Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Nofel"
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__ | __NOAUTOLINKS__ | ||
− | Defnyddir y gair ‘nofel’ yn y Gymraeg, fel ''novel'' yn Saesneg, i ddisgrifio naratif ffuglennol lle mae canolbwynt yr adrodd ar y berthynas rhwng profiad cymeriadau unigol a’r byd y’u lleolir ynddo. Nid oes raid i’r digwyddiad mewn nofel fod yn ffuglennol | + | Defnyddir y gair ‘nofel’ yn y Gymraeg, fel ''novel'' yn Saesneg, i ddisgrifio naratif ffuglennol lle mae canolbwynt yr adrodd ar y berthynas rhwng profiad cymeriadau unigol a’r byd y’u lleolir ynddo. Nid oes raid i’r digwyddiad mewn nofel fod yn ffuglennol ‒ gall rhai o leiaf o’r cymeriadau fod yn hanesyddol ‒ ond mae’n rhaid wrth ddychymyg yn y ffordd y mae’r berthynas rhwng y ddwy elfen hon wedi’i gweithio. Gan ddweud hynny, y mae disgwyliad bod dychymyg y nofelydd i ryw raddau’n gaeth i amodau’r bywyd neilltuol y mae’n ei bortreadu. Er ei fod yn rhannu priodoleddau naratif gyda’r epig ar y naill law a’r rhamant ar y llaw arall, ystyrir mai priod faes y nofel yw’r profiad dynol ar raddfa gyffredin. Gall nofel bortreadu cymeriadau anghyffredin a digwyddiadau eithafol, ond byddwn yn disgwyl gweld bod y berthynas rhyngddynt yn adlewyrchu amodau bywyd fel y mae. |
− | Er ei bod, ers y 19g., wedi bod yn un o’r ''genres'' mawr llenyddol, gyda’r apêl fwyaf eang a’r sylfaen economaidd sicraf, bu datblygiad cynnar y nofel yn araf ac | + | Er ei bod, ers y 19g., wedi bod yn un o’r ''genres'' mawr llenyddol, gyda’r apêl fwyaf eang a’r sylfaen economaidd sicraf, bu datblygiad cynnar y nofel yn araf ac ansicr. Datblygodd yn wreiddiol mewn perthynas agos â’r rhamant, ac yn y gwledydd lle parheir rhamant yn gryf ni chydnabuwyd angen i wahaniaethu rhyngddynt. Felly yn Ffrangeg ac yn Almaeneg, er bod y rhamant a’r nofel wedi datblygu ar wahân i’w gilydd ers sawl canrif, defnyddir yr un gair am y ddau. Mabwysiadwyd y gair ‘nofel’ yn Saesneg yn wreiddiol, yn gynnar yn y 18g., o’r gair Sbaeneg ''novella'', oherwydd cysylltwyd y math ar ffugchwedlau a oedd yn ymddangos erbyn hynny â newydd-deb a chyfoesedd. Y mae’r amwysedd hwn wedi arwain at ansicrwydd ynglŷn â dechreuad y nofel a’i phriodoleddau sylfaenol fel ''genre'' llenyddol. |
− | Ymddengys un peth yn sicr am wreiddiau’r nofel, sef ei bod yn mynegi ysbryd y cyfnod modern cynnar, a fynegwyd hefyd yn athroniaeth newydd a symudiadau gwleidyddol a chymdeithasol y 17g. O’r cyfnod hwnnw gwelwn ddirywiad y fframweithiau ideolegol trosgynnol a gynhaliai’r gwahanol fathau o ramant a ffynnai ar gyfandir Ewrop o’r oesoedd canol ymlaen. Yr elfen chwyldroadol newydd a ddatblygai yn y cyfnod cythryblus hwnnw oedd parodrwydd i ymddiddori ym mhrofiad dyn fel ffynhonnell ystyr ynddo | + | Ymddengys un peth yn sicr am wreiddiau’r nofel, sef ei bod yn mynegi ysbryd y cyfnod modern cynnar, a fynegwyd hefyd yn athroniaeth newydd a symudiadau gwleidyddol a chymdeithasol y 17g. O’r cyfnod hwnnw, gwelwn ddirywiad y fframweithiau ideolegol trosgynnol a gynhaliai’r gwahanol fathau o ramant a ffynnai ar gyfandir Ewrop o’r oesoedd canol ymlaen. Yr elfen chwyldroadol newydd a ddatblygai yn y cyfnod cythryblus hwnnw oedd parodrwydd i ymddiddori ym mhrofiad dyn fel ffynhonnell ystyr ynddo'i hun. Dyna’r elfen lywodraethol a symbylai waith y Sbaenwr, Miguel de Cervantes, yn nwy gyfrol ei ffuglen, ''Don Quijote de la Mancha'' (1605 a 1615). Datblygai’r gyfrol gyntaf o un cwestiwn sylfaenol, sef beth a fyddai’n digwydd pe bai dyn yn methu â gwahaniaethu rhwng y byd a welai o’i gwmpas a’r byd a bortreedir yn nhudalennau’r rhamantau sifalri yr oedd y nofelydd ei hun yn eu hedmygu? Datblygir cymeriadau canolog y nofel yn sgil gofyn y cwestiwn hwnnw a daw’r digwyddiadau’n ganlyniad i’r gwrthdaro rhwng y cymeriadau hynny a’r byd o’u cwmpas. Cyflwynodd y gyfrol gyntaf honno rywbeth hollol newydd i fyd y naratif yn Ewrop, ond bu’r ail yn gyfraniad mwy syfrdanol fyth, yn plymio’n ddyfnach i hanfod unigoliaeth ddynol ac yn agor allan feysydd newydd i lenyddiaeth. |
− | Er bod ffigwr canolog ffuglen Cervantes wedi gafael yn dynn yn nychymyg darllenwyr ar draws Ewrop, ychydig a ystyriai nad oedd ei waith yn cwympo i ffurfiau naratif cydnabyddedig. Anwadal fu’r datblygiadau yn y ddwy ganrif nesaf. Parhâi darllenwyr yn Ffrainc i ddosbarthu gweithiau fel ''Gil Blas'' (1715‒1735) Alain René Lesage a ''Le Paysan Parvenu'' (1735) Pierre Carlet de Chamblain de Marivaux gyda’r rhamant. Gwaith yr ysbïwr, dychanwr a’r newyddiadurwr, Daniel Defoe, yn anad dim, a symbylodd ymwybyddiaeth bod angen term newydd i ddisgrifio ffuglen a ddangosai cyn lleied o barch tuag at gategorïau llenyddol traddodiadol. Arweiniodd ''Robinson Crusoe'' (1719) at ddiddordeb newydd yn sylwedd a gwead profiad a oedd, wrth ei ystyried o safbwynt gwerthoedd traddodiadol yn hollol ddibwys. Tueddai rhai darllenwyr ar y pryd i ystyried ei fod naill ai’n hanes go iawn, neu’n gelwydd digywilydd, oherwydd eu bod yn methu â’i weld fel llenyddiaeth o gwbl. | + | Er bod ffigwr canolog ffuglen Cervantes wedi gafael yn dynn yn nychymyg darllenwyr ar draws Ewrop, ychydig a ystyriai nad oedd ei waith yn cwympo i ffurfiau naratif cydnabyddedig. Anwadal fu’r datblygiadau yn y ddwy ganrif nesaf. Parhâi darllenwyr yn Ffrainc i ddosbarthu gweithiau fel ''Gil Blas'' (1715‒1735) Alain René Lesage a ''Le Paysan Parvenu'' (1735) Pierre Carlet de Chamblain de Marivaux gyda’r rhamant. Gwaith yr ysbïwr, dychanwr a’r newyddiadurwr, Daniel Defoe, yn anad dim, a symbylodd ymwybyddiaeth bod angen term newydd i ddisgrifio ffuglen a ddangosai cyn lleied o barch tuag at gategorïau llenyddol traddodiadol. Arweiniodd ''Robinson Crusoe'' (1719) at ddiddordeb newydd yn sylwedd a gwead profiad a oedd, wrth ei ystyried o safbwynt gwerthoedd traddodiadol, yn hollol ddibwys. Tueddai rhai darllenwyr ar y pryd i ystyried ei fod naill ai’n hanes go-iawn, neu’n gelwydd digywilydd, oherwydd eu bod yn methu â’i weld fel llenyddiaeth o gwbl. |
− | Yn raddol ar ôl Defoe daeth pobl i dderbyn bod ffurf lenyddol newydd ar gael, y tueddent i’w dehongli fel mynegiant o weledigaeth y dosbarthiadau cymdeithasol newydd a symbylai ddatblygiad y sustem gyfalafol o ail hanner yr 17g. ymlaen. Cadarnhawyd y duedd honno gan waith Samuel Richardson a Henry Fielding yn Lloegr a Denis Diderot yn Ffrainc. Yna, gydag ymddangosiad nofelau realaidd Stendhal, Honoré de Balzac a Gustave Flaubert yn Ffrainc, ynghyd â rhai Charles Dickens, William Thackeray a George Elliot yn Lloegr, aeth yn ystrydeb i ddweud mai mynegiant o athroniaeth y dosbarth bwrgeisaidd oedd y nofel yn ei hanfod. Un peth yw dweud hynny, wrth gwrs, a pheth hollol wahanol yw dweud mai dyna | + | Yn raddol ar ôl Defoe daeth pobl i dderbyn bod ffurf lenyddol newydd ar gael, y tueddent i’w dehongli fel mynegiant o weledigaeth y dosbarthiadau cymdeithasol newydd a symbylai ddatblygiad y sustem gyfalafol o ail hanner yr 17g. ymlaen. Cadarnhawyd y duedd honno gan waith Samuel Richardson a Henry Fielding yn Lloegr a Denis Diderot yn Ffrainc. Yna, gydag ymddangosiad nofelau realaidd Stendhal, Honoré de Balzac a Gustave Flaubert yn Ffrainc, ynghyd â rhai Charles Dickens, William Thackeray a George Elliot yn Lloegr, aeth yn ystrydeb i ddweud mai mynegiant o athroniaeth y dosbarth bwrgeisaidd oedd y nofel yn ei hanfod. Un peth yw dweud hynny, wrth gwrs, a pheth hollol wahanol yw dweud mai dyna oedd y nofel ''yn y cyfnod hwnnw''. Yn ddiau, cynigiai’r nofel ar y pwynt hanesyddol hwnnw gynghanedd ryfeddol rhwng adnoddau ffurfiol a ffurfiau argyfyngus o brofiad mewnol a symbylwyd gan amgylchiadau allanol cyfoes. Yn y cyfnod hwnnw, felly, daeth y nofel i’w hoed fel ffurf lenyddol wirioneddol fawr. |
Y mae’n wir dweud hefyd bod y nofel yng nghyfnod Realaeth, sef rhwng 1830 a 1880 yn fras, wedi datblygu cydbwysedd nodweddiadol rhwng y gwahanol elfennau arddulliadol a gynigir fel naratif. Serch hynny, chwalwyd y cydbwysedd hwnnw gyda dechrau’r mudiad Modernaidd yn negawdau diweddaraf y 19g. Manteisiai awduron fel Marcel Proust, James Joyce a Thomas Mann ar y cyfle i ad-drefnu elfennau’r nofel realaidd yr oedd y berthynas rhyngddynt wedi ymddangos mor naturiol yn y cyfnod cynt, er mwyn ymgorffori deongliadau newydd o fywyd dynol. Yn nwylo’r awduron hyn newidiwyd y berthynas rhwng profiad mewnol yr unigolyn ac amodau allanol yn syfrdanol, yn bennaf trwy ad-drefnu’r berthynas rhwng dulliau gwahanol o drin amser. Felly, yng ngwaith Proust, er enghraifft, ''A La Recherche de Temps Perdu'', y mae’r dechneg o amrywio amser a modd y ferf, hyd yn oed o fewn i un adroddiad integredig, yn ein harwain i feddwl am y cysyniad o unoliaeth ddynol mewn ffordd hollol newydd. | Y mae’n wir dweud hefyd bod y nofel yng nghyfnod Realaeth, sef rhwng 1830 a 1880 yn fras, wedi datblygu cydbwysedd nodweddiadol rhwng y gwahanol elfennau arddulliadol a gynigir fel naratif. Serch hynny, chwalwyd y cydbwysedd hwnnw gyda dechrau’r mudiad Modernaidd yn negawdau diweddaraf y 19g. Manteisiai awduron fel Marcel Proust, James Joyce a Thomas Mann ar y cyfle i ad-drefnu elfennau’r nofel realaidd yr oedd y berthynas rhyngddynt wedi ymddangos mor naturiol yn y cyfnod cynt, er mwyn ymgorffori deongliadau newydd o fywyd dynol. Yn nwylo’r awduron hyn newidiwyd y berthynas rhwng profiad mewnol yr unigolyn ac amodau allanol yn syfrdanol, yn bennaf trwy ad-drefnu’r berthynas rhwng dulliau gwahanol o drin amser. Felly, yng ngwaith Proust, er enghraifft, ''A La Recherche de Temps Perdu'', y mae’r dechneg o amrywio amser a modd y ferf, hyd yn oed o fewn i un adroddiad integredig, yn ein harwain i feddwl am y cysyniad o unoliaeth ddynol mewn ffordd hollol newydd. | ||
− | Yn ystod y 20g. gall fod yn wir fod y nofel yn yr Unol Daleithiau ac yn America Ladin wedi arwain y ffordd o ran datblygiadau technegol ac athronyddol, yn nwylo awduron fel William Faulkner, Scott Fitzgerald a Kurt Vonnegut ar y naill law, a Gabriel Garcia Marquez, Mario Vargas Llosa a Jorge Luis Borges ar y llall. | + | Yn ystod y 20g. gall fod yn wir fod y nofel yn yr Unol Daleithiau ac yn America Ladin wedi arwain y ffordd o ran datblygiadau technegol ac athronyddol, yn nwylo awduron fel William Faulkner, Scott Fitzgerald a Kurt Vonnegut ar y naill law, a Gabriel Garcia Marquez, Mario Vargas Llosa a Jorge Luis Borges ar y llall. Yn y ganrif bresennol y mae’r ffurf yn dal i fod yn hynod boblogaidd ac o gryn bwysigrwydd yn economaidd. Er hynny, mae trafodaeth wedi bod ynglŷn â’i gallu i barhau fel ffurf gelfyddydol mewn oes ddigidol. Gan ei bod yn elfen mor bwysig mewn diwylliant cyfredol ar hyd y byd gorllewinol, mae braidd yn eironig bod ei diwedd wedi ei rhagweld gan sylwebyddion gwahanol ac am resymau amrywiol ers canrif gyfan. |
− | ''Ioan Williams'' | + | '''Ioan Williams''' |
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | Genette, G. (1980), ''Narrative Discourse'' ( | + | Genette, G. (1980), ''Narrative Discourse'' (Oxford: Basil Blackwell). |
− | Levin, H. (1963), ''Gates of Horn. A Study of Five French Realists'' ( | + | Levin, H. (1963), ''Gates of Horn. A Study of Five French Realists'' (New York: Oxford University Press). |
Watt, I. (1957), ''The Rise of the Novel: Studies in Defoe, Richardson and Fielding'' (London: Chatto & Windus). | Watt, I. (1957), ''The Rise of the Novel: Studies in Defoe, Richardson and Fielding'' (London: Chatto & Windus). | ||
Llinell 31: | Llinell 31: | ||
Williams, I. (1989), ''Capel a Chomin. Astudiaeth o ffugchwedlau pedwar llenor Fictoraidd'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru). | Williams, I. (1989), ''Capel a Chomin. Astudiaeth o ffugchwedlau pedwar llenor Fictoraidd'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru). | ||
+ | {{CC BY-SA}} | ||
+ | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] |
Y diwygiad cyfredol, am 23:46, 20 Rhagfyr 2016
Defnyddir y gair ‘nofel’ yn y Gymraeg, fel novel yn Saesneg, i ddisgrifio naratif ffuglennol lle mae canolbwynt yr adrodd ar y berthynas rhwng profiad cymeriadau unigol a’r byd y’u lleolir ynddo. Nid oes raid i’r digwyddiad mewn nofel fod yn ffuglennol ‒ gall rhai o leiaf o’r cymeriadau fod yn hanesyddol ‒ ond mae’n rhaid wrth ddychymyg yn y ffordd y mae’r berthynas rhwng y ddwy elfen hon wedi’i gweithio. Gan ddweud hynny, y mae disgwyliad bod dychymyg y nofelydd i ryw raddau’n gaeth i amodau’r bywyd neilltuol y mae’n ei bortreadu. Er ei fod yn rhannu priodoleddau naratif gyda’r epig ar y naill law a’r rhamant ar y llaw arall, ystyrir mai priod faes y nofel yw’r profiad dynol ar raddfa gyffredin. Gall nofel bortreadu cymeriadau anghyffredin a digwyddiadau eithafol, ond byddwn yn disgwyl gweld bod y berthynas rhyngddynt yn adlewyrchu amodau bywyd fel y mae.
Er ei bod, ers y 19g., wedi bod yn un o’r genres mawr llenyddol, gyda’r apêl fwyaf eang a’r sylfaen economaidd sicraf, bu datblygiad cynnar y nofel yn araf ac ansicr. Datblygodd yn wreiddiol mewn perthynas agos â’r rhamant, ac yn y gwledydd lle parheir rhamant yn gryf ni chydnabuwyd angen i wahaniaethu rhyngddynt. Felly yn Ffrangeg ac yn Almaeneg, er bod y rhamant a’r nofel wedi datblygu ar wahân i’w gilydd ers sawl canrif, defnyddir yr un gair am y ddau. Mabwysiadwyd y gair ‘nofel’ yn Saesneg yn wreiddiol, yn gynnar yn y 18g., o’r gair Sbaeneg novella, oherwydd cysylltwyd y math ar ffugchwedlau a oedd yn ymddangos erbyn hynny â newydd-deb a chyfoesedd. Y mae’r amwysedd hwn wedi arwain at ansicrwydd ynglŷn â dechreuad y nofel a’i phriodoleddau sylfaenol fel genre llenyddol.
Ymddengys un peth yn sicr am wreiddiau’r nofel, sef ei bod yn mynegi ysbryd y cyfnod modern cynnar, a fynegwyd hefyd yn athroniaeth newydd a symudiadau gwleidyddol a chymdeithasol y 17g. O’r cyfnod hwnnw, gwelwn ddirywiad y fframweithiau ideolegol trosgynnol a gynhaliai’r gwahanol fathau o ramant a ffynnai ar gyfandir Ewrop o’r oesoedd canol ymlaen. Yr elfen chwyldroadol newydd a ddatblygai yn y cyfnod cythryblus hwnnw oedd parodrwydd i ymddiddori ym mhrofiad dyn fel ffynhonnell ystyr ynddo'i hun. Dyna’r elfen lywodraethol a symbylai waith y Sbaenwr, Miguel de Cervantes, yn nwy gyfrol ei ffuglen, Don Quijote de la Mancha (1605 a 1615). Datblygai’r gyfrol gyntaf o un cwestiwn sylfaenol, sef beth a fyddai’n digwydd pe bai dyn yn methu â gwahaniaethu rhwng y byd a welai o’i gwmpas a’r byd a bortreedir yn nhudalennau’r rhamantau sifalri yr oedd y nofelydd ei hun yn eu hedmygu? Datblygir cymeriadau canolog y nofel yn sgil gofyn y cwestiwn hwnnw a daw’r digwyddiadau’n ganlyniad i’r gwrthdaro rhwng y cymeriadau hynny a’r byd o’u cwmpas. Cyflwynodd y gyfrol gyntaf honno rywbeth hollol newydd i fyd y naratif yn Ewrop, ond bu’r ail yn gyfraniad mwy syfrdanol fyth, yn plymio’n ddyfnach i hanfod unigoliaeth ddynol ac yn agor allan feysydd newydd i lenyddiaeth.
Er bod ffigwr canolog ffuglen Cervantes wedi gafael yn dynn yn nychymyg darllenwyr ar draws Ewrop, ychydig a ystyriai nad oedd ei waith yn cwympo i ffurfiau naratif cydnabyddedig. Anwadal fu’r datblygiadau yn y ddwy ganrif nesaf. Parhâi darllenwyr yn Ffrainc i ddosbarthu gweithiau fel Gil Blas (1715‒1735) Alain René Lesage a Le Paysan Parvenu (1735) Pierre Carlet de Chamblain de Marivaux gyda’r rhamant. Gwaith yr ysbïwr, dychanwr a’r newyddiadurwr, Daniel Defoe, yn anad dim, a symbylodd ymwybyddiaeth bod angen term newydd i ddisgrifio ffuglen a ddangosai cyn lleied o barch tuag at gategorïau llenyddol traddodiadol. Arweiniodd Robinson Crusoe (1719) at ddiddordeb newydd yn sylwedd a gwead profiad a oedd, wrth ei ystyried o safbwynt gwerthoedd traddodiadol, yn hollol ddibwys. Tueddai rhai darllenwyr ar y pryd i ystyried ei fod naill ai’n hanes go-iawn, neu’n gelwydd digywilydd, oherwydd eu bod yn methu â’i weld fel llenyddiaeth o gwbl.
Yn raddol ar ôl Defoe daeth pobl i dderbyn bod ffurf lenyddol newydd ar gael, y tueddent i’w dehongli fel mynegiant o weledigaeth y dosbarthiadau cymdeithasol newydd a symbylai ddatblygiad y sustem gyfalafol o ail hanner yr 17g. ymlaen. Cadarnhawyd y duedd honno gan waith Samuel Richardson a Henry Fielding yn Lloegr a Denis Diderot yn Ffrainc. Yna, gydag ymddangosiad nofelau realaidd Stendhal, Honoré de Balzac a Gustave Flaubert yn Ffrainc, ynghyd â rhai Charles Dickens, William Thackeray a George Elliot yn Lloegr, aeth yn ystrydeb i ddweud mai mynegiant o athroniaeth y dosbarth bwrgeisaidd oedd y nofel yn ei hanfod. Un peth yw dweud hynny, wrth gwrs, a pheth hollol wahanol yw dweud mai dyna oedd y nofel yn y cyfnod hwnnw. Yn ddiau, cynigiai’r nofel ar y pwynt hanesyddol hwnnw gynghanedd ryfeddol rhwng adnoddau ffurfiol a ffurfiau argyfyngus o brofiad mewnol a symbylwyd gan amgylchiadau allanol cyfoes. Yn y cyfnod hwnnw, felly, daeth y nofel i’w hoed fel ffurf lenyddol wirioneddol fawr.
Y mae’n wir dweud hefyd bod y nofel yng nghyfnod Realaeth, sef rhwng 1830 a 1880 yn fras, wedi datblygu cydbwysedd nodweddiadol rhwng y gwahanol elfennau arddulliadol a gynigir fel naratif. Serch hynny, chwalwyd y cydbwysedd hwnnw gyda dechrau’r mudiad Modernaidd yn negawdau diweddaraf y 19g. Manteisiai awduron fel Marcel Proust, James Joyce a Thomas Mann ar y cyfle i ad-drefnu elfennau’r nofel realaidd yr oedd y berthynas rhyngddynt wedi ymddangos mor naturiol yn y cyfnod cynt, er mwyn ymgorffori deongliadau newydd o fywyd dynol. Yn nwylo’r awduron hyn newidiwyd y berthynas rhwng profiad mewnol yr unigolyn ac amodau allanol yn syfrdanol, yn bennaf trwy ad-drefnu’r berthynas rhwng dulliau gwahanol o drin amser. Felly, yng ngwaith Proust, er enghraifft, A La Recherche de Temps Perdu, y mae’r dechneg o amrywio amser a modd y ferf, hyd yn oed o fewn i un adroddiad integredig, yn ein harwain i feddwl am y cysyniad o unoliaeth ddynol mewn ffordd hollol newydd.
Yn ystod y 20g. gall fod yn wir fod y nofel yn yr Unol Daleithiau ac yn America Ladin wedi arwain y ffordd o ran datblygiadau technegol ac athronyddol, yn nwylo awduron fel William Faulkner, Scott Fitzgerald a Kurt Vonnegut ar y naill law, a Gabriel Garcia Marquez, Mario Vargas Llosa a Jorge Luis Borges ar y llall. Yn y ganrif bresennol y mae’r ffurf yn dal i fod yn hynod boblogaidd ac o gryn bwysigrwydd yn economaidd. Er hynny, mae trafodaeth wedi bod ynglŷn â’i gallu i barhau fel ffurf gelfyddydol mewn oes ddigidol. Gan ei bod yn elfen mor bwysig mewn diwylliant cyfredol ar hyd y byd gorllewinol, mae braidd yn eironig bod ei diwedd wedi ei rhagweld gan sylwebyddion gwahanol ac am resymau amrywiol ers canrif gyfan.
Ioan Williams
Llyfryddiaeth
Genette, G. (1980), Narrative Discourse (Oxford: Basil Blackwell).
Levin, H. (1963), Gates of Horn. A Study of Five French Realists (New York: Oxford University Press).
Watt, I. (1957), The Rise of the Novel: Studies in Defoe, Richardson and Fielding (London: Chatto & Windus).
Williams, G. (gol.) (1999), Rhyddid y Nofel (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Williams, I. (1979), The Idea of the Novel in Europe, 1600‒1800 (London: Macmillan).
Williams, I. (1984), Y Nofel (Llandysul: Gwasg Gomer).
Williams, I. (1989), Capel a Chomin. Astudiaeth o ffugchwedlau pedwar llenor Fictoraidd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.