Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymeriad (cynghanedd)"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Addurniadau a geir ar ddechrau llinellau o gynghanedd yw cymeriad. O sefydlu’r egwyddor nad addurn yw’r gynghanedd ei hun, ond, yn hyt...') |
|||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Addurniadau a geir ar ddechrau llinellau o gynghanedd yw cymeriad. O sefydlu’r egwyddor nad addurn yw’r gynghanedd ei hun, ond, yn hytrach, hanfod y mynegiant, a bod yr hyn a fynegir a’r ffordd y’i mynegir yn undod anwahanadwy, addurn ar y mynegiant yw cymeriad. | Addurniadau a geir ar ddechrau llinellau o gynghanedd yw cymeriad. O sefydlu’r egwyddor nad addurn yw’r gynghanedd ei hun, ond, yn hytrach, hanfod y mynegiant, a bod yr hyn a fynegir a’r ffordd y’i mynegir yn undod anwahanadwy, addurn ar y mynegiant yw cymeriad. | ||
− | Yn wreiddiol, ymadrodd a ailadroddid yn llinell gyntaf pob pennill mewn awdl (caniad neu bennill unodl) oedd cymeriad. Yn Y Gododdin, er enghraifft, ailadroddir yr ymadrodd ‘Gwŷr a aeth Gatráeth’ mewn sawl awdl (penillion unodl, a’r odl yn newid o bennill i bennill), a cheir sawl enghraifft o gymeriadau o’r fath yn rhai o gerddi Llyfr Du Caerfyrddin, fel ‘Afallennau Myrddin’ (lle’r ailadroddir ‘Afallen beren’ o bennill i bennill), ac ‘Oianau Myrddin’ (lle’r ailadroddir ‘Oian a barchellan’ a ‘Hoian a barchellan). Ceir cymeriad hefyd yn y gerdd enwog o’r 9g., ‘Edmig Dinbych Penfro’, sef ‘Addwyn gaer y sydd’. | + | Yn wreiddiol, ymadrodd a ailadroddid yn llinell gyntaf pob pennill mewn awdl (caniad neu bennill unodl) oedd cymeriad. Yn ''Y Gododdin'', er enghraifft, ailadroddir yr ymadrodd ‘Gwŷr a aeth Gatráeth’ mewn sawl awdl (penillion unodl, a’r odl yn newid o bennill i bennill), a cheir sawl enghraifft o gymeriadau o’r fath yn rhai o gerddi Llyfr Du Caerfyrddin, fel ‘Afallennau Myrddin’ (lle’r ailadroddir ‘Afallen beren’ o bennill i bennill), ac ‘Oianau Myrddin’ (lle’r ailadroddir ‘Oian a barchellan’ a ‘Hoian a barchellan). Ceir cymeriad hefyd yn y gerdd enwog o’r 9g., ‘Edmig Dinbych Penfro’, sef ‘Addwyn gaer y sydd’. |
O safbwynt mesurau Cerdd Dafod, yn enwedig y cywydd, ceir pedwar math o gymeriad, ac fe’u ceir ar ddechrau’r llinellau. | O safbwynt mesurau Cerdd Dafod, yn enwedig y cywydd, ceir pedwar math o gymeriad, ac fe’u ceir ar ddechrau’r llinellau. | ||
− | 1. Cymeriad llythrennol | + | :1. Cymeriad llythrennol |
− | Pan fo llinellau yn dechrau â’r un gytsain neu lafariad, ceir cymeriad llythrennol, er enghraifft, y gytsain b yng nghywydd Tudur Aled, ‘Arglwydd y Glyn’: | + | Pan fo llinellau yn dechrau â’r un gytsain neu lafariad, ceir cymeriad llythrennol, er enghraifft, y gytsain ''b'' yng nghywydd Tudur Aled, ‘Arglwydd y Glyn’: |
Bron a dyrr glaif, bryn dur glas, | Bron a dyrr glaif, bryn dur glas, | ||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
Ban êl iarll ar ben ei lin. | Ban êl iarll ar ben ei lin. | ||
− | 2. Cymeriad cynganeddol | + | :2. Cymeriad cynganeddol |
Pan fo gair neu eiriau ar ddechrau’r naill linell a’r llall mewn cwpled cywydd yn cynganeddu â’i gilydd, fe geir cymeriad cynganeddol, er enghraifft, y cwpledi hyn gan Gruffudd Gryg: | Pan fo gair neu eiriau ar ddechrau’r naill linell a’r llall mewn cwpled cywydd yn cynganeddu â’i gilydd, fe geir cymeriad cynganeddol, er enghraifft, y cwpledi hyn gan Gruffudd Gryg: | ||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
Ymlid y fondid a fyn. | Ymlid y fondid a fyn. | ||
− | 3. Cymeriad Cyfochrog | + | :3. Cymeriad Cyfochrog |
Mannau mwyn am win a medd, | Mannau mwyn am win a medd, | ||
Llinell 44: | Llinell 44: | ||
Chweinia gynt a chwynnu gardd. | Chweinia gynt a chwynnu gardd. | ||
− | 4. Cymeriad Synhwyrol | + | :4. Cymeriad Synhwyrol |
− | Yn ôl Wiliam Midleton yn Bardhoniaeth, neu Brydydhiaeth: ‘Kymhariad Synhwyrol yw, pann fytho y llythyrennaú gwreidhiol yn kydateb, ag yn kymharú, or ún rhyw; ag yn kyflawni syñwyr dhiffygiol yn y braich cyntaf hefyd.’ A’r enghraifft a roir ganddo o gymeriad synhwyrol yw cwpled o waith Guto’r Glyn, o’i gywydd i ofyn saeled gan Wiliam Rodn ap Richard Rodn o Holt ar ran Dafydd Bromfild o Fers: | + | Yn ôl Wiliam Midleton yn ''Bardhoniaeth, neu Brydydhiaeth'': ‘Kymhariad Synhwyrol yw, pann fytho y llythyrennaú gwreidhiol yn kydateb, ag yn kymharú, or ún rhyw; ag yn kyflawni syñwyr dhiffygiol yn y braich cyntaf hefyd.’ A’r enghraifft a roir ganddo o gymeriad synhwyrol yw cwpled o waith Guto’r Glyn, o’i gywydd i ofyn saeled gan Wiliam Rodn ap Richard Rodn o Holt ar ran Dafydd Bromfild o Fers: |
Ni bú y Rodn; nai Bredúr | Ni bú y Rodn; nai Bredúr | ||
Llinell 54: | Llinell 54: | ||
Negydd o’i win nac o’i ddur.) | Negydd o’i win nac o’i ddur.) | ||
− | Os yw’r gystrawen yn anorffenedig neu’r ystyr yn ddiffygiol yn y llinell gyntaf, rhaid cael cystrawen gyflawn neu ystyr lawn ar ddechrau’r ail linell yn y cwpled. Yn ôl John Morris-Jones yn Cerdd Dafod: ‘Nid rhaid cyfatebiaeth o gwbl os bydd y synnwyr yn anorffenedig yn y llinell gyntaf ac yn rhedeg i’r ail, megis bod berf yn y gyntaf a’i gwrthrych neu ei dibeniad yn yr ail’, a’r enghrefftiau a rydd John Morris-Jones yw: | + | Os yw’r gystrawen yn anorffenedig neu’r ystyr yn ddiffygiol yn y llinell gyntaf, rhaid cael cystrawen gyflawn neu ystyr lawn ar ddechrau’r ail linell yn y cwpled. Yn ôl John Morris-Jones yn ''Cerdd Dafod'': ‘Nid rhaid cyfatebiaeth o gwbl os bydd y synnwyr yn anorffenedig yn y llinell gyntaf ac yn rhedeg i’r ail, megis bod berf yn y gyntaf a’i gwrthrych neu ei dibeniad yn yr ail’, a’r enghrefftiau a rydd John Morris-Jones yw: |
− | Duw a farno o’r diwedd | + | Duw a ''farno'' o’r diwedd |
− | Barn iawn rhof a gwawn ’i gwedd. | + | ''Barn'' iawn rhof a gwawn ’i gwedd. |
− | Cyd bych (lanwych oleuni) | + | Cyd ''bych'' (lanwych oleuni) |
− | Deg a mwyn er dig i mi. | + | ''Deg'' a mwyn er dig i mi. |
Ceir enghreifftiau diddiwedd o gymeriad llythrennol a chymeriad cynganeddol yng ngwaith y Cywyddwyr. Prinnach yw’r lleill. | Ceir enghreifftiau diddiwedd o gymeriad llythrennol a chymeriad cynganeddol yng ngwaith y Cywyddwyr. Prinnach yw’r lleill. |
Diwygiad 22:25, 25 Hydref 2016
Addurniadau a geir ar ddechrau llinellau o gynghanedd yw cymeriad. O sefydlu’r egwyddor nad addurn yw’r gynghanedd ei hun, ond, yn hytrach, hanfod y mynegiant, a bod yr hyn a fynegir a’r ffordd y’i mynegir yn undod anwahanadwy, addurn ar y mynegiant yw cymeriad.
Yn wreiddiol, ymadrodd a ailadroddid yn llinell gyntaf pob pennill mewn awdl (caniad neu bennill unodl) oedd cymeriad. Yn Y Gododdin, er enghraifft, ailadroddir yr ymadrodd ‘Gwŷr a aeth Gatráeth’ mewn sawl awdl (penillion unodl, a’r odl yn newid o bennill i bennill), a cheir sawl enghraifft o gymeriadau o’r fath yn rhai o gerddi Llyfr Du Caerfyrddin, fel ‘Afallennau Myrddin’ (lle’r ailadroddir ‘Afallen beren’ o bennill i bennill), ac ‘Oianau Myrddin’ (lle’r ailadroddir ‘Oian a barchellan’ a ‘Hoian a barchellan). Ceir cymeriad hefyd yn y gerdd enwog o’r 9g., ‘Edmig Dinbych Penfro’, sef ‘Addwyn gaer y sydd’.
O safbwynt mesurau Cerdd Dafod, yn enwedig y cywydd, ceir pedwar math o gymeriad, ac fe’u ceir ar ddechrau’r llinellau.
- 1. Cymeriad llythrennol
Pan fo llinellau yn dechrau â’r un gytsain neu lafariad, ceir cymeriad llythrennol, er enghraifft, y gytsain b yng nghywydd Tudur Aled, ‘Arglwydd y Glyn’:
Bron a dyrr glaif, bryn dur glas, Bwrw chwe mil, breichiau Melwas; Braich Brutus ap Silus oedd, Bliant, arfau, blaen torfoedd; Bo tai’n y Siêb it yn sarn, Brwyn yw coed wrth bren cadarn! Bid aur dy ben i frenin, Ban êl iarll ar ben ei lin.
- 2. Cymeriad cynganeddol
Pan fo gair neu eiriau ar ddechrau’r naill linell a’r llall mewn cwpled cywydd yn cynganeddu â’i gilydd, fe geir cymeriad cynganeddol, er enghraifft, y cwpledi hyn gan Gruffudd Gryg:
Llugorn fuost yn llwygaw, Llygad glas maen cawad glaw.
Dysgaist am fy mhen dwysgaw, Disgyn i lawr, glawr y glaw.
Dyma gwpled cyffelyb gan Iolo Goch:
Aml y canai ei emyn, Ymlid y fondid a fyn.
- 3. Cymeriad Cyfochrog
Mannau mwyn am win a medd, Tannau, miwsig, ton maswedd.
Dyna’r unig enghraifft o gymeriad cyfochrog a rydd Wiliam Midleton, ac ef yw awdur y cwpled. ‘Cymhariad kyfochr yw,’ meddai, ‘pann fytho daúsillafog eiriaú yn dechraú y mesúr, er torri kymhariad llythyrennol; ar y gytsain wreidhiol, rhaid údhynt gyfochri yn sain mewn acen dhyrchafedig’. Nid dau gymeriad ar wahân yw cymeriad cynganeddol a chymeriad cyfochrog yn ôl John Morris-Jones, ond un cymeriad gydag odlau dwbwl ar ddechrau’r ddwy linell yn disodli’r gyfatebiaeth gynganeddol ar ddechrau’r llinellau. Cwpled Wiliam Midleton a roir yn enghraifft gan John Morris-Jones, a hwnnw’n unig. ond fe geir eraill, er enghraifft, y cwpled hwn o waith Llywelyn ap Gutun:
Gwreinia megis gwŷr anardd, Chweinia gynt a chwynnu gardd.
- 4. Cymeriad Synhwyrol
Yn ôl Wiliam Midleton yn Bardhoniaeth, neu Brydydhiaeth: ‘Kymhariad Synhwyrol yw, pann fytho y llythyrennaú gwreidhiol yn kydateb, ag yn kymharú, or ún rhyw; ag yn kyflawni syñwyr dhiffygiol yn y braich cyntaf hefyd.’ A’r enghraifft a roir ganddo o gymeriad synhwyrol yw cwpled o waith Guto’r Glyn, o’i gywydd i ofyn saeled gan Wiliam Rodn ap Richard Rodn o Holt ar ran Dafydd Bromfild o Fers:
Ni bú y Rodn; nai Bredúr Negydh, oe win nag oe dhúr.
(Ni bu Rodn, nai Beredur, Negydd o’i win nac o’i ddur.)
Os yw’r gystrawen yn anorffenedig neu’r ystyr yn ddiffygiol yn y llinell gyntaf, rhaid cael cystrawen gyflawn neu ystyr lawn ar ddechrau’r ail linell yn y cwpled. Yn ôl John Morris-Jones yn Cerdd Dafod: ‘Nid rhaid cyfatebiaeth o gwbl os bydd y synnwyr yn anorffenedig yn y llinell gyntaf ac yn rhedeg i’r ail, megis bod berf yn y gyntaf a’i gwrthrych neu ei dibeniad yn yr ail’, a’r enghrefftiau a rydd John Morris-Jones yw:
Duw a farno o’r diwedd Barn iawn rhof a gwawn ’i gwedd.
Cyd bych (lanwych oleuni) Deg a mwyn er dig i mi.
Ceir enghreifftiau diddiwedd o gymeriad llythrennol a chymeriad cynganeddol yng ngwaith y Cywyddwyr. Prinnach yw’r lleill.
Alan Llwyd
Llyfryddiaeth
Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).
Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).
Williams, G. J. (gol.) (1930), Barddoniaeth neu Brydyddiaeth gan Wiliam Midleton yn ôl argraffiad 1593, gyda chasgliad o’i awdlau a’i gywyddau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.