-29.
O’Donovan, O. ac O’Donovan, J. L. (goln.) (1999), From Irenaeus to Grotius: A Sourcebook in Christian Political Thought (Grand Rapids, Michigan: Wm. B. Eerdmans).
Smith, R. M. (1927), ‘The Speculum Principum in Early Irish Literature’, Speculum, 2, 411-445.
Swanson, J. (1989), John of Wales: A Study of the Works and Ideas of a Thirteenth-Century Friar (Cambridge: Cambridge University Press).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.