Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Awdl-gywydd"
Oddi ar WICI
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__ | __NOAUTOLINKS__ | ||
Mesur cwpledol fel y cywydd deuair hirion yw’r awdl-gywydd, gyda phob cwpled yn cynnwys dwy linell seithsill, ond, yn wahanol i’r cywydd, gall y llinellau ddiweddu’n acennog neu’n ddiacen. Yn ogystal, y mae diwedd y llinell gyntaf yn odli â gorffwysfa’r ail linell, a diwedd yr ail linell yn cynnal y brifodl. Dyma linellau agoriadol ‘Awdl-gywydd i Ddewi Sant’ gan Lewys Glyn Cothi: | Mesur cwpledol fel y cywydd deuair hirion yw’r awdl-gywydd, gyda phob cwpled yn cynnwys dwy linell seithsill, ond, yn wahanol i’r cywydd, gall y llinellau ddiweddu’n acennog neu’n ddiacen. Yn ogystal, y mae diwedd y llinell gyntaf yn odli â gorffwysfa’r ail linell, a diwedd yr ail linell yn cynnal y brifodl. Dyma linellau agoriadol ‘Awdl-gywydd i Ddewi Sant’ gan Lewys Glyn Cothi: | ||
− | |||
:Mae ’mhwys, mewn crwys, lle croesant, | :Mae ’mhwys, mewn crwys, lle croesant, |
Diwygiad 21:00, 19 Hydref 2016
Mesur cwpledol fel y cywydd deuair hirion yw’r awdl-gywydd, gyda phob cwpled yn cynnwys dwy linell seithsill, ond, yn wahanol i’r cywydd, gall y llinellau ddiweddu’n acennog neu’n ddiacen. Yn ogystal, y mae diwedd y llinell gyntaf yn odli â gorffwysfa’r ail linell, a diwedd yr ail linell yn cynnal y brifodl. Dyma linellau agoriadol ‘Awdl-gywydd i Ddewi Sant’ gan Lewys Glyn Cothi:
- Mae ’mhwys, mewn crwys, lle croesant,
- ar un sant o’r ynys hon,
- Dewi gâr, lle dug urael,
- Dogwael o Geredigion,
- ac ŵyr ydiw i Geredig
- a drig ymyl dŵr eigion ...
Alan Llwyd
Llyfryddiaeth
Johnston, D. (1995), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).
Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.