Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Clasur"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Daeth y cysyniad o’r ‘clasurol’ i ieithoedd modern Ewrop o’r Lladin, ''classicus'', a gyfeiriai'n wreiddiol at ddinasyddion cefnog...')
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__
Daeth y cysyniad o’r ‘clasurol’ i ieithoedd modern Ewrop o’r Lladin, ''classicus'', a gyfeiriai'n wreiddiol at ddinasyddion cefnog a  oedd yn wahanol i’r rhai llai eu heiddo. Rhywbryd tua’r 2g. fe’i defnyddiwyd i ddisgrifio awduron o werth sylweddol ac o’r defnydd hwnnw y datblygodd ei brif ystyr yn yr ieithoedd modern, i gyfeirio at weithiau llenyddol a chelfyddydol yr ystyrir eu bod yn fodelau sy’n haeddu eu hefelychu. Yn  sgil hynny y mae’n cael ei ddefnyddio mewn nifer o gyd-destunau eraill, gyda’r un ystyr. Siaredir, er enghraifft, am geir a hyd yn oed am rasys ceffylau ‘clasurol’.
+
Daeth y cysyniad o’r ‘clasurol’ i ieithoedd modern Ewrop o’r Lladin, ''classicus'', a gyfeiriai'n wreiddiol at ddinasyddion cefnog a  oedd yn wahanol i’r rhai â llai o eiddo. Rhywbryd tua’r 2g. fe’i defnyddiwyd i ddisgrifio awduron o werth sylweddol ac o’r defnydd hwnnw y datblygai ei brif ystyr yn yr ieithoedd modern, i gyfeirio at weithiau llenyddol a chelfyddydol yr ystyrir eu bod yn fodelau sy’n haeddu eu hefelychu. Yn  sgil hynny y mae’n cael ei ddefnyddio mewn nifer o gyd-destunau eraill, gyda’r un ystyr. Siaredir, er enghraifft, am geir a hyd yn oed rasys ceffylau ‘clasurol’.
  
Y mae’r defnydd o’r gair a geiriau cysylltiedig eraill, fel ‘clasurol’, ‘clasuriaeth’ a ‘neo-glasurol’ wedi mynd yn gymhleth iawn ers cyfnod y Dadeni. Y maent hefyd yn cael eu defnyddio gydag ystyron gwahanol mewn perthynas â chelfyddydau gwahanol. Cyfeirir at holl draddodiad cerddoriaeth orllewinol sy’n seiliedig ar yr hen nodiant fel cerddoriaeth glasurol, ond defnyddir y term hefyd mewn ystyr mwy cyfyng, i ddisgrifio gwaith y cyfnod 1750‒1820. Yng nghyd-destun pensaernïaeth dynoda’r term waith sydd wedi’i ysbrydoli gan arddull neu ddulliau’r byd clasurol. Mewn modd tebyg, disgrifir arluniaeth sy’n defnyddio themâu a phynciau sy’n tarddu o gelfyddyd y byd hynafol fel arluniaeth glasurol. Serch hynny, mewn perthynas  â llenyddiaeth gellid gwahaniaethu rhwng tri defnydd neilltuol sy’n perthyn i’w gilydd yn y bôn, er eu bod yn aml yn wrthgyferbyniol.
+
Mae’r defnydd o’r gair a geiriau cysylltiedig eraill, fel ‘clasurol’, ‘clasuriaeth’ a ‘neo-glasurol’ wedi mynd yn gymhleth iawn ers cyfnod y Dadeni. Maent hefyd yn cael eu defnyddio gydag ystyron gwahanol mewn perthynas â chelfyddydau gwahanol. Cyfeirir at holl draddodiad cerddoriaeth orllewinol sy’n seiliedig ar yr hen nodiant fel cerddoriaeth glasurol, ond defnyddir y term hefyd mewn ystyr mwy cyfyng, i ddisgrifio gwaith y cyfnod 1750‒1820. Yng nghyd-destun pensaernïaeth dynoda’r term waith sydd wedi’i ysbrydoli gan arddull neu ddulliau’r byd clasurol. Mewn modd tebyg, disgrifir arluniaeth sy’n defnyddio themâu a phynciau sy’n tarddu o gelfyddyd y byd hynafol fel arluniaeth glasurol. Serch hynny, mewn perthynas  â llenyddiaeth gellid gwahaniaethu rhwng tri defnydd neilltuol sy’n perthyn i’w gilydd yn y bôn, er eu bod yn aml yn wrthgyferbyniol.
  
Mewn perthynas â llenyddiaeth deillia’r defnydd mwyaf sylfaenol o’r gair o’r ffaith ein bod ni’n meddwl am ddiwylliant Groeg a Rhufain fel ffynhonnell gwareiddiad Ewrop ac fel ymgorfforiad o safonau oesol mewn llenyddiaeth a chelf. Dyna wreiddyn barn T. S. Eliot mai Fyrsil oedd yr awdur clasurol yn anad neb, yn rhinwedd y ffaith bod ei farddoniaeth yn ymgorffori aeddfedrwydd ac ehangder diwylliant Rhufain yng nghyfnod yr Ymerawdwr Awgwstws, a hynny mewn gwrthgyferbyniad â Shakespeare, er gwaethaf mawredd ei farddoniaeth a’i ddrama.  Ystyriaethau tebyg, yng nghyd-destun llenyddiaeth Gymraeg, a symbylodd Saunders Lewis wrth iddo ddisgrifio’r cyfnod 1330‒1640 fel y Cyfnod Clasurol, oherwydd ei fod yn distyllu holl werthoedd diwylliant traddodiadol a rannai Cymru'r cyfnod hwnnw â gwareiddiad Ewrop Cristnogol.
 
Llinell 8: Llinell 8:
 
Ar y llaw arall, pan wahaniaethai Saunders Lewis rhwng y farddoniaeth glasurol ar y naill law a gwaith Williams Pantycelyn ar y llall, roedd ganddo ystyriaethau gwahanol mewn meddwl. Yn y cyd-destun hwnnw cyfeiriai at rinweddau tybiedig y diwylliant clasurol, sef cynildeb, disgyblaeth, cytbwysedd a chymesuredd ffurf o’u cymharu â meddylfryd anturus, di-draddodiad y cyfnodau modern. Dyma sail y gwrthgyferbyniad cyffredin rhwng y Clasurol a’r Rhamantaidd ac, yn y cyd-destun  Cymraeg, rhwng beirdd y 18g. fel Goronwy Owen ar y naill law a gwaith eu holynwyr yn y ganrif nesaf, fel T. Gwynn Jones, lle mae cyfleu emosiwn yn bwysicach na chadw cymesuredd ffurf.
 
Mewn cyd-destun arall gellid cyfeirio at waith y ddau awdur hwn fel clasuron, i’r graddau y teimlir eu bod yn enghreifftiau da o ddulliau llenyddol arbennig. Felly gellid disgrifio gwaith Goronwy Owen fel enghraifft glasurol o farddoniaeth sy’n efelychu priodoliaethau ffurfiol barddoniaeth draddodiadol Gymraeg. Gellid cyfeirio hefyd at waith T. Gwynn Jones fel enghraifft ‘glasurol’ o farddoniaeth ramantaidd sy’n cyflwyno’r byd drwy gyfrwng profiad emosiynol yr unigolyn. Yn yr ystyr hwn gellid dweud bod nofelau Charles Dickens yn enghreifftiau clasurol o’r nofel Fictorianaidd, er na fyddai neb yn priodoli iddynt y rhinweddau ffurfiol, clasurol. Y mae’n debyg bod y defnydd hwn o’r gair yn dibynnu ar fodolaeth cysyniad clir, cyffredin o’r teip neu’r arddull y mae’r gwaith unigol yn ei enghreifftio. Gellid dadlau hefyd, ei bod yn anos meddwl am unrhyw waith llenyddol fel un clasurol i’r graddau ei fod yn unigryw. Er y gellid dadlau bod ''Gweledigaethau’r Bardd Cwsc'', Ellis Wynne, yn rhannu llawer gydag awduron dychanol yr 17g., ceir ynddynt y fath egni ac afiaith annisgybliedig na fyddai neb yn dymuno’u disgrifio fel clasuron.
+
Mewn cyd-destun arall gellid cyfeirio at waith y ddau awdur hwn fel clasuron, i’r graddau y teimlir eu bod yn enghreifftiau da o ddulliau llenyddol arbennig. Felly gellid disgrifio gwaith Goronwy Owen fel enghraifft glasurol o farddoniaeth sy’n efelychu priodoliaethau ffurfiol barddoniaeth draddodiadol Gymraeg. Gellid cyfeirio hefyd at waith T. Gwynn Jones fel enghraifft ‘glasurol’ o farddoniaeth ramantaidd sy’n cyflwyno’r byd drwy gyfrwng profiad emosiynol yr unigolyn. Yn yr ystyr hwn gellid dweud bod nofelau Charles Dickens yn enghreifftiau clasurol o’r nofel Fictorianaidd, er na fyddai neb yn priodoli iddynt y rhinweddau ffurfiol, clasurol. Y mae’n debyg bod y defnydd hwn o’r gair yn dibynnu ar fodolaeth cysyniad clir, cyffredin o’r teip neu’r arddull y mae’r gwaith unigol yn ei enghreifftio. Gellid dadlau hefyd ei bod yn anos meddwl am unrhyw waith llenyddol fel un clasurol i’r graddau ei fod yn unigryw. Er y gellid cynnig bod ''Gweledigaethau’r Bardd Cwsc'', Ellis Wynne, yn rhannu llawer gydag awduron dychanol yr 17g., ceir ynddynt y fath egni ac afiaith annisgybledig na fyddai neb yn dymuno’u disgrifio fel clasuron.
  
Ioan Williams
+
'''Ioan Williams'''
 
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]

Y diwygiad cyfredol, am 00:03, 17 Chwefror 2017

Daeth y cysyniad o’r ‘clasurol’ i ieithoedd modern Ewrop o’r Lladin, classicus, a gyfeiriai'n wreiddiol at ddinasyddion cefnog a oedd yn wahanol i’r rhai â llai o eiddo. Rhywbryd tua’r 2g. fe’i defnyddiwyd i ddisgrifio awduron o werth sylweddol ac o’r defnydd hwnnw y datblygai ei brif ystyr yn yr ieithoedd modern, i gyfeirio at weithiau llenyddol a chelfyddydol yr ystyrir eu bod yn fodelau sy’n haeddu eu hefelychu. Yn sgil hynny y mae’n cael ei ddefnyddio mewn nifer o gyd-destunau eraill, gyda’r un ystyr. Siaredir, er enghraifft, am geir a hyd yn oed rasys ceffylau ‘clasurol’.

Mae’r defnydd o’r gair a geiriau cysylltiedig eraill, fel ‘clasurol’, ‘clasuriaeth’ a ‘neo-glasurol’ wedi mynd yn gymhleth iawn ers cyfnod y Dadeni. Maent hefyd yn cael eu defnyddio gydag ystyron gwahanol mewn perthynas â chelfyddydau gwahanol. Cyfeirir at holl draddodiad cerddoriaeth orllewinol sy’n seiliedig ar yr hen nodiant fel cerddoriaeth glasurol, ond defnyddir y term hefyd mewn ystyr mwy cyfyng, i ddisgrifio gwaith y cyfnod 1750‒1820. Yng nghyd-destun pensaernïaeth dynoda’r term waith sydd wedi’i ysbrydoli gan arddull neu ddulliau’r byd clasurol. Mewn modd tebyg, disgrifir arluniaeth sy’n defnyddio themâu a phynciau sy’n tarddu o gelfyddyd y byd hynafol fel arluniaeth glasurol. Serch hynny, mewn perthynas â llenyddiaeth gellid gwahaniaethu rhwng tri defnydd neilltuol sy’n perthyn i’w gilydd yn y bôn, er eu bod yn aml yn wrthgyferbyniol.

Mewn perthynas â llenyddiaeth deillia’r defnydd mwyaf sylfaenol o’r gair o’r ffaith ein bod ni’n meddwl am ddiwylliant Groeg a Rhufain fel ffynhonnell gwareiddiad Ewrop ac fel ymgorfforiad o safonau oesol mewn llenyddiaeth a chelf. Dyna wreiddyn barn T. S. Eliot mai Fyrsil oedd yr awdur clasurol yn anad neb, yn rhinwedd y ffaith bod ei farddoniaeth yn ymgorffori aeddfedrwydd ac ehangder diwylliant Rhufain yng nghyfnod yr Ymerawdwr Awgwstws, a hynny mewn gwrthgyferbyniad â Shakespeare, er gwaethaf mawredd ei farddoniaeth a’i ddrama. Ystyriaethau tebyg, yng nghyd-destun llenyddiaeth Gymraeg, a symbylodd Saunders Lewis wrth iddo ddisgrifio’r cyfnod 1330‒1640 fel y Cyfnod Clasurol, oherwydd ei fod yn distyllu holl werthoedd diwylliant traddodiadol a rannai Cymru'r cyfnod hwnnw â gwareiddiad Ewrop Cristnogol.

Ar y llaw arall, pan wahaniaethai Saunders Lewis rhwng y farddoniaeth glasurol ar y naill law a gwaith Williams Pantycelyn ar y llall, roedd ganddo ystyriaethau gwahanol mewn meddwl. Yn y cyd-destun hwnnw cyfeiriai at rinweddau tybiedig y diwylliant clasurol, sef cynildeb, disgyblaeth, cytbwysedd a chymesuredd ffurf o’u cymharu â meddylfryd anturus, di-draddodiad y cyfnodau modern. Dyma sail y gwrthgyferbyniad cyffredin rhwng y Clasurol a’r Rhamantaidd ac, yn y cyd-destun Cymraeg, rhwng beirdd y 18g. fel Goronwy Owen ar y naill law a gwaith eu holynwyr yn y ganrif nesaf, fel T. Gwynn Jones, lle mae cyfleu emosiwn yn bwysicach na chadw cymesuredd ffurf.

Mewn cyd-destun arall gellid cyfeirio at waith y ddau awdur hwn fel clasuron, i’r graddau y teimlir eu bod yn enghreifftiau da o ddulliau llenyddol arbennig. Felly gellid disgrifio gwaith Goronwy Owen fel enghraifft glasurol o farddoniaeth sy’n efelychu priodoliaethau ffurfiol barddoniaeth draddodiadol Gymraeg. Gellid cyfeirio hefyd at waith T. Gwynn Jones fel enghraifft ‘glasurol’ o farddoniaeth ramantaidd sy’n cyflwyno’r byd drwy gyfrwng profiad emosiynol yr unigolyn. Yn yr ystyr hwn gellid dweud bod nofelau Charles Dickens yn enghreifftiau clasurol o’r nofel Fictorianaidd, er na fyddai neb yn priodoli iddynt y rhinweddau ffurfiol, clasurol. Y mae’n debyg bod y defnydd hwn o’r gair yn dibynnu ar fodolaeth cysyniad clir, cyffredin o’r teip neu’r arddull y mae’r gwaith unigol yn ei enghreifftio. Gellid dadlau hefyd ei bod yn anos meddwl am unrhyw waith llenyddol fel un clasurol i’r graddau ei fod yn unigryw. Er y gellid cynnig bod Gweledigaethau’r Bardd Cwsc, Ellis Wynne, yn rhannu llawer gydag awduron dychanol yr 17g., ceir ynddynt y fath egni ac afiaith annisgybledig na fyddai neb yn dymuno’u disgrifio fel clasuron.

Ioan Williams

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.